string(65) "/cym/blog-posts/ai-a-dyfodol-y-diwydiannau-creadigol-yng-nghymru/" Skip to main content
int(979)
Blog

Cyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2023

AI a Dyfodol y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru

Detholiad o ddelweddau a gynhyrchwyd gan Midjourney AI.

Mae deallusrwydd artiffisial (AI) eisoes yn troi’r byd â’i ben i waered. Bu Robin Moore, Ymgynghorydd Arloesedd gyda Media Cymru a Shwsh, yn sgwrsio â ni am arloesedd yn niwydiant cyfryngau Cymru, lle AI yn hynny, a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n datblygu arloesedd. Gwyliwch ar YouTube neu darllenwch y trawsgrifiad isod.

Trawsgrifiad

Pam mae arloesi mor bwysig i chi?

Roeddwn yn lwcus iawn ar ôl gadael y brifysgol, a heb fod yn arbennig o gyflogadwy, fy mod wedi darganfod technoleg newydd ar yr adeg honno, sef y We Fyd-eang.

A syrthiais mewn cariad â’r syniad hwn o ddefnyddio pethau newydd, ac yn aml, yn achos pobl ifanc, dyna’r llwybr i yrfa newydd. Ond roeddwn yn eithaf lwcus wedyn i ddatblygu’r ddwy wefan ar gyfer y BBC, ac yna dechreuais ddatblygu unrhyw dechnoleg newydd y byddwn yn taro arni, a’r modd y dylem ddefnyddio hynny ar gyfer creu cynnwys.

Ac mewn gwirionedd mae’n broses gyffrous iawn, oherwydd gallwch fod yn greadigol iawn yn y sector technegol, a gweithio â mathau eraill o ffurfiau a deunyddiau creadigol weledol, pobl greadigol a storïwyr, a hynny wrth fod yn flaengar ac arloesol. Mae hefyd yn bwysig am ei bod yn caniatáu i ni reoli beth fydd y dyfodol hwnnw.

Os ydym yn tueddu i geisio cadw at ein hen set sgiliau, a defnyddio’r un hen ffyrdd o weithio, rydym yn aml yn gweld bod y gynulleidfa’n symud yn ei blaen hebddom. Bydd yn mabwysiadu technolegau newydd, yn newid, a chawn ein gorfodi i geisio cadw i fyny, a hynny’n aml am fod rhywun arall yn ei wneud, ond rwy’n meddwl ei bod yn lawer gwell gafael mewn arloesedd a bod mewn rheolaeth, a rheoli’r dyfodol hwnnw.

Ac mae hynny’n golygu bod yn ymwybodol o’r hyn y gall technoleg ei wneud, ei defnyddio a gweld sut rydych am ei rhoi ar waith o ran creadigrwydd a’r modd yr ydych yn creu eich cynnwys creadigol, ond hefyd o ran moeseg, ac o ran yr hyn sy’n dda i’r gynulleidfa mewn gwirionedd.

Sut mae sector creadigol Cymru yn archwilio arloesedd AI?

Yn debyg iawn i’r rhan fwyaf o sectorau’r cyfryngau, rydym yn dilyn y pysgod mawr, os mynnwch. Mae llawer o AI yn cael ei ddarparu gan y cwmnïau technoleg mawr iawn. Mae’n hynod o ddrud. Mae arnoch angen llawer o seilwaith o ran gweinyddion, ac yn bwysicaf oll, mae arnoch angen mynediad at lawer o ddata am fod y rhan fwyaf o’r AI yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd yn fater o ddysgu peirianyddol yn y bôn.

Felly mae arnoch angen data i hyfforddi’r peiriant er mwyn iddo wneud rhywbeth defnyddiol a, fel arfer, dynwared rhywbeth y gall pobl ei wneud, naill ai am fod hynny’n rhatach, neu’n aml am fod y peiriant yn gallu gwneud hynny’n llawer gwell. Gall fod gan fodel AI cyfartalog filiynau o baramedrau. Pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau, byddant yn defnyddio rhwng pump a saith peth ar yr un pryd, o bosibl, felly gall AI weld pethau na allwn ni eu gweld yn aml, a all fod yn hynod o ddefnyddiol.

‘Nawr, o ran y sector yma, rydym yn bennaf yr un fath ag unrhyw le arall yn y byd yn dilyn y pysgod mawr yna. Yn aml byddant yn creu systemau AI sydd wedi’u bwriadu i’w defnyddio at un diben, ond mewn gwirionedd, gallant fod yn ddefnyddiol ar gyfer pethau eraill. A gall cwmnïau yma weld hynny a gallant ei wneud ar ddwy lefel.

Gallant naill ai defnyddio’r hyn yr wyf yn ei alw’n dechnoleg nwyddau, sef pan fydd AI yn dod yn rhan o feddalwedd ar ffurf llwyfan gwasanaeth gallwch danysgrifio iddo. Felly, er enghraifft, rhywbeth tebyg i Midjourney, sy’n fodel dryledol sefydlog sy’n eich galluogi i gynhyrchu delweddau. Felly, er enghraifft, mae yna gwmni lleol o’r enw Storm + Shelter sydd wedi dangos sut y gallai ddefnyddio Midjourney i ddatblygu ei gysyniadau ar gyfer animeiddiadau. Nid mater o ddisodli’r unigolyn sy’n gwneud y gwaith datblygu yw hyn, dim ond cyflymu rhan o’i lif gwaith, ac mae person yn dal i wneud y penderfyniadau allweddol.

“Nid mater o ddisodli’r unigolyn sy’n gwneud y gwaith datblygu yw hyn, dim ond cyflymu rhan o’i lif gwaith”

Ar y pen arall, gallwn geisio creu AI. Felly rydych yn cynhyrchu systemau mewn gwirionedd – os oes gennych ddigon o ddata – ond mae arnoch angen llawer o ddata i wneud hyn. Felly dim ond y cwmnïau mwy sy’n tueddu i wneud hyn, ond mae yna gwmnïau yn y rhanbarthau sydd wedi edrych ar chwiliadau dwfn, felly defnyddio dulliau naturiol o brosesu iaith mewn perthynas â sut y gallant gyflwyno cynnwys.

Mae gennym gwmnïau sy’n edrych ar chwiliadau sain a fideo. Felly os ydych yn rheoli’r Archif ar gyfer darlledwr mawr, dyweder, gallwch wneud hynny’n well os oes gennych offer AI a all ddadansoddi’r deunydd fideo. Nid dim ond y pethau syml megis trawsgrifio sydd gennych, ac mae’n rhaid i ni gofio mai AI yw hynny, oherwydd AI yw llawer o’r offer rydym yn eu defnyddio, ond rydym yn anghofio hynny.

Ond gall hefyd ddirnad pwy sydd ym mha olygfa, yn lle y mae’r toriadau mewn golygfa, dynameg benodol efallai, a sylwi ar wrthrychau penodol yn y golygfeydd sy’n helpu pobl pan fyddant am ddefnyddio’r deunydd yn ddiweddarach.

Ond yn gyffredinol rydym yn tueddu i fod yn fwy ar y lefel o geisio sylwi ar y cyfleoedd yn y technolegau y mae rhywun arall yn eu creu, ac yn mynd ati i greu rhywbeth newydd a gwreiddiol trwy arloesi, yn seiliedig ar y modd y mae’n cael ei gymhwyso i’r problemau penodol sydd gennym yma.

Felly yn amlwg mae yna dipyn o waith yn ymwneud â’r Gymraeg gan mai dyna un o hynodion ein marchnadoedd penodol yng Nghymru. Felly er enghraifft, rwyf wedi bod yn edrych ar brosiect sy’n ymwneud â chydamseru gwefusau a lleisiau, a sylwi ar y modd y mae’r modelau hyfforddi cyffredinol yn gweithio yn achos y Gymraeg, fel eich bod yn gallu cael darn sy’n cael ei drosleisio.

Rydych hefyd yn symud y gwefusau ar y bobl fel ei bod yn edrych yn llawer mwy naturiol. Ond mae yna lawer o dechnolegau eraill yr ydym wedi bod yn edrych arnynt am y ddau ddegawd diwethaf mewn gwirionedd, ond rhai sy’n ymwneud yn benodol â chyfieithu ieithoedd, is-deitlo, hygyrchedd, y mathau hynny o bethau.

Beth yw’r datblygiad mwyaf cyffrous yn ein sector hyd yn hyn o ran AI?

O ran diwydiant y cyfryngau yn benodol ar hyn o bryd, mae yna bethau yn y tymor agos y gallwn eu defnyddio ‘nawr mewn gwirionedd. Felly mae pobl yn edrych yn arbennig ar offer megis ChatGPT – nid ChatGPT o reidrwydd, mae yna modelau eraill ar gael – ond gallu’r modelau iaith hynny i gyflymu prosesau o ran ysgrifennu.

‘Nawr, yn amlwg mae yna densiynau yn y maes hwnnw oherwydd er y gall cyflymu rhannau penodol o’r broses fod yn ddefnyddiol iawn, a gall agor ffurfiau cwbl newydd ar gynnwys, wyddoch chi, am na allai awdur ysgrifennu deialog fyw i chi mewn gêm, felly gall wneud rhai pethau na allai awduron eu gwneud yn amlwg, ond mae yna bryder bod y dechnoleg yn cymryd y llais awdurol oddi ar yr awdur, ac y bydd yn gwneud awduron yn ddiwaith, yn arbennig y rhai nad ydynt ar frig yr hierarchaeth.

Rwy’n credu bod hyn yn digwydd eisoes mewn ffordd, ac mae yna heriau yn ymwneud â hyn ym maes newyddiaduraeth. Ond yn bendant mae hwnnw’n faes y mae llawer o bobl yn edrych arno, yn enwedig o ran y syniad hwnnw o allu ennyn diddordeb pobl neu ddarparu cynnwys arbenigol iawn, sef cynnwys na fyddai gennych gyllideb i dalu awdur i wneud y gwaith fel arfer.

Ac mewn gwirionedd, mae’r AI yn dda iawn am olygu cynnwys hefyd a darparu gwasanaethau yn ymwneud â hynny, a all fod yn ddiddorol. Mae’r ochr arall yn tueddu i fod yn AI cynhyrchiol yn ymwneud â chyfryngau gweledol, sef delweddau llonydd yn bennaf ar hyn o bryd. Felly mae rhai o’r systemau sy’n creu delweddau llonydd, megis DALL·E, Midjourney, Stable Diffusion, yn datblygu i fod yn dda iawn am greu delweddau sy’n agos at fod o ansawdd ffotograffau.

Ac yn achos llawer o ddelweddau Midjourney, byddai’n anodd iawn gwybod ai delweddau go iawn ydynt ai peidio. Mewn gwirionedd, rydych yn dueddol o sylwi arnynt am eu bod yn edrych yn rhy debyg i ddelweddau stiwdio.

A dweud y gwir, mae’r system wedi cael ei hyfforddi i greu effaith goleuo stiwdio i’r fath raddau fel ei bod yn edrych yn ffug am ei bod yn hynod o real. Mae hynny’n ddiddorol iawn o ran y modd y gallem ddefnyddio delweddau parod yn y dyfodol, a’r syniad y gellir creu unrhyw beth y gallwch ei ddychmygu. Ac mae’n gyflymach na cheisio chwilio trwy gronfa ddata o ddelweddau parod.

Byddwn i’n dweud heb amheuaeth mai dyma yw diwedd Clip-art. Ond eto, mae’n dipyn o her i ddarlunwyr gan y gallwch efelychu arddulliau darlunio pobl, felly mae yna ddynameg foesegol yn bodoli yn ymwneud â ph’un a fyddech yn defnyddio gwaith darlunydd byw i ysgogi’r AI i greu cynnwys, sydd, yn y bôn, yn fater o ddwyn ei arddull, sy’n fater problemus yn bendant, oherwydd nid yw’n cael cydnabyddiaeth ariannol am i chi wneud hynny, yn amlwg.

“Mae yna ddynameg foesegol yn bodoli yn ymnwneud â defnyddyio gwaith darlynydd byw i ysgogi’r AI i greu cynnwys… sy’n fater problemus yn bendant.”

Ond hefyd efallai fod pobl yn dechrau ei ddefnyddio i greu fideos. Egin syniad ydyw ar hyn o bryd. Mae’n ddyddiau cynnar iawn, ond rydych yn gweld cwmnïau’n dechrau sefydlu adrannau ffilm AI i edrych ar y modd y byddent yn creu rhywbeth yn gyfan gwbl mewn gofod rhithwir. Yn bersonol, ar hyn o bryd, a byddwn yn dweud am yr ychydig flynyddoedd nesaf, nid oes gan AI y llais awdurol hwnnw. Nid oes ganddo fwriad a dweud y gwir. Felly mae’n rhaid i chi ei reoli’n gadarn. Ac er y gall wneud rhai o’r tasgau yr ydym yn eu hystyried yn rhan o’r broses greadigol, fel arfer mae angen rhywun o hyd i’w lywio yr holl ffordd trwy’r broses honno.

Yn olaf, technoleg sy’n arbennig o ddiddorol ar hyn o bryd am fod yna lawer o ddiddordeb wedi’i fynegi yn y sector hwn ym maes cynhyrchu rhithwir, yw technoleg o’r enw NeRFs, sef meysydd pelydriad niwral. Ac mae’r system hon ychydig fel ffotogrametreg, os yw pobl yn gyfarwydd â hynny. Mae ffotogrametreg yn eich galluogi i dynnu lluniau o olygfa 3D, ac yna mae’r AI yn ceisio cynhyrchu model 3D o’r olygfa honno. Mae wedi cael ei ddefnyddio ychydig. Mae’n cael ei ddefnyddio’n arbennig ym maes rhag-ddelweddu, er enghraifft, i greu golygfeydd.

Rydych yn edrych ar y modd y byddwch yn eu newid gan ddefnyddio set ar gyfer drama, ac yna pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad go iawn, rydych yn gwybod eich bod wedi gwneud popeth yn iawn. A gallwch edrych ar y mathau o saethiadau y gallai fod arnoch eu heisiau, ac mae hynny wedi’i wneud cyn i chi hyd yn oed fynd i’r lleoliad. Mae NeRFs yn mynd â hyn gam ymhellach gan ei bod yn broses debyg. Rydych yn tynnu lluniau ac mae’r AI yn creu’r olygfa, ond mae cynhyrchydd yr AI yn creu cysyniad o feysydd golau.

Hynny yw, cysyniad o’r modd y mae’r golau yn bownsio o gwmpas y gofod. Felly, nid yn unig y mae hyn yn eich galluogi i gael saethiad rhwng y lluniau gwahanol y gallech fod wedi’u tynnu, sef creu delweddau llonydd ar adegau gwahanol, ond gallwch symud camera ffilm rhwng y pwyntiau hynny. Felly mae’n llenwi’r bylchau, os mynnwch chi, rhwng yr wybodaeth a gipiwyd, ac yn ei hanfod, rydych yn gallu rheoli’r camera i fynd i unrhyw le, o bosibl, sy’n ddiddorol.

Ond mae NeRFs hefyd, am eu bod yn ymdrin llawer mwy â’r golau yn hytrach na cheisio â modelu’r ffurf ffisegol, yn eich galluogi i gipio gwydr, cipio crôm ac arwynebau adlewyrchol, felly mewn gwirionedd, gallwch wneud hynny mewn senarios llawer mwy realistig. Gallwch hefyd ail-oleuo’r gofodau, sy’n hynod o gyffrous. Felly mae pobl yn dechrau edrych ar y modd y gellid defnyddio hyn ochr yn ochr â chynhyrchu rhithwir, boed hynny’n LEDs neu’n sgriniau gwyrdd, fel ein bod yn mynd allan gyda’r tîm ac efallai ymhen hanner awr, bydd yn defnyddio drôn i gipio lleoliad. Mae’r drôn yn cymryd fideo, gan fynd rownd mewn dolenni gosod. Ac yna, yn ôl yn y stiwdio, gallwch chi osod y camera rhithwir yn unrhyw le o fewn y gofod craidd hwnnw a chael saethiad rhesymol. Yn amlwg, os yw hynny ychydig y tu allan i le y mae’r drôn wedi tynnu’r lluniau, gall fod yn draed moch arnoch.

Ond ar hyn o bryd, o ran y modelau rwyf wedi eu gweld, mae’n dechrau datblygu i fod yn ffordd gyffrous iawn o weithio. Ac eto, gallai fod â manteision amgylcheddol, gan nad ydym yn gorfod teithio i rai o’r lleoedd hynny y gallem fod wedi gorfod teithio iddynt go iawn i wneud saethiad, ac yn lle hynny, gallwn ddod â’r lleoliadau i’r stiwdio, ac i’r system yr ydym yn ei defnyddio i greu ein heffeithiau gweledol.

Mae llawer o bobl yn poeni y bydd AI yn disodli swyddi creadigol. Sut y gallwn gydbwyso arloesedd â doethineb o ran yr effaith ar fywoliaeth pobl, ac ar greadigrwydd dynol?

Dylai pobl fod yn bryderus, yn bendant. Mae hynny’n beth iach. A gobeithio y bydd y pryder hwnnw’n troi’n fater o gymryd diddordeb gwirioneddol, oherwydd er mwyn cymryd rheolaeth dros y dyfodol, rhaid i ni ymgysylltu o ddifrif â’r hyn y gall Al ei wneud a’r hyn na all ei wneud.

Ac yn enwedig o ran ein gyrfaoedd ein hunain, yn fy marn i, oes, mae yna gwpl o ffyrdd gwahanol y gallwch gymryd hynny.

“Dyna’r her fwyaf, sef bod newid cyflym iawn yn mynd i fod yn boenus iawn… yn fy marn i, dylem geisio arafu’r newid hwnnw”

Gallech ddweud eich bod yn mynd i streicio, ac os yw cwmni’n eich gorfodi i ddefnyddio AI mewn modd a fyddai wir yn eich gwneud yn ddiwaith ar unwaith, gallwn ddeall hynny’n iawn. Dyna’r her fwyaf, sef bod newid cyflym iawn yn mynd i fod yn boenus iawn.

Ond yn fwy cyffredinol, yn fy marn i, dylem geisio arafu’r newid hwnnw, a’r ffordd orau o wneud hynny yn fy nhyb i yw defnyddio’r AI wrth iddo ddod ar gael, fel ein bod yn dysgu ei ymgorffori yn ein rolau.

Ac yn gyffredinol, nid yw AI na’r rhan fwyaf o dechnolegau newydd yn hanesyddol, yn tueddu i ddisodli swyddi. Roeddent yn disodli tasgau yn y lle cyntaf. Anaml iawn y bydd technoleg yn disodli set gyfan o swyddi yn gyfan gwbl yn y byrdymor. Yr hyn y mae’n ei wneud yw caniatáu i bobl wneud mwy o waith, neu rydym yn gweld bod disgwyliadau o ran ansawdd neu grynswth y gwaith yn codi, ac yna’n araf dros amser byddwch yn gweld bod rolau penodol yn crebachu.

Felly os oes yna bum person yn cyflawni rôl, o bosibl, a bod yna set gyfan o dasgau sy’n cael eu gwneud yn gyflymach am fod AI yn cael ei ddefnyddio, yn amlwg efallai y byddwch yn sylweddoli mai tri pherson y mae eu hangen i wneud y swydd honno yn y dyfodol. Ond ar hyn o bryd, nid yw’n debygol iawn y bydd AI yn gwneud y swydd honno ar ei ben ei hun.

Yn y dyfodol pell, mae’n debyg y byddwn yn defnyddio AI llawer mwy i wneud y gwaith golygu a’r mathau hynny o bethau. Ond ar hyn o bryd, ac er mwyn arafu’r gyfradd newid honno, oherwydd y newid sy’n frawychus iawn, mae angen i ni sicrhau ein bod yn defnyddio AI, yn ei gynnwys yn ein gwaith, ac yn elwa ar y buddion, y manteision, y cyfleoedd creadigol a’r amser yr ydym yn ei arbed.

Ac yn dod o hyd i bethau newydd i’w creu. Oherwydd yr hyn sy’n digwydd fel arfer pan gyflwynir technoleg newydd yw bod y farchnad yn creu rhagor o angen am y cynnyrch. Felly, rydym yn gweld bod y galw yn cynyddu i gyd-fynd â’r cynnydd hwnnw yn y cyflenwad. Ac anaml iawn y bydd rhywbeth yn disodli pethau eraill yn llwyr. Fel arfer y technolegau hŷn sy’n cael eu disodli mewn gwirionedd.

Felly, er enghraifft, esiampl wych o’r effaith y bydd AI yn ei chael yw’r effaith a gafodd ffotograffiaeth. Pan gyflwynwyd ffotograffiaeth, roedd yr arlunwyr oll yn cwyno nad oedd yn ffurf gelfyddydol – erbyn hyn wrth gwrs, rydym yn ei hystyried yn ffurf gelfyddydol – ac y byddai’n disodli’r holl arlunwyr portreadau. Ond mewn gwirionedd, dim ond pobl gyfoethog iawn a allai fforddio arlunwyr portreadau. Parhaodd y galw am arlunwyr portreadau am beth amser. Weithiau roeddynt yn dymuno cael ffotograffiaeth fel gimig hefyd. Yr hyn a ddisodlwyd mewn gwirionedd oedd y technolegau eraill. Felly gwelwyd yn gyflym iawn gardiau post yn newid o ddefnyddio ysgythriadau i ddefnyddio ffotograffau, a hynny mewn ychydig flynyddoedd yn unig. Ond nid oedd y dechnoleg yn disodli’r holl swyddi hynny. Y cwmnïau ysgythru oedd yn defnyddio ffotograffiaeth yn lle hynny.

Yn yr un modd, arferai pobl gael cysgodluniau ohonynt eu hunain. Nid ydy hynny byth yn digwydd mwyach. Mae hynny’n rhywbeth a ddiflannodd yn llwyr, ond wedyn cyflwynodd y stiwdios bethau gwahanol. ‘Nawr, mae’r newid hwnnw bob amser yn mynd i fod yn boenus. Bydd yn boenus i rai pobl heddiw. Felly mae angen i ni geisio canfod ffyrdd o arafu’r newid hwnnw. Ac yn fy marn i, a minnau’n unigolyn sydd â diddordeb mewn arloesedd, dylid gafael yn dynn yn yr arloesedd hwnnw. Byddwch yn un o’r lleoedd sy’n dechrau defnyddio’r newid hwnnw cyn gynted â phosibl, fel bod gennych gyfnod hirach o amser i newid eich set sgiliau.

Dywedais fod yna dair ffordd. Mae yna’r agwedd, “Nid ydym yn mynd i wneud hyn, a byddwn ni’n ceisio cyfyngu arno mewn rhai ffyrdd”, sy’n gwbl briodol yn achos rhai pethau. Mae yna’r agwedd, “Byddwn yn ei ystyried a byddwn yn ceisio ei ymgorffori yn yr hyn a wnawn”. Ac i rai pobl, y trydydd opsiwn yn syml yw eich bod yn sylweddoli bod AI yn mynd i fod yn farchnad newydd enfawr. Bydd angen pobl i roi hyfforddiant ar AI. Bydd angen peirianwyr ysgogol i’w helpu i greu delweddau gwych neu fideos gwych. Ac felly mae yna yrfaoedd cwbl newydd y bydd yn eu creu hefyd. Felly yn dibynnu ar le yr ydych o ran eich gyrfa o bosibl, byddwch yn ymdrin â hyn mewn ffordd wahanol.

Pa gyngor sydd gennych chi i bobl sydd am arloesi?

Wel, yn y lle cyntaf, mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth mewn gwirionedd, bod yn ymwybodol o’r newid, ceisiopeidio â chael eich dychryn gan ychydig o iaith dechnegol o bryd i’w gilydd. Oherwydd fel arfer, dim ond cyfathrebwyr yw pobl fel fi. Nid ydymyn deall y cyfan chwaith, wyddoch chi, ac mae llawer o newyddiadurwyrdim ond yn ceisio ei ddehongli. Cyn belled â’ch bod yn gallu dygymod â’r jargon, byddwch fel arfer yn sylweddoli bod ynostori o dan yr wyneb y gallwch ei deall, a gallwch weld pam y gallai’rofferyn hwnnw neu’r dechneg honno fod o ddefnydd i chi.

Dechreuwch yn benodol â’r pethau sydd o ddefnydd i chi yn eich swydd bob dydd. Ar hyn o bryd, rwy’n gweld pobl yn defnyddio offer megis ChatGPT, amrywiol fodelau iaith mawr, mewn llawer o ffyrdd ymarferol iawn. Os oes rhaid i chi lunio deunydd ar gyfer llawer o gyfryngau cymdeithasol gwahanol, ysgrifennwch ddisgrifiad cyffredinol, rhowch y deunydd i un o’r peiriannau sgwrsio, a bydd yn ei ysgrifennu ac yn ei ailysgrifennu i chi mewn ffurfiau gwahanol. Yna gallwch ei addasu ychydig, a gallwch ofyn iddo ysgrifennu llawer o fersiynau gwahanol. Felly byddwch yn sylweddoli eich bod yn dal i wneud cryn dipyn o waith. Nid mater ydyw o wasgu botwm unwaith a dyna ni, mae’r gwaith wedi cael ei wneud. Dim ond dechrau dod i arfer â’r syniad hwnnw ein bod yn gweithio ag AI.

Ac rwy’n credu y bydd pobl yn gwneud hyn yn gyflym iawn. Mae Microsoft wedi dechrau cynnwys yr offer hyn yn eu cynnyrch craidd. Mae Adobe Photoshop newydd lansio cynhyrchydd delweddau tebyg iStable Diffusion y tu mewn i Photoshop. Ac felly byddwn yn gweld y bydd pobl yn dechrau defnyddio hwn yn gyflym iawn, a chyn pen dimni fyddant hyd yn oed yn ei alw’n AI, oherwydd dim ond ei ddefnyddio fel offeryn y byddant yn ei wneud. Felly, y cam cyntaf yw sicrhau eich bod yn gwneud hynny.

Yr ail gam yw dechrau deall lle y gallai’r dechnoleg fod yn mynd yn y cyfnod ychydig mwy hirdymor. Felly bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei lansio, a pha offer newydd sy’n ymddangos. Mae yna wefannau megis Future Tools neu Product Hunt sy’n eich helpu i fod yn ymwybodol o unrhyw beth newydd sy’n cael ei lansio, sy’n eithaf cŵl. Er enghraifft, rydym yn recordio’r podlediad hwn gan ddefnyddio Descript, sy’n offeryn a ddarganfyddais gyntaf ar wefan Product Hunt rai blynyddoedd yn ôl. Ac mae’r math yna o beth yn eich galluogi i fod yn ymwybodol mai dyna’r cyfle, a lle y gallai fod angen i chi newid eich set sgiliau a’ch arferion gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Ond yn olaf, y peth mwyaf syml i’w wneud yw dod i rai o ddigwyddiadau Media Cymru. Rydym yn cynnal digwyddiadau sy’n ymwneud â’ch ysbrydoli a’ch cyflwyno i rai o’r technolegau newydd, gan dyrchu’n eithaf dwfn o dan yr wyneb ar adegau, i weld a yw o ddefnydd i chi ai peidio? A yw ei deall yn werth eich amser? Ac yna, trwy arddangosiadau a threialon, gallwch adael i chi gael profiad ymarferol o bethau, felly mewn ffordd, rydym yn tynnu’r elfen risg o’r arloesedd ar eich rhan, a gobeithio yn ei wneud ychydig yn llai brawychus.

Beth yw’r Cymorthfeydd Arloesedd?

Felly mae’r sesiynau cymhorthfa mewn gwirionedd yn gam ymlaen o ddod i’n digwyddiadau arferol. Felly rydym yn gobeithio ein bod wedi eich ysbrydoli. Neu, yn aml bydd pobl yn dod i’r digwyddiadau sydd eisoes yn meddu ar y meddylfryd, mewn ffordd, lle maent am arloesi. Yr unig beth y mae arnynt ei angen yw ychydig yn rhagor o gefnogaeth. Mae arnynt angen ychydig yn rhagor o help i dynnu’r elfen risg o’r arloesedd hwnnw. Felly mewn gwirionedd, mae’r gymhorthfa yn fater o wyrdroi’r ddynamig. Fel arfer rydym yn dweud wrthych chi am yr holl bethau sy’n cŵl. Yr hyn y mae arnom ei eisiau yn y cymorthfeydd yw i chi ddweud wrthym beth y mae arnoch ei angen.

Ac rydym yn dechrau trwy wneud ychydig o waith sganio’r gorwel, sef, yn syml iawn, chwilio am y technolegau a allai fod yn berthnasol i’r hyn yr ydych yn ei wneud. Ac yna rydym yn meddwl am ffyrdd y gallech eu cymhwyso i’r busnes, a’r manteision gwahanol y gallech eu cael o’r technolegau. Gallai’r manteision hynny fod yn ffyrdd newydd o gyrraedd y gynulleidfa, gallent fod yn ffyrdd newydd o ymgysylltu’n ddyfnach â’r gynulleidfa. Gallent ymwneud â chosteffeithiolrwydd neu arbed amser o ran eich proses gynhyrchu eich hun. Neu, yn syml iawn, gallant ymwneud â bod yn fwy creadigol, gan roi opsiynau creadigol gwbl newydd i chi, nad oeddech erioed wedi meddwl eu bod gennych. Neu rydym yn mynd trwyddynt.

Yn aml mae’n fater o baru. Nid wyf yn gwybod popeth, felly byddaf yn dweud, ‘Wel, dyma’r hyn a allai fod o ddiddordeb ar y lefel uwch. O, ac os oes gennych ddiddordeb yn hynny, efallai y dylech siarad â’r unigolyn hwn. Mae ef yn arbenigwr yn y pwnc.’ Ac rydym hefyd yn helpu pobl yn arbennig i ddechrau busnesau gyda’n cymorth i fusnesau. Mae fy mhartneriaid, sef Town Square, yn cynnig Clwb Cychwyn, a gallant gynnig cefnogaeth yn deillio o sesiynau’r cymorthfeydd. Math o ddeialog yw’r gymhorthfa, ac rydym yn gweld yn aml ein bod yn y pen draw wedi gwthio pobl i mewn i’n rowndiau ariannu. Yna, ar sail y rowndiau ariannu, os byddant yn llwyddo i gael cyllid, byddant yn dod yn eu hôl i’r cymorthfeydd i weld sut y mae datblygu eu prosiectau Ymchwil a Datblygu. Mae un o’m harbenigeddau yn ymwneud â phrototeipio cyflym a sut i wneud cynlluniau peilot byw. Rydym yn helpu pobl yn aml o ran meddwl sut i brofi rhywbeth mewn modd mor effeithlon â phosibl, a dysgu yn wirioneddol o’ch profiad ymchwil, oherwydd mae’n ymwneud â hynny’n llwyr. Sut y mae dysgu rhywbeth newydd y gallwn ei gymhwyso i’n busnesau?

Diolch yn fawr i Robin am gymryd yr amser i siarad â ni. Edrychwch ar y digwyddiadau Creative Collective, gan gynnwys Cymorthfeydd Arloesedd a Chlwb Cychwyn. Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Media Cymru ar gyfer ein ddigwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf i gyd.