string(61) "/cym/blog-posts/spotlighting-welsh-language-media-innovation/" Skip to main content
Blog

Cyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2026

Sylw i arloesedd yn y cyfryngau Cymraeg.

O fformatau arloesol a dulliau mentrus o adrodd straeon i brofiadau ymdrochol ac offer digidol newydd, mae Media Cymru wedi cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil a datblygu Cymraeg, gan helpu pobl greadigol i archwilio syniadau, technolegau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau. 

Arweiniwyd un o brosiectau ymchwil a datblygu mwyaf uchelgeisiol Media Cymru gan bartner y consortiwm, S4C, gan archwilio sut y gallai darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Gymraeg ffynnu mewn byd sy’n gynyddol ddigidol. Mae rhai o’r prosiectau hefyd wedi profi eu gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys menter sero net Afanti, Afango, a lansiwyd yn Eisteddfod yr Urdd yn 2024. Llwyddodd Afango i bweru’r cynhyrchiad ar gyfer S4C gyda hydrogen gwyrdd o Gymru, systemau batri datblygedig, seilwaith symudol ar gyfer gwefru cerbydau trydan a biodanwyddau cynaliadwy.

Yn y cyfnod cyn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las fis nesaf (1–8 Awst), rydyn ni’n tynnu sylw at rai o’r arloesiadau hynny sy’n gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl ym myd y cyfryngau Cymraeg. Bydd rhai o’r arloeswyr y tu ôl i’r prosiectau hyn yn ymuno â ni ar stondin Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod ddydd Gwener 7 Awst. Gwahoddir Eisteddfodwyr i gymryd rhan yn yr arddangosiadau byw a’r profion ymchwil a datblygu.  

Arloesi wrth Adrodd Straeon

Slam Media: Y Deis  

Datblygodd a phrofodd Slam Media dechnoleg newydd ar gyfer sioe gemau a chreu fformat gwreiddiol yn Gymraeg, gan arwain at gomisiwn gan S4C ar gyfer Y Deis (a ddarlledwyd yn 2025).  

Gyda’r cyflwynydd teledu o Gymro James Williams wrth y llyw, mae’r rhaglen yn gyfuniad cyffrous o wybodaeth, strategaeth ac ychydig o lwc. Crëwyd y fformat gan Gavin Cox o Slam Media, a gafodd ei ysbrydoli gan yrfa ei ddiweddar dad yn dylunio gemau peiriannau ffrwythau.  

Mae’r fformat eisoes wedi denu diddordeb rhyngwladol, gyda’r darlledwr Gwyddelig TG4 yn sicrhau’r hawliau i greu fersiwn 10 pennod yn y Wyddeleg. Mae y Deis hefyd wedi cael ei ail-gomisiynu ar gyfer ail gyfres gan TG4 ac S4C.  

Game show set with neon lights, a podium with a man smiling by it, and a large screen displaying ‘Y DEIS’

Rondo Media: Drama Fertigol Rownd a Rownd

Mae Rondo Media yn edrych ar gynhyrchu Drama Fertigol fel estyniad digidol cyntaf i’r eiddo deallusol Cymraeg hirhoedlog Rownd a Rownd.   

Mae’r canlyniadau wedi cynnwys penodau peilot, yn ogystal ag adroddiad ymchwil cynulleidfa a fframwaith strategol i gefnogi datblygiad masnachol drama Gymraeg ddigidol-yn-gyntaf yn y dyfodol.  

Gwyliwch y penodau newydd:  Byddwn yn arddangos penodau newydd drama fertigol Rownd a Rownd ar ein stondin Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod rhwng 12:00 – 14:00. Dewch i’w gweld!  

Cwmni Da: RWBICON

Cyfres ddrama ddigidol-yn-gyntaf mewn chwe rhan yw RWBICON, lle nad yw’r gwylwyr yn gwylio’r stori’n unig, maen nhw’n ei siapio hi, gan ddylanwadu ar y funudau allweddol a dewis sut mae’n dod i ben.

Mae’r prosiect yn archwilio dulliau newydd o adrodd straeon rhyngweithiol yn y Gymraeg ar gyfer cynulleidfaoedd digidol, gan dynnu ysbrydoliaeth o fformatau fel Bandersnatch gan Netflix a’r llyfrau clasurol Choose Your Own Adventure. Trwy ap pwrpasol, mae’r gynulleidfa’n symud drwy naratif canghennog, gan wneud penderfyniadau ar hyd y ffordd sy’n agor llwybrau gwahanol a sawl diweddglo posib. 

Wedi’i ddatblygu fel prosiect ymchwil a datblygu, mae RWBICON yn profi beth all drama ryngweithiol ei gynnig i genhedlaeth newydd o wylwyr digidol-yn-gyntaf.

Cwrdd â’r tîm: Bydd Cwmni Da yn ymuno â ni ar ein stondin Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod am 11:00 i arddangos gwaith ymchwil a datblygu’r prosiect. Mae croeso cynnes i ymwelwyr roi cynnig ar yr ap eu hunain a siapio diweddglo’r stori.

Slam Media: Seren ‘Deche’

Mae Slam Media yn datblygu Seren ‘Deche’, cyfres gomedi parodi sy’n dilyn Iwan Owen, seren o Gymru sydd â meddylfryd un o enwogion mwyaf y byd sy’n llywio bywyd yn y cyfryngau Cymreig.   

Mae’r prosiect yn dychanu diwylliant Cymru, egos chwyddedig, a realiti enwogrwydd ar raddfa fach yng Nghymru.   

Gan gyfuno comedi wedi’i sgriptio a heb ei sgriptio, mae’r fformat yn cyfuno llinellau stori pendant â byrfyfyrio, gan ganiatáu i berfformwyr ymateb i bethau mewn amser real.  

Dyma’r tîm: Bydd Osian Thomas o Slam Media yn ymuno â ni ar ein stondin Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod am 15:00 i siarad am y gwaith ymchwil a datblygu y tu ôl i’r prosiect a’i ymagwedd arloesol at adrodd straeon.   

Sylw i arloesedd yn y cyfryngau Cymraeg.

Arloesi wrth Ymdrochi

Creu Tech: Artio 

Profiad adrodd straeon ymdrochol Cymraeg yw Artio sy’n ail-ddychmygu chwedl Arthur drwy lens ecolegol a ffeministaidd. Gan gyfuno cerddoriaeth wreiddiol, rhyngweithio â’r gynulleidfa a delweddau ymdrochol, mae’r gwaith yn gwahodd cynulleidfaoedd i gyd-greu chwedl fyw – a’i llunio mewn amser real drwy symud a sain. Cyfansoddwyd cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer y profiad yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Dan arweiniad y Crëwr a’r Cynhyrchydd Ashley McAvoy a’r Cyfarwyddwr Creadigol Klaire Tanner, datblygwyd Artio drwy Gronfa Her Outernet Media Cymru, ac fe’i dangoswyd y llynedd yn Outernet Llundain, un o amgylcheddau cyfryngau amser real mwyaf datblygedig y byd.  

Mae’r prosiect yn dangos sut y mae modd cyfuno adrodd straeon gyda cherddoriaeth, delweddu trochol a rhyngweithio â’r gynulleidfa i greu profiadau ymdrochol y gellir eu hehangu mewn lleoliadau ledled y byd. 

Cyflwynwyd Artio hefyd ym Marchnad Ymdrochol Gŵyl Ffilmiau Cannes eleni, ac mae bellach yn symud i’r cam datblygu nesaf fel profiad ymdrochol teithiol, sy’n edrych sut y gall straeon o Gymru gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.  

Cwrdd â’r tîm: Bydd Klaire Tanner (CreuTech) ac Owain Rhys (bardd sydd wedi ennill cystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyfranwr i trac sain Artio) yn ymuno â ni ar ein stondin Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod am 14:00 i arddangos teclyn prototeipio realiti rhithiol a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu Artio. 

Sylw i arloesedd yn y cyfryngau Cymraeg.

Cyfryngau Digidol S4C: Dod â digwyddiadau cerddoriaeth rhyngweithiol byw i’r ystafell fyw 

Yn 2025, aeth S4C i bartneriaeth gyda Condense – cwmni arloesol ym maes digwyddiadau byw ymdrochol – i gynnal y gig realiti ymdrochol cyntaf yn Gymraeg. Roedd y digwyddiad yn edrych ar fformatau newydd i ddenu cynulleidfaoedd ifanc Cymraeg at brofiadau cerddorol. 

Recordiwyd y perfformiad byw gan gamerâu darlledu a’i ffrydio’n syth i amgylchedd rhithwir ar ffurf hologramau. Roedd y gynulleidfa’n bresennol fel afatarau, yn rhyngweithio â cherddorion Cymraeg (Dom a Lloyd) mewn amser real a phrofi’r digwyddiad yn fyw yn eu cartref.
 

Sylw i arloesedd yn y cyfryngau Cymraeg.

Arloesi ym maes Technoleg a Deallusrwydd Artiffisial

Y Pod Cyf.: Llais

Mae Y Pod Cyf. wedi datblygu Llais, offeryn cydamseru gwefusau yn y Gymraeg yn seiliedig ar AI, sy’n cydamseru cynnwys fideo Cymraeg a Saesneg. Mae’r dechnoleg yn creu gwasanaethau newydd ar gyfer marchnadoedd hyfforddi a fideos corfforaethol, ac i gwmnïau cynhyrchu teledu, er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach ac chynyddu dosbarthiad y cynnwys.  

Bu’r prosiect yn edrych ar sut y gellir integreiddio AI yn gyfrifol ac yn effeithiol i lifoedd gwaith ôl-gynhyrchu presennol. Dangosodd y gallai’r dechnoleg wella effeithlonrwydd a chynyddu cyfleoedd dosbarthu, ac eto barhau i ddibynnu ar arbenigedd dynol i gyflawni canlyniadau ansawdd uchel. 

Cwrdd â’r tîm: Bydd Aled Jones o Y Pod Cyf. yn ymuno â ni ar ein stondin Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod am 10:00 i ddangos offeryn Llais ac arddangos ei botensial i’r cyfryngau Cymraeg.

ATGOF

Mae ATGOF yn ap cynhyrchu â chymorth deallusrwydd artiffisial (DA) sy’n helpu cast a chriw sy’n gweithio ar gynyrchiadau teledu sy’n seiliedig ar sgriptiau i gael mynediad at wybodaeth a’i rhannu pan fydd ei hangen arnyn nhw.

Mae’r platfform wedi’i gynllunio ar gyfer adrannau gan gynnwys gwisgoedd, colur, celf a chynhyrchu, ac yn disodli’r angen am brosesau papur drwy alluogi timau i rannu sgriptiau, amserlenni, taflenni galwadau a gwybodaeth o ran parhad mewn amser real.

Mae’r ap eisoes ar waith gan gynyrchiadau o Gymru gan gynnwys Rownd a Rownd, ac yn fwy diweddar Pobol y Cwm, gan helpu cynyrchiadau i weithio’n fwy effeithlon a chefnogi cynaliadwyedd drwy lif gwaith di-bapur.

Triongl: SgrînPas  

Mae SgrînPas yn offeryn digidol arloesol ar gyfer cynyrchiadau, a ddechreuodd fel cysyniad Pasbort Mynediad Digidol, gyda’r nod o wella hygyrchedd a chynhwysiant ar draws y sector sgrin. Yn ystod y broses ymchwil a datblygu, datblygodd Triongl y syniad yn blatfform cynhyrchu ehangach sy’n rhoi hygyrchedd ac ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) wrth wraidd llifoedd gwaith cynhyrchu.

Wedi’i adeiladu ar blatfform dosbarthu sgriptiau presennol Triongl, Sgript, mae’r offeryn yn galluogi cynyrchiadau i gasglu data ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant dienw o ddechrau prosiect. Mae hefyd wedi cyflwyno nodweddion fel dogfennau hawdd eu darllen a gynhyrchwyd gan DA, ac offer ar gyfer rheoli gofynion dietegol, iechyd a mynediad drwy gydol y broses gynhyrchu, gan helpu’r cast a’r criw i gael gafael ar wybodaeth allweddol mewn un lle.

Mae’r platfform wedi’i brofi’n llwyddiannus ar teledu ansawdd uchel Cymraeg ac yn parhau i esblygu, gan helpu i greu amgylcheddau gwaith mwy hygyrch, effeithlon a chynhwysol, ac ar yr un pryd yn symleiddio llifoedd gwaith cynhyrchu.

Arloesi wrth Ymgysylltu â Chymunedau yn Gymraeg

Lily Pad Films: Cysylltu: Cysylltiad Cymreig  

Bu Cysylltu’n edrych ar fideo rhyngweithiol – gan gynnwys AR, VR ac XR – ochr yn ochr â theatr ymdrochol, i gynnig cyfleoedd creadigol ar gyfer dysgu Cymraeg a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Bu’r prosiect hefyd yn archwilio ffyrdd o ddarparu hyfforddiant gyrfa gynnar i bobl dan 16 oed yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). 

Yn dilyn llwyddiant y camau ymchwil a datblygu, mae dau gam datblygu pellach wedi’u hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Weledigaeth Pen y Cymoedd. Gan adeiladu ar waith presennol, maen nhw’n datblygu gemau a phrofiadau rhyngweithiol ar gyfer dysgu Cymraeg.  

Maen nhw hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid RhCT i gynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal

Newyddion i Bawb

Mae Newyddion i Bawb yn estyniad o brosiect News for All a ariannwyd gan Media Cymru, ac mae’n edrych ar sut y gall cymunedau ledled Cymru ysbrydoli ffurfiau newydd o newyddiaduraeth. 

Dan arweiniad yr ymchwilydd a’r newyddiadurwr, Shirish Kulkarni ym Mhrifysgol Caerdydd, dyfarnwyd Gwobr Ymarferydd Arloesi Cymunedol UKRI i’r prosiect yn ddiweddar.  

Gan weithio gyda chymunedau Cymraeg ym Mlaenau Ffestiniog a gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys S4C, mae Newyddion i Bawb yn defnyddio technegau theatr i ddeall yn well beth mae pobl leol eisiau a’i angen o newyddiaduraeth.  

Mae’r prosiect yn prototeipio, datblygu a phrofi datrysiadau mewn amgylcheddau newyddiaduraeth yn y byd go iawn i gysylltu diwylliant, newyddion a chymunedau ledled Cymru yn well wrth sicrhau bod lleisiau lleol yn parhau i fod wrth wraidd y broses.  

Bydd canlyniadau Newyddion i Bawb, gan gynnwys podlediadau Cymraeg a Saesneg, yn cael eu rhannu yn ddiweddarach eleni. 
 

Sylw i arloesedd yn y cyfryngau Cymraeg.

Dim ond detholiad o arloesiadau Cymraeg a gefnogir gan Media Cymru yw’r prosiectau hyn. Rydyn ni hefyd wedi cydweithio â’r darlledwyr S4C, BBC a Channel 4 ar amrywiol gronfeydd cynnwys arloesol, gan gefnogi datblygu cynnwys a thalentau Cymraeg yn y sector.  

Byddwn yn rhannu rhagor o straeon prosiectau drwy gydol y flwyddyn fel rhan o’r rhaglen arddangos.  Ym mis Medi, bydd Media Cymru yn cynnal PLAYBACK, gŵyl arloesi dros dri diwrnod yng Nghaerdydd. Daw’r digwyddiad â nifer helaeth o brosiectau ymchwil a datblygu ynghyd sy’n archwilio cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i greu newid yn sector y cyfryngau yng Nghymru. I ddysgu mwy am effaith Media Cymru ar y sector a’r prosiectau sy’n ysgogi arloesedd cynaliadwy, cynhwysol a byd-eang, cofrestrwch am docynnau am ddim i PLAYBACK. 

 

Sylw i arloesedd yn y cyfryngau Cymraeg.