Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

string(76) "/cym/gwyrddior-sgrin-lansio-cronfa-datblygu-ffilm-cymru-wales-a-media-cymru/" 11803003 Skip to main content
int(1180) 11803003
News

Cyhoeddwyd ar 20.05.2024

Gwyrddio’r sgrin: lansio cronfa datblygu Ffilm Cymru Wales a Media Cymru

Gyda chymru’n dod yn arweinydd wrth gynhyrchu ffilmiau/teledu sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol   

Mae Media Cymru a Ffilm Cymru Wales yn lansio Cronfa Datblygu newydd gyda’r nod o droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu cyfryngau cynaliadwy.  

Ffilm Cymru Wales a Media Cymru sydd wedi cynllunio ac sy’n cyflwyno Cronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrin.  Bydd y gystadleuaeth yn buddsoddi hyd at £50,000 mewn prosiectau i fusnesau cymwys ddatblygu ffyrdd arloesol o wneud y sector teledu a ffilm yng Nghymru yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. 

Dan arweiniad Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru BAFTA albert, rhaid i brosiectau cymwys ddangos sut y byddant yn lleihau effaith andwyol y sector ar yr amgylchedd. Mae Screen New Deal BAFTA albert yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol di-garbon a diwastraff drwy feysydd effaith allweddol: 

  • Symud at ynni adnewyddadwy.  
  • Ail-feddwl am drafnidiaeth. 
  • Ffordd gylchol o leihau gwastraff deunydd a bwyd. 
  • Casglu gwybodaeth a chydweithio megis rhannu arbenigedd, dealltwriaeth dechnegol, cynllunio cynhyrchu ac adrodd ar draws y gadwyn gyflenwi. 
  • Gosod a gwrthbwyso modelau busnes. 
  • Cefnogaeth i gyflenwyr gwyrdd

Mae lleihau ôl troed carbon y sector sgrin yn “gwbl hanfodol”  

Mae sector sgrin Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi tyfu’n sylweddol dros y degawd diwethaf, gan greu llu o gynyrchiadau llwyddiannus ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol (Doctor Who, Sherlock, A Discovery of Witches, His Dark Materials, Sex Education, Hinterland, Dream Horse, Kensuke’s Kingdom, Timestalker).  

Er bod y llwyddiant hwn wedi creu momentwm ac wedi codi uchelgais y diwydiant, ac er bod cynhyrchu ffilm a theledu yn dod â chyfres o fanteision i’r economi leol a GDP, mae ymchwil wedi dangos bod heriau sylweddol i’w hwynebu hefyd.  

  • Ar gyfartaledd mae cynhyrchu ffilm nodwedd â chyllideb fawr yn creu yn agos i 3,000 tunnell o garbon – cymaint â char disel yn cael ei yrru o gylch y byd 300 o weithiau 
  • Defnyddiwyd pŵer disel mewn 91% o eneraduron ar y set yng Nghymru y llynedd 
  • Dim ond 14% o’r cynyrchiadau sy’n cael eu ffilmio mewn stiwdios yn y DU sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy 
  • Roedd teithio ar y ffordd yn gyfrifol am 80% o’r allyriadau trafnidiaeth a grëwyd gan gynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru 
  • Roedd 25% o’r pren a ddefnyddiwyd i adeiladau setiau ledled Cymru y llynedd wedi’i ailgylchu 
  • Daw 94% o’r allyriadau bwyd o brydau â chig mewn cynyrchiadau yng Nghymru

Gyda dulliau arloesol o ddefnyddio technoleg yn dilyn y pandemig yn sbardun, mae’r sector yng Nghymru yn dangos addewid ar gyfer lleihau ôl troed carbon y diwydiant a cheir ymdrechion cynyddol i newid y ffordd mae cynyrchiadau yn gwneud eu gwaith.  

Trwy ddefnyddio technolegau cynhyrchu datblygedig fel stiwdios cynhyrchu rhithwir a phrosesau newydd, yn ogystal â thechnoleg VR a XR arbrofol i leihau’r angen i deithio i leoliadau a chynhyrchu propiau niferus (a gwastraff), mae cwmnïau cynhyrchu yn gwneud eu rhan i hybu lleihad yn eu gwastraff a sicrhau nad yw cynhyrchion a deunyddiau’n mynd i dirlenwi. 

Glasbrint ar gyfer dyfodol gwyrddach: Nod Cymru yw cyflymu targed sero net 2050 

Nawr, diolch i Ffilm Cymru Wales a Media Cymru yn ogystal ag arweiniad ar leihau allyriadau a hybu cynaliadwyedd eu prosiectau, mae Cronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrin yn ategu ymrwymiad ehangach yn sector sgrin Cymru i ddod yn lasbrint i genhedloedd a rhanbarthau eraill yn y DU. 

Ar gyfer y cylch ariannu hwn, mae gan Ffilm Cymru a Media Cymru ddiddordeb arbennig mewn datrysiadau Cynaliadwy i heriau sero net a datgarboneiddio sector y sgrin, yn enwedig rhai sy’n ymateb i ganfyddiadau Cynllun Trawsnewid diweddar Screen New Deal i Gymru.  

Bydd tudalen ymgeisio  Cronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrin yn agor ar safle Media Cymru ar 20 Mai 2024, a bydd yn cau ar 28 Mehefin 2024.  

Rhagor o wybodaeth am Gronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrin a’r telerau ac amodau (dolen url)  

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru ac Athro Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd:  

“Cyflwynodd Screen New Deal BAFTA albert lasbrint i ni ar gyfer symud sector teledu a ffilm Cymru i gyfeiriad cynaliadwyedd amgylcheddol. Ond mae’r cynnydd hyd yma wedi bod rhy hamddenol o lawer ac yn boenus o araf. Nod cronfa Gwyrddio’r Sgrin yw creu newid o bwys, gan ddefnyddio dulliau arloesol i helpu’r sector i sicrhau gostyngiad sylweddol yn ei ôl troed carbon dros y pum mlynedd nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r arloeswyr yn y sector ac ar draws y gadwyn gyflenwi i wneud Cymru’n fodel ar gyfer cynhyrchu sgrin gwyrdd.” 

Ychwanegodd Rheolwr Cynaliadwyedd Ffilm Cymru Wales, Louise Dixey:  

“Mae Screen New Deal:  Cynllun Trawsnewid i Gymru yn nodi meysydd blaenoriaeth i’r sector wrth iddo leihau ei ôl troed carbon a hefyd leihau gwastraff. Rydyn ni’n chwilio am ddatrysiadau arloesol fydd yn cefnogi gweithredu’r Cynllun Trawsnewid a phrosiectau cydweithredol yn y diwydiant fydd yn gatalysis ar gyfer newid…”