string(51) "/cym/events/darlith-etifeddiaeth-paul-higgins-2023/" Skip to main content
int(901)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 11.09.2023

Darlith Etifeddiaeth Paul Higgins 2023

Dyddiad: 05.10.2023

Amser: 6yh – 9yh

Lleoliad: I fyny'r grisiau ym Marchnad Casnewydd

Graffeg: 5 Hydref 2023 - Media Cymru yn cyflwyno Darlith Etifeddiaeth Paul Higgins

Roedd Paul Higgins MBE yn rhan annatod o greu Media Cymru – crediniwr cam cynnar, dyn syniadau a hyrwyddwr.

Gan weithio yn y sector am fwy na 40 mlynedd, ysbrydolodd Paul eraill trwy ei waith gweledigaethol, ei fentoriaeth a’i ymrwymiad i rannu gwybodaeth a datblygu pobl. Derbyniodd MBE am wasanaethau i’r diwydiant celfyddydau, ffilm a theledu yng Nghymru.

Pan oedd Media Cymru wrthi’n cael ei ddatblygu, helpodd Paul i lunio ein huchelgeisiau mewn meysydd gan gynnwys cynhyrchu rhithwir, sgiliau a datblygu busnes – i gyd drwy lens cynhwysiant ac eiriolaeth.

Bydd gan Ddarlith Etifeddiaeth flynyddol Paul Higgins y themâu a’r gwerthoedd hyn yn ei chanol, gan addysgu a rhwydweithio’r rhai yn y sector, ac yn benodol annog y rhai sy’n awyddus i ymuno â’r diwydiant.

Bydd y ddarlith agoriadol yn canolbwyntio ar angerdd Paul dros fuddsoddi a chefnogi talent leol gyda chyflwyniad gan y Cynhyrchydd John Giwa-Amu, Prif Swyddog Gweithredol Good Gate Media am ei waith a’i weithgaredd yng Nghymru ac ar draws y byd ar deitlau gan gynnwys Don’t Knock Twice, The Machine, The Party, Deathtrap Dungeon a Count Me In. Bu’r cyn-fyfyriwr yn Ysgol Ffilm Casnewydd yn gweithio’n agos gyda Paul yn ystod ei yrfa, gan nodi iddo ei ysbrydoli, ei annog a’i fentora i ddechrau ei gwmni newydd Good Gate Media.

Ymunwch â ni o 6pm ddydd Iau, 5 Hydref i glywed gan John Giwa-Amu, rhwydweithio gyda’r rhai sy’n gweithio yn y cyfryngau yn Ne Cymru a dathlu bywyd Paul Higgins.

Cadwch le yma

Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol, iaith neu hygyrchedd fel alergeddau, mynediad gwastad, cyfieithu ar y pryd, neu ystafell dawel, rhowch wybod i ni yn y blwch perthnasol wrth archebu eich tocyn.