Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 11 Mehefin 2024
Pam gwneud gwaith Ymchwil a Datblygu fel cwmni cynhyrchu annibynnol: cyfweliad gyda Louise Bray, Little Bird Films
Mae dod o hyd i amser ac arian i wneud gwaith Ymchwil a Datblygu yn gallu bod yn heriol, yn enwedig i gwmnïau cynhyrchu annibynnol. Ond gall Ymchwil a Datblygu agor gorwelion a chreu cyfleoedd newydd. Ym mis Hydref 2022, cafodd Cronfa Arloesi y BBC ei lansio gan Media Cymru a BBC Cymru Wales. Mae’r gronfa hon yn cynnig cyfle newydd i gwmnïau cynhyrchu annibynnol o Gymru ymchwilio a datblygu cynnwys arloesol ar gyfer ei gomisiynu.
Aethon ni i siarad â Louise Bray, cyd-sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Little Bird Films, i glywed am eu profiad nhw o wneud gwaith Ymchwil a Datblygu ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i ddatblygu rhaglenni ffeithiol a’r gwahaniaeth mae’r Gronfa Arloesi wedi’i wneud.
Pam wnaethoch chi gais am arian gan y Gronfa Arloesi?
Y funud glywson ni am y Gronfa Arloesi Cynnwys a’r cyfle y gallai ei roi i ni arbrofi gyda ffyrdd arloesol o gynhyrchu cynnwys teledu ffeithiol, roedden ni’n gwybod ein bod eisiau gwneud cais am nawdd.
“Mae gan Little Bird hanes o wthio ffiniau a’r angerdd i wneud hynny.”
Mae gan y tîm yn Little Bird hanes o wthio ffiniau a’r angerdd i wneud hynny. Roedd y posibilrwydd o gael cyllid a fyddai’n rhoi’r gallu i ni i dreulio amser yn ymchwilio a datblygu llwyth o syniadau ffeithiol arbenigol ag arloesedd yn ganolog iddynt yn ddeniadol iawn.
Pa brofiad blaenorol oedd gennych chi o waith Ymwchwil a Datblygu?
Mae cael y cyfle i wneud gwaith ymchwil a datblygu go iawn yn beth prin iawn yn y diwydiant teledu.
Fel arfer, bydd y gwaith datblygu’n digwydd ar lefel sylfaenol ar draws amrywiaeth eang o feysydd. Wedyn, bydd y comisiynwyr yn dewis pa syniadau, os o gwbl, fydd yn cael eu datblygu ymhellach. Bydd y datblygiad sy’n deillio o hyn yn aml yn benodol iawn i’r un syniad hwnnw – does dim digon o adnoddau (amser ac arian) ar gael fel arfer i wneud gwaith Ymchwil a Datblygu eang ar y syniad.
Gyda phwysau cynyddol ar gyllidebau ac elw ym maes teledu, ni all y rhan fwyaf o gwmnïau teledu fforddio gadael i’w timau datblygu dreulio misoedd yn datblygu syniadau yn un maes diddordeb. Yn hytrach, mae’n rhaid i ni ymateb i anghenion y comisiynydd – sy’n aml yn newid yn gyflym.
Beth yw’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymchwil a datblygu, yn enwedig i gwmni annibynnol bach?
“Fel arfer all cwmnïau bach ddim fforddio’r moethusrwydd [o wneud gwaith Ymchwil a Datblygu]”
Fel cwmni bach, y prif heriau yw amser ac arian. Fel soniais i’n flaenorol, all cwmnïau bach fel arfer ddim fforddio’r moethusrwydd o roi amser i’w timau datblygu dreulio chwe mis yn canolbwyntio ar un maes yn unig.
Dyw hynny ddim i ddweud nad yw hyn byth yn digwydd – gall rhai syniadau gymryd dros flwyddyn i gael eu comisiynu, ac rwy’n siŵr bod rhai o’r cwmnïau mwy yn gallu buddsoddi mewn gwaith Ymchwil a Datblygu hirdymor – ond fel arfer tîm datblygu bach sydd gan gwmnïau annibynnol bach. Ac mae’n fwy na thebyg fod timau datblygu bach yn gweithio ar sawl syniad gyda thargedau penodol mewn golwg, yn hytrach nag yn cynnal gwaith Ymchwil a Datblygu hirdymor a meddwl am dechnegau a ffyrdd newydd ac arloesol o weithio.
Pa gyfleoedd a ddaeth yn sgil y Gronfa Arloesi?
Diolch i’r Gronfa Arloesi Cynnwys bu’n bosib i ni dreulio chwe mis yn trafod ac yn cwestiynu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn cynnwys ffeithiol arbenigol. Fe lwyddon ni i greu ac adeiladu rhwydwaith byd-eang enfawr o enwau cyswllt academaidd a gwyddonol, datblygu mwy nag un syniad ar draws ystod eang o genres, a dysgu, deall a chwestiynu’r dechnoleg dysgu peirianyddol ddiweddaraf.
Roedd gyda ni rwydd hynt i fynd ar drywydd datblygiad penodol, crwydro oddi ar y llwybr, dilyn edefyn diddorol nes dod at bwnc neu faes hollol wahanol, gan wybod bod popeth yn ddefnyddiol ac yn bosibl. Doedd dim byd yn teimlo’n “wastraff amser” – roedd popeth wnaethon ni ei ddarganfod ar ein taith Ymchwil a Datblygu wedi llywio ein syniad terfynol mewn rhyw ffordd.
Fe wnaeth tîm Media Cymru a PDR, yn ogystal â chomisiynydd y BBC, roi adborth creadigol i ni a’n helpodd i ganolbwyntio ar y meysydd oedd yn fwyaf tebygol o arwaint at gomisiwn. Roedd y cyfle yma i gychwyn yn eang ac yn gynhwysfawr iawn yn ein gwaith datblygu cyn tynhau’r ffocws yn y pen draw a chanolbwyntio ar y meysydd hynny oedd â’r apêl fwyaf wedi ein galluogi i gael syniadau mwy swmpus a gwreiddiol nag y bydden ni wedi’i wneud pe na baen ni wedi cael y lle hwnnw i ddatblygu. Roedd y cyfle yma yr un mor bleserus ag yr oedd yn greadigol – diolch i Media Cymru / BBC Cymru!
Pa wahaniaeth mae Ymchwil a Datblygu yn ei wneud wrth gymryd rhan mewn proses gomisiynu?
“Roedd Ymchwil a Datblygu yn broses llawer mwy cydweithredol, creadigol ac ymchwiliol.”
Roedd gwneud gwaith Ymchwil a Datblygu yn y modd hwn yn agoriad llygaid.
Roedd hi’n broses lawer mwy cydweithredol – fe wnaeth fy ngalluogi i a’m cydweithiwr Jane i weithio’n agos gyda’n gilydd, taflu syniadau a chwarae gyda ffurf. Cawsom ddigon o amser i feddwl am syniadau a’u datblygu heb fod dyddiad cau yn pwyso arnom.
Roedd hi’n broses lawer mwy creadigol, o wybod bod y cyfyngiadau traddodiadol sy’n gysylltiedig â chomisiynu teledu wedi cael eu dileu.
Ac wrth gwrs, roedd hi’n broses lawer mwy ymchwiliol – dwi’n aml yn cael fy hun yn mynd oddi ar y trywydd wrth feddwl am syniadau, ac roedd cael y rhwyd ddiogelwch yma yn wych.
Ar ddiwedd ein taith Ymchwil a Datblygu rydyn ni’n teimlo ein bod wedi ennill arbenigedd a dealltwriaeth ddofn yn y maes yma – nodwedd sy’n ein neilltuo ni ac yn rhoi hyder i ni fynd at olygyddion comisiynu gyda’n syniadau.
Beth wnaethoch ei ddysgu o’r prosiect?
“Gall Ymchwil a Datblygu hwyluso arloesedd gwych, creadigrwydd gwych a syniadau gwych”
Dysgom y gallwn, drwy gael gwared ar yr heriau datblygu arferol (fel terfynau amser tynn a thargedau penodol ac wrth gwrs diffyg cyllid), ddefnyddio Ymchwil a Datblygu i hwyluso arloesedd gwych, creadigrwydd gwych a syniadau gwych. Roedd pob agwedd ar y gwaith yn ddifyr tu hwnt ac fe wnaethon ni fwynhau a gwneud yn fawr o’r cyfle a roddwyd i ni.
Ydych chi’n meddwl y gallai’r diwydiant newid y ffordd mae’n gweithio i ddod yn fwy cyfeillgar i Ymchwil a Datblygu?
Byddai modd gweddnewid y sector pe bai comisiynwyr yn deall gwerth ac effaith Ymchwil a Datblygu i esgor ar syniadau am raglenni a’u datblygu. Byddai darparu cymorth ariannol i helpu cwmnïau annibynnol i ymchwilio i feysydd yn fanwl nid yn unig yn rhoi amser i gwmnïau ddod yn “arbenigwyr” yn y meysydd hynny, ond yn y pen draw byddai’n cynyddu nifer y syniadau sy’n cael eu sbarduno gan arloesi.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gwmnïau cynhyrchu annibynnol eraill ar Ymchwil a Datblygu?
“Os ydych chi’n cael cyfle i wneud gwaith ymchwil a datblygu … ewch amdani!”
Os ydych chi’n cael cyfle i wneud gwaith ymchwil a datblygu, yna byddwn i’n dweud y dylech chi fynd amdani heb os nac oni bai.
Bydd yn rhoi bywyd newydd i’r tîm, yn rhoi ymdeimlad o antur i’r gwaith ac mae ei ddull arbrofol yn golygu bod pob diwrnod yn wahanol. A bydd y wybodaeth a’r ddealltwriaeth a enillwch yn eich helpu i sefydlu eich hun fel arweinydd yn y farchnad.