string(144) "/cym/arbenigwyr-realiti-estynedig-xr-ristband-i-ymweld-a-chaerdydd-ar-gyfer-cyfres-o-weithdai-rhyngweithiol-ar-dechnoleg-ymgolli-a-digwyddiadau/" Skip to main content
int(1517)
News

Cyhoeddwyd ar 09.10.2024

Arbenigwyr Realiti Estynedig (XR) RISTBAND i ymweld â Chaerdydd ar gyfer cyfres o weithdai rhyngweithiol ar dechnoleg ymgolli a digwyddiadau 

Amdano Arloeswr Preswyl Media Cymru: RISTBAND

Mae’n bleser gan Media Cymru groesawu arbenigwyr Realiti Cymysg RISTBAND i Gaerdydd ar gyfer cyfres o weithdai rhyngweithiol i ddiwydiant cyfryngau Cymru yr wythnos nesaf. 

Mae RISTBAND – cwmni technoleg a stiwdio greadigol – yn creu cyfnod newydd o adloniant gan ddefnyddio peiriannau gemau, realiti rhithwir, deallusrwydd artiffisial a’r dechnoleg ddiweddaraf i greu profiadau ymgolli yn fyw ac ar-lein.   

RISTBAND fydd trydydd Arloeswr Preswyl Media Cymru, a gynhelir rhwng 14-17 Hydref 2024. Mae hyn yn dilyn lansio’r Arloeswr Preswyl cyntaf – sef yr arbenigwr XR Alex Counsell – ym mis Tachwedd y llynedd.    

“Mae Ristband wedi llwyddo i gyfuno cerddoriaeth a thechnoleg ymgolli i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr ar draws y byd. Rydym ni wedi gallu sicrhau incwm cynaliadwy i’r artistiaid yr ydym yn gweithio â nhw, yn ogystal â chreu busnes masnachol ymarferol ohono. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o raglen Arloeswyr Preswyl Media Cymru, i rannu ein gwybodaeth a’n hadnoddau er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i eraill allu cymryd rhan yn y chwyldro cyffrous hwn.” 

meddai Anne McKinnon, Cyfarwyddwr Ristband.   

Cyfres Digwyddiadau RISTBAND

Ymunwch â thîm RISTBAND ddydd Llun 14 Hydref i sgwrsio â’u harbenigwyr XR a fydd yn rhannu mewnwelediadau i dechnoleg ymgolli drawsffurfiol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i daro golwg ar eu Harddangosiad o Gyngerdd Realiti Cymysg sydd wedi ennill gwobrau.   

Yn dilyn cyflwyniad i RISTBAND, ar ddydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Hydref bydd gweithdy rhyngweithiol deuddydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu, datblygu a marchnata digwyddiadau ymgolli. Bydd y gyfres hon o weithdai’n cael ei chynnal gan dîm sefydlu RISTBAND, sydd wedi creu a theithio gyda nifer o brofiadau ymgolli arobryn ledled byd. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu o wybodaeth fanwl RISTBAND, profiad o gyfuno sgiliau a dulliau o fyd cerddoriaeth, ffilm, sinema, gemau, a theithio i arloesi yn y farchnad adloniant ymgolli sy’n datblygu.  

Mae cyfres digwyddiadau RISTBAND yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyfryngau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y defnydd o dechnoleg ymgolli mewn digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys: Artistiaid, Gwneuthurwyr Ffilmiau, Datblygwyr, Gweithwyr Cerddoriaeth proffesiynol, Cynhyrchwyr, Awduron, Dylunwyr Sain, a Pherchnogion Lleoliadau.  

Cynhelir y ddwy sesiwn yn The Sustainable Studio yng Nghaerdydd. I gadw eich lle, ewch i:  

Yn dilyn y gyfres o weithdai, ddydd Iau 17 Hydref mae RISTBAND yn cynnal sesiynau un i un ar gyfer y rhai sy’n chwilio am gyngor penodol ynghylch technoleg ymgolli a digwyddiadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu apwyntiad un i un gyda RISTBAND (Arloeswyr Preswyl presennol Media Cymru), anfonwch e-bost at media.cymru@cardiff.ac.uk gyda’r llinell pwnc ‘Ristband 121’.  

Mae gweithdai rhyngweithiol RISTBAND yn falch o fod yn rhan o ŵyl Dinas Cerddoriaeth Caerdydd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:dinasgerddcaerdydd.cymru/