Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 09.07.2025
Hyfforddiant Cydlynwyr Cynaliadwyedd ar gyfer Cynyrchiadau wedi’u Sgriptio
Yn gweithio'n bennaf ar ddramâu teledu a ffilmiau o'r radd flaenaf.Dan ofal Media Cymru mewn partneriaeth ag Earth to Action a Severn Screen, rydym yn chwilio am hyd at chwech o bobl i gael eu hyfforddi ar gyfer rôl gyffrous sydd â llygad ar y dyfodol yn sector sgrin Cymru, yn gweithio'n bennaf ar ddramâu teledu a ffilmiau o'r radd flaenaf.
Ceisiadau ar agor: Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau: Dydd Iau 24 Gorffennaf 2025

Manylion y Cwrs
Yn adeiladu ar lwyddiant – ac effaith barhaus – HYFFORDDIANT CYDLYNWYR CYNALIADWYEDD AR GYFER CYNYRCHIADAU WEDI’U SGRIPTIO y llynedd, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn cynnal y rhaglen arloesol hon am yr eildro, yn sgil yr angen dybryd am agwedd fwy cynaliadwy at gynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Nod yr hyfforddiant yw creu rôl Cydlynydd Cynaliadwyedd penodol sydd â llygad ar y dyfodol yng Nghymru, i helpu i newid meddylfryd ac annog arferion cynhyrchu gwyrddach yn y sector sgrin. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan yr arbenigwyr cynaliadwyedd Ellie a Tilly Ashton a Nicole Wait.
Mae Ellie yn rheolwr cynaliadwyedd cynhyrchu, sy’n gweithio fel ymgynghorydd i brosiectau cenedlaethol a rhyngwladol; mae ei gwaith diweddar wedi cynnwys Under Salt Marsh (Sky Studios), Havoc (Netflix) a Black Cake (Hulu). Bu ei chwmni Earth to Action yn bartner ysgrifennu a chyflwyno’r hyfforddiant cydlynwyr cynaliadwyedd cyntaf yng Nghymru y llynedd.
Mae Tilly yn arwain ar gynaliadwyedd gyda Severn Screen, un o brif gwmnïau cynhyrchu annibynnol Cymru sy’n cynhyrchu dramâu wedi’u sgriptio ar gyfer ffilm a theledu. Ar hyn o bryd hi yw unig Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Cynhyrchu llawn amser Cymru ac mae’n hyfforddwr BAFTA albert. Mae ei chredydau cynhyrchu yn cynnwys ffilm Netflix Havoc, a dramâu Steeltown Murders a Mr. Burton y BBC.
Bydd Nicole Wait, un o garfan y llynedd, yn ymuno â nhw i gyflwyno’r hyfforddiant eleni, yn dod â phrofiadau a mewnwelediad uniongyrchol arbennig. Mae Nicole yn gweithio ledled Cymru yn tynnu ar ei phrofiad rhyngwladol fel addysgwr â’r rôl gyffrous a deinamig hon. Mae ei chredydau yn cynnwys Anemone (Focus Features/NBCUniversal), Under Salt Marsh (Sky) a The Queen of Fashion (Lobster Hat Ltd).
Bydd arbenigwyr cynaliadwyedd o Gymru a’r tu hwnt – yn ogystal â sectorau eraill – hefyd yn ymuno â’r rhaglen fel siaradwyr gwadd.
Yn sail i raglen 2025 hefyd mae ein perthynas gydweithredol â Sustainable Screens Australia, gyda gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn a syniadau gael eu rhannu ledled y byd.
Mae rôl y Cydlynydd Cynaliadwyedd yn cynnwys:
- Alinio camau gweithredu â nodau’r Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru ac egwyddorion ehangach Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015);
- Cydgysylltu â darlledwyr/comisiynwyr a chwmnïau cynhyrchu i roi eu polisïau cynaliadwyedd ar waith wrth gynhyrchu;
- Creu, gweithredu a chynnal cynllun i sicrhau bod mentrau cynaliadwyedd yn cael eu hymgorffori a’u monitro yn effeithiol;
- Tracio a gwerthuso data ar gyfer ardystiad albert a threfnu gwybodaeth a thystiolaeth ar gyfer y Cynllun Gweithredu ar Garbon;
- Cyfathrebu â gwahanol adrannau i dynnu sylw at gamau y gallent eu rhoi ar waith i ddatblygu dewisiadau cynaliadwy a lleihau effeithiau negyddol ar y blaned;
- Rheoli gwastraff ac ailgylchu ar lawr gwlad a chysylltu â chyflenwyr all gynorthwyo gyda symud tuag at economi fwy cylchol;
- Annog datblygu cynnyrch neu wasanaethau cynaliadwy allai helpu’r cynhyrchiad i gadw at safonau amgylcheddol y presennol neu’r dyfodol, fel symud tuag at economi gylchol a/neu gofleidio technolegau newydd;
- Adolygu gweithrediadau presennol y cwmni cynhyrchu’n rheolaidd i wella cynaliadwyedd yn y dyfodol;
- Defnyddio sgiliau cyfathrebu rhagorol i ddatblygu deunyddiau cyfathrebu gweledol (gan gynnwys posteri, negeseuon e-bost a chylchlythyrau) i hysbysu criwiau am gynaliadwyedd a’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd gadarnhaol, barchus a diddorol;
- Rhannu gwybodaeth (hanfodol) a chysylltu â chymunedau a sefydliadau perthnasol, yn ogystal â phrosiectau eraill y mae Media Cymru yn eu hariannu i gynyddu cydweithio;
- Helpu i adeiladu rhwydweithiau economi gylchol gydag ysgolion, colegau, grwpiau theatr, busnesau propiau, busnesau lleol, elusennau ac ati.
Fe gewch y canlynol o’r rhaglen:
- Y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo fel Cydlynydd Cynaliadwyedd yn y sector sgrin
- Mentoriaid a rhwydwaith ehangach o weithwyr proffesiynol cynaliadwyedd i’ch arwain a’ch cefnogi
- Cymorth ar leoliad gwaith fel Cydlynydd Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad neu ffilm wedi’i sgriptio
- Rhwydweithio a chyfleoedd ac adnoddau eraill i sicrhau swyddi pellach
- Set sgiliau a sylfaen wybodaeth drosglwyddadwy sydd â pherthnasedd traws-sector
- Ymwybyddiaeth o fentrau a nodau eraill sydd â ffocws ar gyflawni targedau’r Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru, a’r potensial ar gyfer cydweithio
Bydd pob sesiwn hyfforddi yn cael ei chyflwyno gan arbenigwyr sy’n gweithio yn y sector. Bydd sesiynau wyneb yn wyneb yn ymdrin â phynciau fel:
- Rôl y Cydlynydd Cynaliadwyedd, y cyfleoedd mae’n eu cynnig a pham mae’n bwysig
- Dysgu am adrodd ac ardystio Carbon BAFTA albert
- Deall gwastraff fel adnodd a’r economi gylchol
- Rheoli prosiectau a newid
- Gwleidyddiaeth, Cynyrchiadau a Phobl
- Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Deall yr effeithlonrwydd carbon ac arian ddaw o weithio’n gynaliadwy
- Trosolwg dros brosesau cynyrchiadau wedi’u sgriptio cynaliadwy
- Deall gofynion cyfreithiol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
- Datblygu rhwydweithiau cydweithio, rhestrau cyflenwyr ac adnoddau
Manylion Cyflwyno
Sut mae’n gweithio
Mae’r rhaglen hon yn cael ei hariannu’n llawn gan Media Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol ac mae’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ag Earth to Action, mewn cydweithrediad â Severn Screen.
Bydd hyd at chwe hyfforddai llwyddiannus yn derbyn cyflog/bwrsariaeth hyfforddi i dalu am golli enillion posibl (£150 am ddiwrnod llawn o hyfforddiant a £75 am hanner/diwrnodau teithio).
Bydd y gyfradd ddyddiol ar y lleoliad 60 diwrnod yn cynyddu i £200 y dydd i adlewyrchu oriau gwaith hirach.
Gallai unigolion hefyd fod yn gymwys i gael bwrsariaeth teithio a llety i helpu tuag at fynd i sesiynau a lleoliadau wyneb yn wyneb. Bydd y gwahanol gynyrchiadau yn gyfrifol am drefniadau teithio i setiau/lleoliadau, yn ogystal â phrydau bwyd a llety (pan fo angen), yn unol â chyfraddau BECTU.
Pwy all wneud cais?
Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw un dros 18 oed, sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd ag angerdd dros ddiogelu dyfodol y blaned yn ogystal â phobl sydd ag o leiaf flwyddyn o brofiad yn gweithio ar gynyrchiadau teledu a ffilm. Byddwn hefyd yn ystyried profiad yn y theatr, y cyfryngau sain a gweledol, gwaith gwirfoddol perthnasol neu rolau amgylcheddol.
Sgiliau y bydd eu hangen arnoch (o leiaf y canlynol)
- Peth profiad yn gweithio mewn rôl cynaliadwyedd, neu rôl gysylltiedig.
- Rhywfaint o ymwybyddiaeth/profiad o weithio ym maes cynhyrchu ar gyfer y teledu, drama neu ddrama barhaus yn ddelfrydol.
- Rhywfaint o ddealltwriaeth o ofynion ardystiad BAFTA albert.
- Angerdd dros gynnwys teledu a sgrin.
- Diddordeb amlwg mewn cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a chynhyrchu cynaliadwy.
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol gyda gallu amlwg i amldasgio.
- Rheoli blaenoriaethau all wrthdaro a chyflawni erbyn dyddiadau cau.
- Y gallu i weithio yn rhan o dîm ac yn annibynnol.
- Defnyddio TG hyderus.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i gydweithio â sawl adran.
- Trwydded yrrwr llawn.
Pethau eraill rydyn ni’n chwilio amdanynt (meini prawf ychwanegol)
- Gwybodaeth am rwydweithiau cynaliadwyedd yn y sector.
- Dealltwriaeth dda o ddatrysiadau technegol a llygad craff am arloesi.
- Dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol ar gwmnïau cynhyrchu a chydymffurfio â rheolau amgylcheddol.
- Yn delfrydol, mynediad at gerbyd.
Rydym yn cydnabod gwerth cadarnhaol amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu annheg. Ein nod bob amser yw recriwtio’r person sydd fwyaf addas ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, cenedligrwydd, crefydd, a chred.
Mae hyd at chwe lle ar gael.
Pryd a ble
Bydd y broses ymgeisio yn cau ar 23:59 dydd Iau 24 Gorffennaf 2025.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu hysbysu erbyn dydd Iau 31 Gorffennaf.
Bydd cyfweliadau yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd ar 13 neu 14 Awst..
Byddwn yn rhoi gwybod i bawb a yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus erbyn dydd Gwener 15 Awst.
Gofynnwn i chi sicrhau eich bod yn gallu mynychu’r holl sesiynau hyfforddi yn ystod y cyfnod canlynol:
- Bydd y rhaglen hyfforddi ar waith pob dydd Gwener o 12 Medi tan ddydd Gwener 3 Hydref 2025 (4 wythnos). Bydd 4 sesiwn diwrnod llawn (WYNEB YN WYNEB). Cynhelir y rhain ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol mewn lleoliadau gwahanol yn ne Cymru:
- Dydd Gwener 12 Medi 2025, 1000-1800
- Dydd Gwener 19 Medi 2025, 1000-1800
- Dydd Gwener 26 Medi 2025, 1000-1800
- Dydd Gwener 3 Hydref 2025, 1000-1800
*Rydym yn bwriadu cynnal pob un o’r sesiynau mewn ystafelloedd dosbarth stiwdio ledled De Cymru (h.y. yn Wolf, Great Point, Dragon, Roath Lock, Bay a/neu Urban Myth Studios), yn dibynnu ar weithgarwch cynhyrchu ar y pryd. Bydd hyfforddiant yn symud yn awtomatig i Brifysgol De Cymru os na all y lleoliadau eraill gynnal y sesiynau ar y dyddiadau hyn.
- Bydd hanner diwrnod o deithio mewn car wedi’i rannu a noson yn Llangefni (yng ngogledd Cymru) ar ddydd Iau 9 Hydref (darperir cludiant a llety).
- Bydd ymweliad â Stiwdios Aria ar ddydd Gwener 10 Hydref, ac wedyn teithio i Ganolfan Technoleg Amgen Machynlleth ar gyfer gweithgaredd gyda’r nos ac aros dros nos.
- Bydd gweithdy rhyngweithiol/cydgrynhoi undydd terfynol ar ddydd Sadwrn 11 Hydref 2025 yn Nghanolfan Technoleg Amgen Machynlleth o 1000-1600. Bydd cludiant wedi ei rannu wedi ei drefnu wedyn i ddychwelyd i dde Cymru. Bydd trefniadau teithio a llety dros nos yng Ngogledd Cymru yn cael eu cydlynu yn agosach at yr amser.
- Rhwng Hydref 2025 a Mawrth 2026, bydd hyfforddeion yn cwblhau lleoliad cyflogedig 60 diwrnod (10-12 wythnos) MEWN PARAU fel Cydlynwyr Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad wedi’i sgriptio.
- Trwy gydol y lleoliadau bydd sesiynau mentora ar-lein rheolaidd gyda’r darparwyr hyfforddiant, lle gall cyfranogwyr ofyn am gymorth, rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar gynyrchiadau a holi unrhyw gwestiynau.
Gweminar Holi ac Ateb
Bydd gweminar gwybodaeth ar ddydd Iau 17 Grofennaf 11:00 am -12:00 pm dan ofal y darparwyr hyfforddiant.
Byddwch yn gallu gofyn cwestiynau ynghylch bod yn Gydlynydd Cynaliadwyedd, am y rhaglen hyfforddi ac am y broses ymgeisio. Nid oes rhaid i chi ddod i’r weminar hon i wneud cais ond mae’n gyfle i ddysgu mwy.
Cofrestrwch ar gyfer y weminar yma.
Mynediad a hygyrchedd
Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais hwn yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, ysgrifennu neu gymorth darllen) neu os hoffech gael y cais hwn mewn fformat amgen (fformatau fideo neu sain, naratif sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith amgen) anfonwch e-bost at a media.cymry@southwales.ac.uk
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: media.cymry@southwales.ac.uk