string(44) "/cym/events/lansior-gronfa-straeon-hinsawdd/" Skip to main content
int(4103)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 19.11.2024

Lansio’r Gronfa Straeon Hinsawdd

Dyddiad: 02.12.2024

Amser: 6-8pm

Lleoliad: Canolfan Fusnes W2, Stryd Wellington Caerdydd, CF11 9BE 

Ymunwch â Media Cymru a Ffilm Cymru Wales wrth iddyn nhw lansio eu Cronfa Straeon Hinsawdd newydd yn swyddogol.  

Hoffech chi helpu i adrodd stori’r hinsawdd mewn ffyrdd newydd a chreadigol i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ac ysbrydoli pobl i weithredu?

  • Dysgwch am y gronfa Ymchwil a Datblygu newydd, gan gynnwys ei nodau, ei meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio
  • Gofynnwch gwestiynau i aelodau o dimau Media Cymru a Ffilm Cymru Wales am y gronfa a’n gwaith i wneud y sector sgrin yn fwy cynaliadwy
  • Cysylltwch a rhwydweithiwch â phobl a chwmnïau sy’n gweithio ar draws y sectorau sgrin, cynaliadwyedd a thechnoleg.  

Gair am y Gronfa Straeon Hinsawdd 

Bydd Cronfa Straeon Hinsawdd Media Cymru × Ffilm Cymru Wales yn cefnogi prosiectau ymchwil a datblygu i ddatblygu ffilmiau nodwedd neu brofiadau ymgolli sy’n adrodd stori’r argyfwng hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.  

Pan fydd y cyfnod ymchwil a datblygu wedi dod i ben, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i wneud cais am ragor o gyllid drwy Ffilm Cymru Wales i barhau i ddatblygu eu ffilm nodwedd neu eu profiad ymgolli.  

Bydd y gronfa’n agor ddydd Llun 2 Rhagfyr 2024. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 17 Ionawr 2025.