string(33) "/cym/events/yn-cyflwyno-ristband/" Skip to main content
int(1487)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 08.10.2024

Yn cyflwyno Ristband | Arddangosiad o Gyngerdd Realiti Cymysg

Dyddiad: 14.10.2024

Amser: 2-4pm

Lleoliad: The Sustainable Studio, Caerdydd

person yn gwisgo clustffon VR

Ymunwch â Media Cymru am brynhawn o rannu gwybodaeth gyda’r arbenigwyr Realiti Cymysg, Ristband, yn rhan o’n cyfres Arloeswyr Preswyl.

Yn ystod y sesiwn hon, byddwn ni’n eich cyflwyno chi i Ristband, cwmni sy’n creu math newydd o adloniant gan ddefnyddio peiriannau gemau, realiti rhithwir, deallusrwydd artiffisial a’r dechnoleg ddiweddaraf.

Byddwch chi’n cael cyfle i ofyn cwestiynau, a sgwrsio â thîm anhygoel o arbenigwyr XR a fydd yn rhoi cipolwg ichi ar dechnoleg ymgolli drawsnewidiol ac ar eu harddangosiad o Gyngerdd Realiti Cymysg sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r sesiwn hon yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn sector cyfryngau Cymru, sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddefnyddio technoleg ymgolli mewn digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys Artistiaid, Gwneuthurwyr Ffilmiau, Datblygwyr, Cerddorion Proffesiynol, Cynhyrchwyr, Awduron, Dylunwyr Sain, a Pherchnogion Lleoliadau.

Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd. Mwy o wybodaeth yn dinasgerddcaerdydd.cymru

Gwybodaeth am Ristband
Mae Ristband yn pontio’r bwlch rhwng perfformio, arloesi technegol, cerddoriaeth a gemau. Gwerthon nhw bob tocyn ar gyfer arddangosiad eu cyngerdd realiti cymysg yn SXSW, a enillodd wobrau.