Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16.03.2026
Cymru Greadigol a Media Cymru yn ariannu 15 o fusnesau creadigol Cymru i archwilio platfformau digidol
Bydd y prosiectau ymchwil a datblygu’n gweithio gydag NFTS Cymru ar eu datblygiadau newydd
Mae busnesau creadigol Cymru yn troi eu sylw at blatfformau digidol diolch i gyllid ar gyfer archwilio dulliau arloesol o greu a dosbarthu cynnwys digidol.
Mae Cronfa Platfformau Digidol Media Cymru x Cymru Greadigol x NFTS Cymru wedi’i chynllunio i greu amser ac adnoddau er mwyn i gwmnïau annibynnol Cymru ym meysydd ffilm a theledu, gemau, animeiddio a cherddoriaeth allu canolbwyntio ar ymchwil, datblygu ac arloesi.
Mae’r 15 prosiect a ariannwyd wedi derbyn £20,000 yr un i dreulio pedwar mis yn datblygu cynnwys digidol gwreiddiol. Yn ogystal, byddant yn ymchwilio sut i wneud y mwyaf o gyfleoedd platfformau digidol gan gynnwys strategaethau masnacheiddio, cydweithrediadau posibl, ac ymgysylltu a rhyngweithio â’r gynulleidfa.
Mae’r prosiectau a ariennir yn cwmpasu disgyblaethau creadigol gan gynnwys gemau, animeiddio, rhaglenni dogfen, pypedwaith, comedi, cerddoriaeth a drama yn y Gymraeg.
Bydd cwmnïau’n canolbwyntio eu hymchwil a datblygu ar fformatau ar-lein sy’n dod i’r amlwg fel dramâu fertigol a fodlediadau yn ogystal ag edrych ar gynnwys digidol trwy lens gweithlifau ffrydio byw, ffurf fer ac AI.
Dywedodd Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:
“Mae Cymru wastad wedi bod yn gartref i dalent greadigol eithriadol, ac mae’r gronfa hon yn ymwneud â sicrhau bod ein diwydiant mewn sefyllfa i ffynnu mewn tirwedd ddigidol sy’n newid yn gyflym. Mae’r 15 cwmni hyn yn cynrychioli maint ac uchelgais busnesau creadigol Cymru – o ffilm, teledu ac animeiddio i gerddoriaeth – ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut maen nhw’n gwthio’r ffiniau yn ystod y misoedd nesaf. Drwy fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu nawr, rydyn ni’n helpu poblgreadigol yng Nghymru i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r modelau masnachol sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang a chystadlu ar y lefel uchaf.”
Dywedodd Dr Matt Boswell, Rheolwr Rhaglenni Media Cymru:
“Rydyn ni wrth ein bodd â’r bartneriaeth gyda Cymru Greadigol ac NFTS Cymru ar y gronfa ymchwil a datblygu newydd.
“Ers i Media Cymru ddechrau yn 2022, mae creu, dosbarthu a defnyddio cynnwys wedi newid yn sylweddol gyda phlatfformau digidol fel YouTube yn chwyldroi arferion cyfryngol. Mae Adroddiad Blynyddol diweddaraf Ofcom yn dangos mai YouTube yw’r ail wasanaeth mwyaf o ran gwylwyr yn y DU bellach ar ôl y BBC. Ac er mai plant ac oedolion iau sy’n ysgogi’r duedd, mae pobl dros 55 oed wedi dyblu eu hamser ar y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Felly, mae cynnwys ar y platfformau hyn yn esblygu, fel y mae agweddau darlledwyr, gyda chwmnïau fel y BBC, ITV, a Channel 4 i gyd bellach yn ymrwymo i sicrhau bod eu cynnwys ar gael ar blatfformau digidol.
Mae’r Gronfa Platfformau Digidol wedi’i chynllunio i sicrhau y gall cwmnïau cynhyrchu Cymru arloesi yn y maes ac aros ar flaen y gad. Byddant yn datblygu cynnwys newydd ar gyfer platfformau digidol ac yn ymgysylltu ag arbenigwyr a chynnal ymchwil a fydd yn dwysau dealltwriaeth o algorithmau, cymunedau ar-lein, a sut i fasnacheiddio eiddo deallusol.”
Y cwmnïau a ariennir drwy’r Gronfa Platfformau Digidol yw: Bomper Studio, Boom Cymru , Bumpybox, Good Gate Media, House 7 Creative, On Par Productions, Postcard Media, Rondo Media, Slam Media, Awkward Studios, Bright Branch Media, Cwmni Da, NATA MEDIA, Sain (Recordiau) Cyf a Wild Dream Films.
Dywedodd John Giwa-Amu, Cynhyrchydd a sylfaenydd Good Gate Media: “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Media Cymru a Chymru Greadigol am gefnogi ein proses Ymchwil a Datblygu arloesol, gan roi’r cyfle inni ddysgu am dechnolegau AI yn gyfrifola chreu cyfleoedd newydd i bobl greadigol ar draws platfformau digidol.”