string(41) "/cym/events/innovation-drop-in-surgery-2/" Skip to main content
int(990)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 16.11.2023

Cymorthfa Arloesedd

Dyddiad: 05.12.2023

Amser: 10-11:30

Lleoliad: BBC Cymru Wales, Innovation Lounge 3 Central Square

Oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer eich busnes creadigol? A ydych am ddatblygu eich gyrfa llawrydd neu lansio cynnyrch neu wasanaethau creadigol newydd? Ydych chi angen cymorth gyda her benodol, cais am arian neu dim ond eisiau cael eich ysbrydoli gan botensial creadigol newydd a technolegau?

Nod ein sesiynau Cymorthfa Arloesedd yw eich cefnogi i wella eich busnes creadigol a manteisio ar y cyfleoedd diweddaraf. Er mai chi yw’r arbenigwr ar yr hyn yr ydych yn ei wneud, fel arfer gallwn helpu i ddod â phersbectif newydd, eich cefnogi gyda’n harbenigedd mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloeesi. A chynghori ar gyfleoedd ariannu a thechnolegau newydd a allai eich helpu chi a’ch busnes. Os na allwn ni helpu, mae’n debyg y byddwn ni’n adnabod rhywun sy’n werth siarad â nhw.