string(128) "/cym/ivefold-studios-partner-consortiwm-media-cymru-yn-agor-cyfleuster-cynhyrchu-rhithwir-blaenllaw-gyda-phencadlys-yng-nghymru/" 15534003 Skip to main content
int(1553) 15534003
News

Cyhoeddwyd ar 22.10.2024

fivefold studios, partner consortiwm Media Cymru, yn agor cyfleuster cynhyrchu rhithwir blaenllaw gyda phencadlys yng Nghymru

sgrin werdd gyda char yn y canol a rig goleuo ar y nenfwd

fivefold studios – yn dwyn ynghyd creadigrwydd ac arloesedd…  

Mae fivefold studios, sydd â phencadlys yn Dragon Studios yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi agoriad ei chyfleuster cynhyrchu rhithwir blaenllaw. Yn cael eu hystyried yn ganolbwynt creadigol sy’n dwyn ynghyd creadigrwydd ac arloesedd, mae fivefold studios yn barod i roi hwb i’r diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu yn y rhanbarth a thu hwnt. 

Wedi’i lansio yn rhannol i wella isadeiledd ffilm a theledu Cymru, bydd fivefold studios yn chwarae rhan ganolog wrth ddod â chynhyrchu rhithwir i sector creadigol Cymru. Mae’r stiwdio yn cynnig gwasanaethau cynhyrchu cynhwysfawr, gan ddefnyddio technegau Effeithiau Gweledol yn y Camera uwch ochr yn ochr â thechnegau recordio symudiadau a pherfformiadau.

Stiwdio  

Gyda gofod stiwdio a swyddfeydd sy’n mesur dros 12,000 troedfedd sgwâr, mae fivefold studios yn cynnig digon o le i gynyrchiadau o bob maint – boed brosiectau annibynnol bach neu ffilmiau mawr hynod lwyddiannus.

Mae cyfaint LED o’r radd flaenaf y cyfleuster yn caniatáu ffilmio effeithiau gweledol mewn amser real, gan roi’r adnoddau a’r offer sydd eu hangen ar y rhai sy’n gwneud ffilmiau i arloesi’n greadigol a symleiddio prosesau cynhyrchu.

Yn ogystal, mae gan y stiwdio gilfwa sgrin werdd sefydlog mwyaf Ewrop, sy’n mesur 5,000 troedfedd sgwâr a 33 troedfedd o daldra. Mae hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer amgylcheddau rhithwir ac anghenion ôl-gynhyrchu.  

Hyfforddi

Yn ogystal â’r gofod stiwdio cynhyrchu rhithwir, mae fivefold yn paratoi i lansio cangen hyfforddi ar y cyd â Media Cymru. Bydd y cyfleuster hyfforddi yn rhan o ymrwymiad fivefold i roi’r sgiliau i’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr cynhyrchu, a hynny er mwyn iddyn nhw gynnal y statws mae Cymru yn ei ddatblygu yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu byd-eang   

Dywedodd fivefold…

Dywedodd David Levy, Rheolwr Gyfarwyddwr fivefold studios: “Yma yn fivefold studios, rydyn ni’n hynod o falch o fod yn sefydlu menter gynaliadwy, wedi’i llywio gan dechnoleg sy’n hyrwyddo’r gwerthoedd sy’n llunio dyfodol y cyfryngau ac adloniant.  

Mae ein tîm mewnol wedi bod yn rhan o’r chwyldro cynhyrchu rhithwir o’r cychwyn cyntaf ac maen nhw eisiau adeiladu canolfan ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu cyfryngau uwch yng Nghymru. Mae ein tîm yn brofiadol yn y diwydiant, ac maen nhw wedi gweithio i stiwdios megis Netflix, Apple, Paramount, ac Amazon MGM. Mae fivefold studios yn barod i gynnig atebion cynhyrchu rhithwir blaenllaw ar gyfer eich prosiectau.” 

Dywedodd Media Cymru…

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru, yr Athro Sara Pepper: “Mae cynhyrchu rhithwir yn parhau i gael effaith ym mhob rhan o sector y cyfryngau gan alluogi buddion busnes sylweddol trwy greu mwy o hyblygrwydd wrth gynhyrchu gan gynnwys y gallu i wneud addasiadau a gwelliannau amser real a chynhyrchu symlach.    

Am y rhesymau hyn, bydd agor fivefold yng Nghymru yn newid allweddol i glwstwr cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i Gymru ac i’r DU. Mae’r rhanbarth eisoes ar y map yn un o’r clystyrau cyfryngau mwyaf blaenllaw yn y DU a bydd y cyfleuster hwn yn galluogi cyfleoedd pellach i’r clwstwr a’r rhai sy’n gweithio ynddo ar hyn o bryd neu sydd â’r bwriad o wneud. Mae hefyd yn cadarnhau ein dyheadau i feithrin sector cyfryngau gwyrddach, tecach, sydd wedi’i gysylltu’n fyd-eang ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.” 

Rhagor o wybodaeth

Ewch i wefan fivefold i gael rhagor o wybodaeth.