Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 9 Chwefror 2024
Beth yw Ymchwil a Datblygu?
Fel arfer, rydyn ni’n clywed yr ymadrodd ‘ymchwil a datblygu’ ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, ond dyma un o’r pethau rydyn ni’n ceisio ei newid yn Media Cymru. Rydyn ni’n gobeithio gallu troi egwyddorion ac adnoddau ymchwil a datblygu yn arfer safonol yn ein sector creadigol rhanbarthol.
Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynnyrch, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well
Yng nghyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, arbrofi neu ddefnyddio technoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial a chynhyrchu rhithwir. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd tecach a mwy cyfeillgar i’r blaned o weithio. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd a gwasanaethu cynulleidfaoedd. Mae posibiliadau di-ri.
Mae ymchwil a datblygu da:
- yn newydd: wedi’i anelu at ganfyddiadau newydd
- yn greadigol: yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid amlwg
- yn ansicr: gyda lefel o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol
- yn systematig: hynny yw, yn seiliedig ar ddull wedi’i gynllunio a’i gyllidebu
- yn drosglwyddadwy: hynny yw, yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu gan arwain at drosglwyddo gwybodaeth newydd
Pam fod Ymchwil a Datblygu yn bwysig?
Gydag ymchwil a datblygu creadigol ysbrydoledig, rydyn ni’n credu y gallwn leihau’r risg sy’n gysylltiedig ag arloesedd ar gyfer gweithwyr llawrydd a chwmnïau o bob maint, fel y gallwn i gyd fod yn fwy hyderus am y dyfodol wrth i ni wthio ffiniau’r hyn sy’n bosib.
Gallwch gael gwyboedaeth am ein prosiectau i weld enghreifftiau o’r gwaith yma, a gweld pa gyfleoedd cyllido sydd ganddon ni i’w gynnig ar hyn o bryd.