Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 10.04.2026
Media Cymru ac S4C yn buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu ar gyfer rhaglenni digidol-yn-gyntaf
Mae Media Cymru, mewn partneriaeth â S4C, wedi buddsoddi £80,000 mewn prosiectau ymchwil a datblygu i greu cynnwys gwreiddiol ar gyfer sioeau digidol-yn-gyntaf heb eu sgriptio wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd iau.
Cynlluniwyd Cronfa Arloesi Cynnwys Digidol Media Cymru × S4C – sy’n cyd-fynd â strategaethau YouTube, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol S4C – i feithrin gwybodaeth, profiad, capasiti ac arbenigedd yn y sector cynhyrchu yng Nghymru, yn ogystal â thargedu sioeau digidol y gellid eu dosbarthu ar draws sawl platfform.
Derbyniodd pedwar cwmni o Gymru £20,000 yr un i ymchwilio i’w syniadau a’u datblygu.
Dyfarnwyd cyllid i gwmnïau On Par Productions, Orchard, Slam Media a Tomos TV sy’n edrych ar animeiddio, comedi a rhaglenni ffeithiol fel rhan o’r Gronfa Arloesi Cynnwys Digidol.
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Wrth i S4C wireddu ein hamcan i ehangu gwylio fel darlledwr digidol-yn-gyntaf, mae buddsoddi mewn ystod o gynnwys gwreiddiol ar y platfformau digidol hynny yn bwysicach nag erioed. Rydym yn ddiolchgar i Media Cymru am eu cefnogaeth wrth i ni gyd-weithio i weld Cymru, a’r Gymraeg, yn ffynnu.”
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yn partneru gydag S4C ar y Gronfa Arloesi Cynnwys Digidol, sy’n cyd-fynd â strategaethau YouTube, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol y darlledwr. Mae gwyro at gynnwys digidol yn dod yn fwyfwy pwysig i gwmnïau cynhyrchu ac roedd y gronfa hon yn cynnig cyfle i archwilio, dyfeisio a rhoi cynnig ar bethau newydd gyda’r bwriad o greu modelau busnes a chyfleoedd newydd ar draws llwyfannau digidol.
“Pwrpas y gronfa oedd meithrin gwybodaeth, profiad, capasiti ac arbenigedd yn y sector cynhyrchu yng Nghymru, gan dargedu’n benodol sioeau digidol y gellid eu dosbarthu ar sawl platfform. Daeth pedwar cysyniad arloesol i’r amlwg ac mae hyn yn dangos pa mor werthfawr yw caniatáu amser i gwmnïau annibynnol ymchwilio a datblygu i greu rhywbeth newydd.”
Prosiectau Cronfa Arloesi Cynnwys Digidol Media Cymru × S4C:
On Par Productions: Legend Hunters
Mewn cyfres ffeithiol ddigidol-yn-gyntaf, gwelwn y cyflwynydd Seren Hawley-Plows yn trafod y chwedlau, yr arferion a’r traddodiadau sydd wedi ffurfio Cymru, o’r Fari Lwyd a ffynhonnau iachau i feddyginiaethau llysieuol a defodau tymhorol, gan ailedrych arnyn nhw drwy lens fodern.
Mae’r prosiect wedi’i wreiddio yn nhraddodiad cyfoethog Cymru o adrodd straeon, ac yn datgelu gwir darddiad y credoau hyn gan holi beth allen nhw ei ddatgelu o hyd am bwy ydyn ni heddiw.

Orchard: Diwrnod i’r Brenin / King for a Day
Cyfres o gyfweliadau ffurf fer, wedi’u gwneud ar gyfer platfformau digidol, gyda gwestai enwog ym mhob pennod yn dweud beth y bydden nhw’n ei wneud pe baen nhw’n teyrnasu am 24 awr. O wahardd mân siarad i wneud ‘dry robes’ yn orfodol, does dim syniad yn rhy hurt nac yn rhy feiddgar. Dros dair rownd gyflym, cânt eu herio i gyflwyno, trafod ac amddiffyn eu gorchmynion brenhinol gwylltaf, dan lygad craff Digrifwr y Llys, y cyflwynydd direidus Iestyn Arwel.
Mae’r penodau peilot yn croesawu Catrin Feelings, a gyrhaeddodd rownd derfynol cyfres 7 Drag Race UK, a’r digrifwr, actor ac awdur gwobrwyedig Jayde Adams, wrth iddyn nhw rannu tri archddyfarniad.

Slam Media: Crinj
Cyfres ddigidol newydd yn trin a thrafod eiliadau mwyaf poenus, perthnasol a cywilyddus bywyd ͏– wedi’u hadrodd gan oedolion sy’n ddigon dewr o’r diwedd, i gyfaddef eu straeon dyfnaf sy’n peri embaras.
Mae’r fformat unigryw yn trawsnewid pobl go iawn yn gymeriadau llawn mynegiant wedi’u hanimeiddio er mwyn eu cadw’n anhysbys, felly mae’r cyfranwyr yn teimlo’n rhydd i rannu’r profiadau na fydden nhw fel arfer yn eu cyfaddef. Gan gyfunorecordiadau llais go iawn gydag animeiddiad bywiog, yn seiliedig ar gymeriadau, mae pob pennod yn dod ag atgofion yn fyw – yn cofnodi’r hiwmor a’r galar, gan ein hatgoffa bod gan bawb stori gyffrous sy’n werth ei hadrodd.

Tomos TV: Unbelievable
Fformat dogfen digidol-yn-gyntaf sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) arloesol i ddod â straeon Cymreig anhygoel yn fyw i gynulleidfaoedd byd-eang. Bydd y prosiect yn arloesi drwy llif gwaith wedi’i wella gan AI i gynhyrchu cynnwys fideo a sain cyson, cost-effeithiol, ansawdd uchel.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau cronfa Arloesi Cynnwys Digidol Media Cymru × S4C, dilynwch Media Cymru ac S4C ar LinkedIn neu cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Media Cymru.