string(47) "/cym/events/sioe-deithiol-busnes-creadigol-rct/" 12123077 Skip to main content
int(1212) 12123077
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 20.06.2024

Sioe Deithiol Busnes Creadigol: RCT

Dyddiad: 08.07.2024

Amser: 11.00 - 14.00pm

Lleoliad: 3 Taff Street Pontypridd CF37 4TH

Trosolwg:

Mae’r Sioe Deithiol Busnes Creadigol yn ddigwyddiad poblogaidd sydd wedi’i deilwra ar gyfer pobl greadigol sy’n awyddus i roi hwb i’w mentrau. P’un a ydych chi’n artist, yn ddylunydd, yn awdur, yn wneuthurwr ffilmiau, neu’n unrhyw weithiwr proffesiynol arall, bydd y digwyddiad hwn yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr, cyfleoedd rhwydweithio, a chyngor busnes am ddim gan arbenigwyr yn y diwydiant.

Bydd arbenigwyr y diwydiant mewn arloesedd, datblygu, ariannu, marchnata ac adnoddau dynol yn rhannu eu mewnwelediad ar sut i wella eich busnes creadigol.

Bydd arbenigwyr wrth law i gynnig cyngor un-i-un ar y tueddiadau diweddaraf, arferion gorau, cyfleoedd ariannu a strategaethau i lwyddo yn y farchnad gystadleuol heddiw.

Dewch â’ch cwestiynau a’ch heriau i dderbyn arweiniad personol.

Cysylltwch ag unigolion o’r un anian, darpar gydweithwyr, a mentoriaid yn y diwydiant creadigol.

Adeiladwch eich rhwydwaith dros baned o de neu goffi a chael cysylltiadau gwerthfawr a all helpu eich busnes i ffynnu.

 

Arddangoswyr:

Creative Collective – Yn cynnig amgylchedd cefnogol a meithringar, gan galluogi gweithwyr llawrydd a busnesau bach i ffynnu yn eu gweithgareddau creadigol. Rydym yn credu mewn meithrin awyrgylch cydweithredol, darparu’r adnoddau hanfodol, a chreu cyfleoedd i wella eich cynhyrchiant a phroffidioldeb.

Canolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol – Mae CEMET yn cefnogi busnesau gyda mynediad at ymchwil a datblygu, datblygu meddalwedd a chaledwedd. Gan weithio ochr yn ochr â chi, mae CEMET yn defnyddio technoleg flaengar sy’n dod i’r amlwg i greu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol ar gyfer eich busnes a fydd yn siapio’r dyfodol.

Fig Tree HR – Y cartref cymorth AD arbenigol ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach sydd eisiau agwedd gyfoes at wasanaethau pobl. Maen nhw yma i ateb eich ymholiadau AD pan fydd eu hangen arnoch chi a darparu atebion strategol i chi sy’n helpu’ch busnes i dyfu. O ddogfennau AD hanfodol i becynnau prosiect pwrpasol, a phopeth yn y canol.

Busnes Cymru – Mae Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad, a chymorth cyflawn a ariennir yn llawn i bobl yng Nghymru sy’n dechrau, rhedeg, a thyfu busnesau. Beth bynnag yw’ch heriau busnes, mae’n debygol y gall ein harbenigedd helaeth a’n cymorth eich helpu. O help gyda chyngor adnoddau dynol, cynllunio busnes, lleihau carbon a gwella cynhyrchiant i help gyda chyllid, mae gennym ni hynny i gyd.

Banc Datblygu Cymru – Mae micro-fenthyciadau’r Banc Datblygu yn darparu cymorth ariannol o £1,000 i £50,000 i gefnogi busnesau gyda chostau twf a gweithredu, gan eu cefnogi yn y rolau y maent yn eu chwarae mewn cymunedau ledled Cymru. Gellir defnyddio cyllid micro-fenthyciad mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dechrau neu ehangu eich busnes, hybu llif arian neu brynu offer newydd. Mae’r benthyciadau’n hyblyg, gyda thelerau ad-dalu’n amrywio o un i 10 mlynedd.

 

Mae mynediad am ddim, ond mae angen cofrestru i sicrhau eich lle.

Peidiwch â Cholli’r Cyfle:

Y Sioe Deithiol Busnes Creadigol yw eich cyfle i gael mewnwelediadau gwerthfawr, cael mynediad at gyngor busnes am ddim, ac ehangu eich rhwydwaith o fewn y diwydiant creadigol. P’un a ydych chi’n egin artist, yn ddylunydd sefydledig, neu’n entrepreneur creadigol, y digwyddiad hwn yw eich porth i lwyddiant.

Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli, i ddysgu, ac i rwydweithio gyda phobl greadigol o’r un anian sy’n rhannu eich angerdd dros droi dychymyg yn llwyddiant busnes.

Manteisiwch ar y cyfle i dderbyn ymgynghoriadau a chyngor am ddim gan weithwyr proffesiynol profiadol mewn meysydd busnes amrywiol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Sioe Deithiol Busnes Creadigol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni drwy mediacymru@townsq.co.uk