string(73) "/cym/blog-posts/ar-goll-yn-y-gofod-hac-ac-arddangosfa-diwydiant-existent/" 11682955 Skip to main content
int(1168) 11682955
Blog

Cyhoeddwyd ar 17 Ebrill 2024

Ar Goll yn y Gofod? Hac ac Arddangosfa Diwydiant Existent.

Ein gorchwyl ni yw democrateiddio technoleg drochol, gan ei gwneud hi’n hawdd creu profiadau anhygoel drwy’r defnydd o galedwedd realiti rhithwir (VR) arloesol ac Existent – y platfform ar gyfer cyfrifiadura gofodol.

Mewn partneriaeth â Media Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Target 3D, rydym yn rhoi pŵer cyfrifiadura gofodol yn nwylo pob creawdwr.

Dyma ni’n eich gwahodd i hacio gyda ni a chreu rhywbeth mewn oriau – nid misoedd

Os ydych chi’n gweithio yn y maes creadigol neu’n dechnolegydd sy’n gweithio ym maes VR (realiti rhithwir) / XR (realiti estynedig) ac eisiau gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl, yna gallai hyn fod at eich dant chi. Dyma’ch cyfle i wneud cais am hacathon ac arddangosfa diwydiant newydd sbon, lle gallwch ddatrys heriau technegol a chreadigol o bwys yn eich prosiect trochol, a hynny dros gyfnod o 2 ddiwrnod.

Pa fudd sydd yna i chi?

  • Mynediad cynnar i offer datblygwyr Existent ar gyfer cyfrifiadura gofodol
  • Mynediad i’r dechnoleg Mocap ddiweddaraf (opsiynau sy’n seiliedig ar farciwr Optitrack neu systemau camera annibynnol HTC Vive)
  • Arddangosfa i’r diwydiant
  • Cymorth technegol a chefnogaeth gan Existent a Media Cymru
  • Heriau hwyliog sy’n cyd-fynd â’ch nodau creadigol a/neu dechnegol

Sut gallech chi ddefnyddio’r Hac?

Ein diddordeb ni yw cefnogi prosiectau sydd ar wahanol gamau datblygu, o brototeipiau VR i MVPs (cynnyrch sydd newydd basio’r trothwy hyfywedd) a thu hwnt. Isod mae enghreifftiau o’r mathau o heriau mae Existent yn gallu eich helpu i’w datrys. Mae’r heriau hyn yn cael eu darparu i roi rhai syniadau i chi. Nid rhestr derfynol mohoni, felly os ydych chi’n gweithio ar rywbeth gwahanol, gallwch ymgeisio i’r rhaglen o hyd.

Rhyngweithio Ffisegol

Gall offer rhyngweithio ffisegol Existent eich helpu i ychwanegu gwrthrychau ffisegol yn gywir ac yn hawdd i’ch profiad. Gall rhyngweithiadau bach, ffisegol sbarduno ymateb mawr yn y byd rhithwir. Efallai y byddwch am ddefnyddio Existent i arbrofi gyda sut y gall eitemau syml yn y byd go iawn fel handlen, blwch neu gwpan gynhyrchu effeithiau ysgogol yn y byd digidol. Gallwch ddefnyddio ein gwrthrychau wedi’u rhag-greu i adeiladu eich rhwyllau digidol eich hun, neu ddod â’ch gwrthrychau eich hun.

Llif Creadigol

Ydych chi’n creu profiad byw ar sail lleoliad? Mae offer cefn llwyfan Existent yn caniatáu ichi atal golygfeydd, datblygu llif neu ryngweithio’ch cynulleidfa, a’r cyfan o’r tu mewn i’r clustffon, yn y gofod ffisegol, ac yn y foment. Os ydych chi’n ffynnu mewn gofod ymarfer creadigol gyda phobl, propiau a set, efallai yr hoffech chi archwilio sut y gall offer cefn llwyfan Existent eich helpu i gydweithio ag eraill ar eich profiad byw.

Graddfa

Efallai bod gennych ddiddordeb mewn adeiladu amgylcheddau helaeth neu luosog sy’n hawdd i’ch cynulleidfa a’ch perfformwyr eu llywio. Gan ddefnyddio offer crwydro am ddim Existent, gallwch groesi pellteroedd mawr, a’r cyfan o ôl troed bach yn y byd go iawn, heb y salwch efelychu sy’n aml yn gysylltiedig â mecaneg o’r fath. Os ydych chi am greu amgylcheddau cymhleth neu ddeinamig neu archwilio symud  gwrthrychau o un lle i’r llall, efallai y byddwch am roi cynnig ar set offer crwydro rhad ac am ddim Existent.

Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi rhai syniadau i chi ar sut y gallech chi ddefnyddio’r set offer sy’n bodoli eisoes. Yn y pen draw, cewch chi benderfynu. Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau!

Sut i Ymgeisio

Mae’r hac yma ar gyfer pobl greadigol a thechnolegwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Bydd yr hac yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol De Cymru, adeilad yr Atriwm, Caerdydd ddydd Mercher 5 a dydd Iau 6 Mehefin 2024. Bydd y cyfnod ymgeisio’n cau ddydd Llun 6 Mai am hanner nos; caiff ceisiadau llwyddiannus eu hysbysu drwy e-bost ddydd Gwener 10 Mai.

Mae nifer y cyfranogwyr wedi’u cyfyngu i 3 thîm o 3 o bobl ar y mwyaf fesul tîm. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais [dolen i’r ffurflen gais]. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn unol â’n meini prawf dethol. Ni chodir tâl am fynd i’r Hac yma  ac yn aml rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau, felly yn anffodus ni allwn warantu lle ac ni fyddwn yn gallu darparu adborth i geisiadau.

Meini Prawf Cymhwysedd a Dethol:

I ymgeisio am yr hac yma bydd angen i chi fodloni’r gofynion canlynol:

  • Oedran: Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod yn 18+ oed
  • Rhanbarth: Rhaid i’r ymgeisydd arweiniol fod yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau.
  • Statws yn y DU: Rhaid i ymgeiswyr fod yn ddinasyddion y DU neu’n breswylwyr parhaol yn y DU, sy’n byw ac yn gweithio yn y DU.
  • Amrywiaeth: Nod Media Cymru yw gwneud ein digwyddiadau mor hygyrch â phosibl i ystod amrywiol o ymgeiswyr (Gweler isod).
  • Profiad Blaenorol: Rhaid i dîm yr ymgeisydd fod â swmp sylweddol o waith creadigol a chynnwys aelodau sydd â phrofiad o gyflwyno cynnwys trochi (e.e. AR, VR neu Sain ofodol).
  • Y gallu i elwa: Rhaid i ymgeiswyr esbonio pam y byddai’r cyfle hwn o fudd iddynt a sut maent yn bwriadu cymhwyso Existent i’w harfer creadigol neu eu heriau.
  • Argaeledd: Rhaid i ymgeiswyr a’u tîm fod ar gael rhwng 5-6/06/24
  • Adrodd: Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan gytuno i ofynion adrodd y cyllidwr, gan gynnwys darparu gwybodaeth fusnes a chyflogaeth berthnasol.
  • Arddangos / recordio: Rhaid i chi fod yn barod i gymryd rhan yn yr arddangosfa ar ddiwedd yr hac, naill ai yn dangos eich darn neu’n bwydo’n ôl ar eich profiad. Efallai y byddwn hefyd yn recordio lluniau llonydd a fideo yn ystod yr hac i’w defnyddio wrth adrodd ar y canlyniadau.

Hygyrchedd

Mae gan y lleoliad fynediad ramp/lifft a pharcio ar y safle ar gyfer deiliaid bathodynnau glas. Ar ben hynny, rydym wedi ymrwymo i wneud y fenter hon mor hygyrch â phosibl. Os oes gennych anabledd, neu os ydych chi eich hun yn ofalwr, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am fwrsariaeth i dalu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r anghenion y gallech eu hwynebu o ganlyniad uniongyrchol i ymgeisio am, neu gymryd rhan yn y rhaglen (fel trefniadau cymorth arbennig).

Os credwch y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, nodwch hyn yn eich ffurflen gais, a bydd cynrychiolydd o’r tîm yn cysylltu i drafod gofynion os bydd eich cais yn llwyddiannus. Neugydag unrhyw gwestiynau neu gymorth cyn gwneud cais, cysylltwch â robin.moore@shwsh.co.uk

Dyddiadau pwysig:

  • 11/04/24 – Gweminar a cheisiadau’n agor
  • 06/05/24 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (hanner nos):
  • 10/05/24 – Gwahoddiadau i gymryd rhan yn cael eu hanfon allan
  • wythnos yn dechrau 22/06/24 – Galwadau croeso i’r timau llwyddiannus cyn yr hacathon
  • 05/06/24 – 06/06/24 – Hacathon 2 ddiwrnod:
  • 6/06/24 – 4pm – Arddangos i’r diwydiant

 

Cyflwynwch cais Hac ac Arddangosfa Diwydiant Existent.

Ffurflen Monitro Amrywiaeth