string(106) "/cym/wales-first-virtual-production-fellowship-delivers-transformative-advanced-media-production-training/" Skip to main content
int(5473)
News

Cyhoeddwyd ar 10.07.2026

Mae Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir gyntaf Cymru yn cynnig hyfforddiant cynhyrchu cyfryngau uwch trawsnewidiol

A behind-the-scenes studio scene with cameras, monitors, and crew gathered around a live virtual production demonstration.

Mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiannau creadigol a phobl greadigol sy’n dechrau dod i’r amlwg wedi cwblhau Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir gyntaf Cymru, gan ennill sgiliau arloesol ym maes cynhyrchu cyfryngau uwch.

Daeth y rhaglen, a gyflwynwyd gan Final Pixel Academy, mewn partneriaeth â Media Cymru partner consortiwm Prifysgol De Cymru a chefnogaeth fivefold a Gorilla Academy, â phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant at ei gilydd ar gyfer hyfforddiant ymarferol mewn llifoedd gwaith amser real a thechnegau cynhyrchu rhithwir. 

Gwnaeth Final Pixel Virtual Production Fellowship™  gynnig profiadau manwl o safon i 16 aelod o griw lefel ganolig i uwch a thalent sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant – gan weithio ar draws ffilmiau, teledu lefel uchel, gemau, darlledu, animeiddio, effeithiau gweledol, digwyddiadau byw ac ôl-gynhyrchu yng Nghymru. 

Mae galw cynyddol am sgiliau cynhyrchu rhithwir o bob rhan y sector wrth i gynyrchiadau fabwysiadu llifoedd gwaith cyfaint LED a pheiriannau amser real i symleiddio sesiynau ffilmio, gwella rheolaeth greadigol a chefnogi arferion mwy cynaliadwy. 

Dros gyfnod o naw mis, datblygodd y sawl a gymerodd ran gymwyseddau cynhyrchu rhithwir craidd – boed hynny yn creu amgylcheddau rhithwir neu’n gweithio y tu mewn i gyfaint LED – gan fagu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amgylcheddau cynhyrchu.

Dyma a ddywedodd James Codling, Prif Hyfforddwr Final Pixel Academy:

“Mae’r Gymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd hyfforddiant yn seiliedig ar lifoedd gwaith cynhyrchu cyfredol. Peth gwych yw gweld pa mor gyflym y mae pobl yn datblygu sgiliau, ond ar ben hynny yr hyder yn y dechnoleg a’r newidiadau sy’n digwydd yn y diwydiant. Mae cymrodyr yn ymuno â ni yn chwilfrydig ac yn ein gadael yn barod ac yn awyddus iawn i roi hyn ar waith mewncynyrchiadau. Llwyddodd rhai cymrodorion hefyd i ymuno â lleoliad cynhyrchu Final Pixel byw, gan ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd stiwdio Cynhyrchu Rhithwir proffesiynol.  

Imi, y llwyddiant go iawn yw creu lle lle i bobl gael dysgu, cydweithio ac arbrofi’n rhwydd, gan ganiatáu iddyn nhw ddeall eu rhan mewn maes yn y diwydiant sy’n datblygu’n barhaus.”

Dyma ddywedodd Lewis Rawlins, hyfforddai Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Cymru: 

“Rhoddodd y lleoliad gyflwyniad anhygoel i mi i gynhyrchu rhithwir ar y set a chefais fy ysbrydoli o ran fy nyfodol yn y diwydiant. Roedd bod yn rhan o osodiad cynhyrchu rhithwir go iawn, o gamerâu y tu ôl i’r llenni i gledru camerâu, yn brofiad ymarferol gwerthfawr i mi ar lefel broffesiynol.” 

Dywedodd Sally Lisk-Lewis, Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Media Cymru:  

“Nid y dechnoleg yn unig sy’n gwneud Cynhyrchu Rhithwir yn arbennig – ond parodrwydd cymuned fyd-eang i ddysgu gyda’i gilydd, addysgu gyda’i gilydd a thyfu gyda’i gilydd. Drwy ein Cymrodoriaeth, rydyn ni’n helpu i greu’r gymuned honno yng Nghymru un cyswllt ar y tro.   

Hoffen ni ddiolch i Final Pixel, fivefold a Gorilla am ddod at ei gilydd i wireddu hyn.” 

I wyliwch gyfres o fideos o Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Cymru, ymwelwch YouTube Media Cymru.