string(65) "/cym/rhaglen-arloeswyr-preswyl-gyda-wythnos-realiti-estynedig-xr/" Skip to main content
int(944)
News

Cyhoeddwyd ar 03.11.2023

Media Cymru yn lansio rhaglen Arloeswyr Preswyl gyda wythnos Realiti Estynedig (XR)

Photo of Alex Counsell, a bearded man in glasses, standing confidently in front of wall art of a giant eye.

Mae Media Cymru yn gyffrous i gyhoeddi cyfnod preswyl cyntaf ein rhaglen newydd, Arloeswyr Preswyl (IiR).

Bydd ein Harloeswr Preswyl cyntaf, Alex Counsell, yn treulio wythnos 13–17 Tachwedd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r cyffiniau yn cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau sy’n archwilio Realiti Estynedig (XR).

Alex Counsell yw Cyfarwyddwr Technegol y Ganolfan Realiti Estynedig Creadigol a Throchi (CCIXR) ym Mhrifysgol Portsmouth. Bydd y cyfnod preswyl wythnos hwn yn dod ag arbenigedd Alex mewn dal symudiadau, effeithiau gweledol, cynhyrchu rhithwir a rhith-realiti i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr a chyfarfodydd gyda phartneriaid yn y diwydiant. Bydd yn rhoi’r cyfle i’r rhai o sector creadigol Cymru archwilio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes XR.

Gweler y rhaglen ar gyfer Arloeswyr Preswyl: Wythnos XR gydag Alex Counsell.

XR yw’r term ymbarél ar gyfer Realiti Rhithwir (VR), Realiti Estynedig (AR) a Realiti Cymysg (MR). Mae gwaith Alex a CCIXR yn ymdrin â meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer Media Cymru gan gynnwys technoleg drochi a chynhyrchu yn y dyfodol.

Bwriedir i’r rhaglen Arloeswyr Preswyl barhau yn 2024 a’r tu hwnt. Bydd y rhaglen yn darparu cyfleoedd i ymgysylltu ag arbenigedd o bob rhan o’r byd, yn galluogi cyfnewid gwybodaeth ac yn rhoi mewnwelediadau sy’n datblygu gwybodaeth, sgiliau a syniadau newydd i gefnogi’r gweithgarwch arloesi sy’n digwydd ym mhrifddinas Caerdydd. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno trwy ddosbarthiadau meistr, gweithdai, cyfarfodydd wedi’u trefnu a theithiau masnach sy’n dod i mewn.

Dywedodd Alex Counsell: “Ar ôl cael fy magu ychydig y tu allan i Gaerdydd, mae’n anrhydedd cael dod adref i rannu fy mhrofiadau â’r gymuned greadigol yma yn Ne Cymru! Mae cael gwahoddiad i fod y cyntaf yn y rhaglen anhygoel hon yn ei gwneud hi’n fwy arbennig fyth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed am yr holl syniadau gwallgof, uchelgeisiol y mae XR yn eu hysbrydoli, a’r sgyrsiau a fydd, gobeithio, yn eu helpu i ddod yn realiti.”

Dywedodd Sara Pepper, Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Alex adref i Gymru i dreulio amser gydag unigolion a busnesau ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ystod ein hwythnos Arloeswyr Preswyl cyntaf. Mae ei wybodaeth a’i brofiad ym maes XR yn uchel ei barch, yn ogystal â’i berthynas â chydweithwyr yn y diwydiant. Rydym yn edmygu ei ddull sy’n ymwneud â defnyddio’r technolegau newydd hyn i wella profiadau cynulleidfaoedd a defnyddwyr ac adrodd straeon mewn ffyrdd newydd. Mae wedi gweithio ar rai o brosiectau XR mwyaf diddorol y DU dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal ag arwain cyflwyniad technegol y ganolfan (CCIXR) yn Portsmouth. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich cyflwyno i glwstwr creadigol de Cymru. Croeso mawr, Alex. Edrych ymlaen!”

Bywgraffiad Alex

Mae meysydd arbenigedd Alex Counsell yn amrywio o Dal Symudiadau ac Effeithiau Gweledol (VFX) i Gynhyrchu Rhithwir a Realiti Estynedig (XR). Mae’n frwd iawn ynghylch sut mae gan dechnoleg y potensial i gael ei defnyddio dros lawer o wahanol feysydd, yn enwedig yn y sector creadigol. Mae’n ymwneud yn weithredol ag ystod eang o brosiectau masnachol ac ymchwil sy’n archwilio hyn.

Mae gwaith Alex yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i archwilio meysydd newydd o ddatblygiad a chydweithio rhwng disgyblaethau creadigol a thechnegol, gan archwilio meysydd sy’n cynnwys Cynhyrchu Rhithwir, Rhith-wirionedd, Fideo 360, Dal Symudiadau a Fideo Cyfeintiol. Ei waith diweddaraf yw datblygu perfformiadau trochi gan ddefnyddio dal symudiadau amser real, cynhyrchu rhithwir ac XR. Mae hefyd wedi archwilio cadw crefft ymladd a dawns trwy gelf ddigidol ac adrodd straeon. Mae’r prosiectau hyn wedi’u hariannu’n llwyddiannus trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr, Digital Catapult, Innovate UK a chronfeydd ymchwil mewnol y Brifysgol. Mae wedi gweithio a chydweithio â chleientiaid diwydiant fel The Royal Shakespeare Company, Marshmallow Laser Feast, All Seeing Eye, East City Films, Fray Studios, Gŵyl Ryngwladol Manceinion, Cerddorfa Philarmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain, SuperUnion a’r Imaginarium Studios.

Ei rôl bresennol ym Mhrifysgol Portsmouth yw Cyfarwyddwr Technegol y Ganolfan ar gyfer Realiti Creadigol a Throchi ac Estynedig (CCIXR) sy’n ganolfan sy’n galluogi mynediad i gyfleusterau blaengar sy’n archwilio dulliau cynhyrchu a chyflwyno newydd, ac a agorodd ei drysau ym mis Mai 2022. . Ethos y ganolfan yw cymryd rhan mewn prosiectau masnachol ac Ymchwil ac Arloesi (Y+ A) blaengar sy’n llywio llifoedd gwaith a methodolegau newydd. Un o agweddau allweddol hyn yw datblygu cyflenwad talent newydd, ac er mwyn cyflawni hyn rydym yn cyflogi ein myfyrwyr yn rheolaidd i weithio gyda ni a’n cleientiaid. Fel hyn, gallant ddatblygu a defnyddio eu sgiliau mewn cyd-destun diwydiant go iawn wrth ymgymryd â’u hastudiaethau. Mae graddedigion o’r ganolfan bellach yn gweithio ar draws y byd mewn cwmnïau fel Vicon, yr Imaginarium Studios, Weta Digital, ILM, MPC, Framestore a Rockstar Games.