Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024
Ail-ddychmygu newyddiaduraeth trwy gyfiawnder dylunio
Nid yw “mae newyddiaduraeth yn aml yn cael effaith negyddol ar fywydau pobl, yn hytrach nag un gadarnhaol” yn neges y byddwch yn ei chlywed yn aml yng nghynadleddau’r diwydiant. Ond mae’n wir.
Anaml hefyd y byddwch chi’n clywed gan ddinasyddion go iawn – y gynulleidfa y mae newyddiaduraeth i fod i’w gwasanaethu – yn y digwyddiadau hyn. Ond dyma’r bobl y dylai eu barn fod fwyaf pwysig yn ein gwaith.
Gellir dadlau bod y ddwy ffaith hyn yn rhan fawr o’r esboniad am yr argyfwng y mae’r diwydiant newyddiaduraeth yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Gyda phrosiect Newyddion i Bawb Media Cymru, rydym wedi ceisio rhoi rhai o’n pobl a’n cymunedau mwyaf ymylol wrth wraidd trafodaethau ar ddyfodol newyddiaduraeth – yn hytrach nag ar y tu allan – gyda chanlyniadau cyffrous. Cafodd ein wyth mis o sesiynau ymchwil cyfranogol eu cynllunio a’u harwain gan Rhiannon White ac Amira Hayat, sydd eu hunain yn aelodau o’r gymuned y gwnaethant ei chynnull. Felly, pan ofynnwyd inni siarad am ein gwaith yn Fforwm Newyddiaduraeth Ryngwladol iMEdD yn Athen, roedd yn gwneud synnwyr i Rhiannon ac Amira gael rôl arweiniol yng nghyfraniad Media Cymru.
Siaradodd y ddau am eu profiadau eu hunain o sut mae newyddiaduraeth wedi cael effaith hynod negyddol ar eu bywydau eu hunain – i Rhiannon trwy’r stigmateiddio hanesyddol o Laneirwg, lle cafodd ei magu, ac i Amira yn y cynrychioliadau o’i hunaniaeth fel menyw Fwslimaidd, sy’n cysylltu ei hijab a’i chredoau fel mater o drefn ag eithafiaeth a therfysgaeth.
I Rhiannon, y peth mwyaf trawiadol a ddaeth i’r amlwg yn y gwaith oedd pa mor ddrwgdybus oedd pobl o newyddiadurwyr. “Cawsom lawer o wahanol brofiadau yn yr ystafell, ac, ar brydiau, roedd yn teimlo y gallai pawb uniaethu â’r teimlad hwnnw a rhoi enghreifftiau go iawn o niwed eithaf difrifol a achosir gan ymagweddau at newyddiaduraeth ac adrodd straeon.”
Roedd Rhiannon ac Amira yn falch o’r arloesedd a ddeilliodd o’r sesiynau ac, fel y nododd Amira, mae achos i fod yn obeithiol. Iddi hi, roedd hynny’n amlwg yn “yr ymdeimlad o angerdd, ymroddiad a gobaith am ddyfodol gwell i’n cymunedau” a dyfodd ar draws y prosiect Newyddion i Bawb.
Roedd hynny’n atgyfnerthu eu barn bod angen i gynadleddau newyddiaduraeth, a’r diwydiant yn gyffredinol, glywed mwy gan bobl go iawn. Fel y dywed Amira, “Dylai fod gan ddinasyddion rôl ganolog yn y cynadleddau hyn, fel bod newyddiadurwyr yn gallu clywed yn uniongyrchol gan eu cynulleidfaoedd a deall yn union pam y gallant ddewis ymddieithrio o newyddion a’r cyfryngau.
Cydnabu Rhiannon, sy’n wneuthurwr theatrau o ddydd i ddydd, nad yw hon yn broblem sy’n unigryw i newyddiaduraeth, “Dydyn ni ddim yn clywed gan gynulleidfaoedd mewn cynadleddau theatrau, ond byddwn yn siarad drwy’r dydd am ddatblygiad cynulleidfa – mae’n od iawn a hefyd yn eithaf pegynol. Mae’r gwaith gorau rydyn ni wedi’i wneud wedi bod ar y cyd â’n cynulleidfaoedd ac, yn bwysig iawn, y bobl rydyn ni’n adrodd eu straeon. Mae hyn yn aml yn ein harwain i adrodd stori wahanol i’r hyn ddechreuon ni â hi – un sy’n fwy dilys ac o ddefnydd i’r bobl rydym yn adrodd eu stori.”
Wrth gwrs, mae safbwyntiau Rhiannon am theatr yn cysylltu’n uniongyrchol â newyddiaduraeth, a phwysigrwydd adlewyrchu realiti sefyllfaoedd, yn hytrach na set o naratifau neu syniadau rhagdybiedig.
Fel y mae Rhiannon yn cydnabod, mae newid weithiau yn anodd i newyddiadurwyr sydd wedi arfer gweithio mewn ffordd arbennig. “Doeddwn i ddim yn siŵr pa mor boblogaidd fydden ni yn y gynhadledd. Gallai fod braidd fel marmit i bobl – efallai ein bod yn eu herio mewn ffyrdd nad ydyn nhw wedi meddwl amdanyn nhw o’r blaen neu eu bod wedi ystyried y pethau hyn ond ddim yn gwybod sut i newid neu gymhwyso i’w cyd-destun. Roeddwn yn ymwybodol iawn o beidio â gwybod na deall sut mae strwythurau mewnol newyddiadurwyr ac ystafelloedd newyddion yn gweithio, felly fe wnaethon ni geisio cael sgwrs agored iawn, gan annog pobl i gymryd yr hyn sydd ei angen arnyn nhw.”
I Rhiannon ac Amira fel ei gilydd, mae hyn oll yn pwyntio at yr angen am gynnal ailasesiad sylfaenol o arfer newyddiaduraeth. Ym marn Rhiannon, mae hynny’n golygu u “dylai newyddiadurwyr gyd-greu’n ddwfn â dinasyddion. Mae newyddiadurwyr angen inni fodoli, a gall pob un ohonom elwa ar eu gwaith. Rhaid iddo beidio â bod yn ecsbloetiol nac yn echdynnol – dyna’r pwynt, serch hynny. Felly, er mwyn i newyddiaduraeth fodoli – er mwyn iddi fod yn ddefnyddiol, yn gredadwy, yn berthnasol, ac yn ddefnyddiol – dylai newyddiadurwyr geisio deall, cydweithio, ymddiried, a chael eu hysbrydoli gan y dinasyddion y maent yn ceisio bodoli ar eu cyfer. Dylai fod mewn gwasanaeth i’n cymunedau. Byddai’r newid hwn mor bwerus.”
Gadawodd y ddau y gynhadledd gyda synnwyr o’r newydd o ba mor bwysig yw’r sgyrsiau hyn. Meddai Rhiannon, “Mae yna frys anhygoel i newyddiaduraeth addasu, newid a thrawsnewid. Mae ar adeg hollbwysig – a phe bai’n gwrando, yn gwrando’n wirioneddol ac yn ymateb i anghenion y bobl, gallai fod yn bwerus iawn. Ond os na fydd, fe allai fod yn niweidiol i ddyfodol cymdeithas.”
I Amira, mae gwybod bod yna newyddiadurwyr sy’n barod i wrando yn teimlo’n gadarnhaol. “Mae’n rhoi gobaith i mi o wybod bod pobl a newyddiadurwyr yn barod i ddysgu a datblygu, bod cymunedau’n frwd dros greu newyddiaduraeth sy’n fwy cywir a chynhwysol.”
Diolch i dîm iMEdD am greu’r lle i bob un ohonom wrando a dysgu, ac i Cristian Lupșa am gynnal ein sgwrs mor garedig a meddylgar.
Gallwch wylio ein sesiwn yn y Fforwm Newyddiaduraeth Rhyngwladol yma.