string(87) "/cym/blog-posts/peilota-llwybr-at-ddyfodol-cynaliadwy-gyda-bargen-newydd-y-sgrin-cymru/" Skip to main content
int(1023)
Blog

Cyhoeddwyd ar 3 Ionawr 2024

Peilota llwybr at ddyfodol cynaliadwy gyda Bargen Newydd y Sgrin Cymru

Film shoot on a Welsh mountainside for Beddgelert, dir. Medeni Griffiths, Ffilm Cymru Wales.

Amlinellodd BAFTA albert yr argymhellion allweddol yn adroddiad Bargen Newydd y Sgrin (SND): Cynllun Trawsnewid Cymru, sy’n gosod llwybr at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y diwydiannau ffilm a theledu safon uwch ochr yn ochr â’i ail Uwchgynhadledd Gynhyrchu flynyddol, a oedd wedi ei chynnal yng Nghaerdydd.

Mae’r adroddiad nodedig hwn yn trafod y newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud i drafnidiaeth, defnydd o ynni, gwastraff a diwylliant er mwyn cyrraedd targedau sero net, gan osod y gweithredoedd hyn mewn amserlen glir.

Mae’r Cynllyn Trawsnewid SND yn dilyn dadansoddiad trylwyr o ddata sydd ar gael ynghyd â chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol, a ddatblygwyd gan Arup gyda help gan Cymru Greadigol, Ffilm Cymru Wales a Media Cymru. Mae’r cynllun hwn yn rhoi golwg ar bolisi, deddfwriaeth a chynnydd presennol, ynghyd ag astudiaethau achos o arfer gorau er mwyn cynnig un fframwaith ar gyfer y llwybr at sero net.

Logos of organisations involved in the Screen New Deal.

Cymru ar flaen y gad

Yn dilyn adroddiad cyntaf Bargen Newydd y Sgrin yn 2020, a gynhyrchwyd gan Arup, BAFTA albert a’r BFI, dewiswyd Cymru fel ardal beilot oherwydd ei chlwstwr diwydiant creadigol sy’n tyfu’n gyflym a’i thargedau cynaliadwyedd uchelgeisiol. Bydd y mewnwelediadau o’r prosiect peilot ar gael i ardaloedd eraill yng ngwledydd Prydain.

Meddai Greg Mothersdale, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu ac Arweinydd Cynaliadwyedd Amgylcheddol Media Cymru: “Rydyn ni’n croesawu canfyddiadau allweddol yr adroddiad cynhwysfawr yma, y mae cwmnïau ledled Cymru wedi cyfrannu ato fel rhan o gynllun peilot Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid. Rydyn ni’n edrych ymlaen i annog a churadu atebion arloesol gan sector y cyfryngau drwy weithgarwch Media Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol amgylcheddol gynaliadwy yn y rhan yma o’r byd a thu hwnt.”

Chwe ffaith allweddol

  1. Mae’r ffilm gyfartalog yn cynhyrchu bron i 3,000 tunnell fetrig o garbon – cymaint â gyrru car disel o gwmpas y byd 300 gwaith
  2. Defnyddiwyd pŵer disel mewn 91% o eneraduron ar setiau yng Nghymru’r llynedd
  3. Dim ond 14% o gynyrchiadau sy’n cael eu ffilmio mewn stiwdios yn y DU sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy
  4. Roedd teithio ar y ffordd yn cyfrif am 80% o allyriadau trafnidiaeth ar gyfer cynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru
  5. 25% o’r pren a ddefnyddiwyd wrth adeiladu setiau ledled Cymru gafodd ei ailgylchu’r llynedd
  6. Daw 94% o allyriadau bwyd o brydau bwyd â chig ynddynt mewn cynyrchiadau yng Nghymru

Ffynhonnellau: Adroddiad Bargen Newydd y Sgrin, 2020 (1); data ôl troed albert ar gyfer 2022 (2–5)

Argymhellion

Mae’r argymhellion wedi cael ey gosod ar linell amser, Nawr (ar hyn o bryd – 2025), Gerllaw (2026–30) a Nesaf (2031-ymlaen), i gyraedd Cymru carbon sero net erbyn 2050. Mae themâu allweddol yn cynnwys:

 

  • Symud at ynni adnewyddadwy ar gyfer cynyrchiadau ar leoliad, drwy ddisodli generaduron diesel gyda phŵer batri neu olew llysiau wedi’i drin â dŵr (HVO) yn y tymor byr; diweddaru gofodau stiwdio i ddefnyddio llai o ynni a chynhyrchu eu hynni eu hunain lle bo’n bosib drwy ynni gwynt neu solar;
  • Ailfeddwl trafnidiaeth i gael gwared â thanwydd ffosil, gan flaenoriaethu ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ceir trydan a defnyddio dulliau cynhyrchu rhithwir lle bo’n bosib;
  • Creu ymagwedd gylchol tuag at ddeunyddiau ac asedau a ddefnyddir wrth gynhyrchu, gan sefydlu systemau rhentu ac ailddefnyddio ar gyfer deunyddiau set, gwisgoedd a chit; gan sicrhau bod bwyd a ddarperir ar y set yn ffafrio opsiynau wedi’u cynhyrchu’n lleol a charbon isel;
  • Hybu’r hyfforddiant a’r wybodaeth sydd ar gael i dimau cynhyrchu am gynaliadwyedd y dulliau cynhyrchu presennol; gan weithio gyda chyflenwyr y diwydiant sgrin i leihau eu hôl troed carbon a’u gwastraff;
  • Newid y diwylliant yn y diwydiant i greu safon gynaliadwyedd newydd ar gyfer cynyrchiadau, gan sefydlu cyllidebau carbon a manteisio ar bŵer creadigol crewyr cynnwys a doniau ar y sgrin.

Negeseuon allweddol

1. Newid i ynni adnewyddadwy

  • Dewis ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn stiwdios, swyddfeydd a thai ôl-gynhyrchu
  • Rhoi’r gorau i ddefnyddio disel ar gyfer generaduron
  • Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni ar y set ac ar leoliad

2. Ailfeddwl trafnidiaeth

  • Mapio graddfa’r her
  • Dileu disel mewn cerbydau
  • Lleihau teithio
  • Newid dulliau teithio i rai sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy

3. Ymagwedd gylchol at fynd i’r afael â deunydd gwastraff a gwastraff bwyd

  • Cyflwyno monitro gwell i leihau gwastraff
  • Sefydlu ymagwedd gylchol at fwyd, gan flaenoriaethu cyflenwyr lleol ac opsiynau carbon is
  • Ehangu a chodi ymwybyddiaeth o seilwaith ar gyfer ailddefnyddio deunyddiau ac asedau cynhyrchu

4. Casglu gwybodaeth, hyfforddi a chydweithredu

  • Nodi a hyfforddi arbenigwyr o’r tu mewn i’r diwydiant i hyrwyddo cynaliadwyedd
  • Asesu’r asedau nodweddiadol sy’n cael eu defnyddio gan gynhyrchiad i helpu criwiau i benderfynu pa opsiynau sy’n fwyaf cynaliadwy
  • Creu cymorth i gyflenwyr i’r diwydiant teledu er mwyn iddynt leihau allyriadau a gwastraff yn y gadwyn gyflenwi

5. Newid diwylliannol

  • Creu cyllideb garbon ar gyfer cynyrchiadau
  • Sicrhau bod holl aelodau cynhyrchiad yn gyfrifol am gynaliadwyedd
  • Talentau’n cymryd rhan yn weithgar e.e. rhestr ofynion werdd
  • Harneisio cyfleoedd creadigol o ran cynnwys
  • Safon cynaliadwyedd newydd i’r diwydiant

Lawrlwythwch grynodeb yr adroddiad a’r adroddiad llawn gan BAFTA albert.