Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 20.06.2025
Consortiwm Media Cymru yn datgelu rhaglen Cymrodoriaethau Cynhyrchu Rhithwir, sef y rhaglen gyntaf o’i bath yng Nghymru

Mae ceisiadau am Gymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir 9 mis newydd sbon sydd wedi’i hariannu’n llawn nawr ar agor
Mae Media Cymru, consortiwm o sefydliadau a busnesau darlledu, cynhyrchu ac academaidd yng Nghymru, wedi comisiynu’r darparwyr hyfforddiant arbenigol Final Pixel Academy i gyflwyno rhaglen Cymrodoriaethau Cynhyrchu Rhithwir ™ 9 mis yn 2025/2026.
Y rhaglen yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru a bydd yn cael ei chynnal mewn cyfleuster hyfforddi newydd o’r radd flaenaf ar gyfer Cynhyrchu Rhithwir yn fivefold studios. Wedi’i hariannu gan Media Cymru, mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan y darparwyr hyfforddiant arbenigol Final Pixel Academy a’i chefnogi gan y stiwdio gynhyrchu rithwir fivefold studios a’r cwmni ôl-gynhyrchu Gorilla Academy.
Mae cynhyrchu rhithwir yn cyfuno technoleg peiriant gemau amser real â chefndiroedd sgrin LED a recordio symudiadau, ac mae’n trawsnewid fwyfwy sut mae cynnwys yn cael ei wneud.
Mae’r defnydd o gynhyrchu rhithwir mewn teitlau enwog fel The Mandalorian, The Witcher, a The Lion King wedi nodi newid mewn modelau cynhyrchu byd-eang, ac mae Cymru bellach mewn sefyllfa i hyfforddi’r gweithlu sydd ei angen i alluogi’r newid hwnnw ymhellach.
Mae’r rhaglen wedi’i hadeiladu’n bwrpasol yn cyd-fynd â newid mewn arferion yn y diwydiant ledled y byd. Mae’n cyfuno technolegau arloesol a thechnegau cynhyrchu rhithwir ar gyfer criw proffesiynol a thalent sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant ar draws meysydd teledu a ffilm, darlledu, gemau, effeithiau gweledol, digwyddiadau byw ac ôl-gynhyrchu.
Bydd Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Final Pixel ™ gyntaf yng Nghymru yn gweld un deg chwech o gyfranogwyr yn cymryd rhan mewn naw mis o hyfforddiant arbenigol. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys y sgiliau cynhyrchu rhithwir sylfaenol a chanolradd sydd eu hangen, megis cynhyrchu, creu celf rithwir yn ogystal â rhedeg a ffilmio gyda sgrîn LED fawr.
Mae’r cyfleuster hyfforddi cynhyrchu rhithwir newydd yn fivefold studios ac mae’r rhaglen Gymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Final Pixel ™ yn rhan o gyflymu buddsoddiad a hyder yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Wrth siarad am y gymrodoriaeth, dywedodd Cyfarwyddwr Media Cymru, Justin Lewis:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda phartneriaid y consortiwm a Final Pixel Academy i gynnal Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir ™gyntaf Cymru. Bydd yr ymgeiswyr terfynol yn manteisio ar gymysgedd o safon uchel o hyfforddiant ar y set, dosbarthiadau meistr gyda phobl ddawns flaenllaw yn y diwydiant a briffiau byw sy’n seiliedig ar brosiectau, ond mae’r Gymrodoriaeth hefyd yn cynrychioli’r “dechnoleg arloesol” sy’n tanio dyfodol newydd i’r diwydiannau creadigol yn y DU.

Mae Academi Final Pixel yn gangen hyfforddiant Final Pixel, Asiantaeth Arloesi Greadigol a Filmworks.
Dr Jodi Nelson-Tabor yw Pennaeth Final Pixel Academy. Dywedodd:
“Mae lansio’r Gymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Final Pixel ™ gyntaf erioed yng Nghymru yn nodi cyfnod trawsnewidiol i’r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth. Yn Final Pixel Academy, rydym yn falch o arwain y rhaglen arloesol hon mewn partneriaeth â fivefold studios, Gorilla (Academy) a Phrifysgol De Cymru, a wnaed yn bosibl trwy gefnogaeth Media Cymru. Drwy ddysgu sgiliau cynhyrchu rhithwir a thecnolegau amser real arloesol, rydym yn meithrin talent leol yn ogystal â denu buddsoddiad mewnol ac yn rhoi Cymru mewn sefyllfa i fod yn gyrchfan flaenllaw ar gyfer cynyrchiadau ffilm, teledu a chyfryngau ymdrwythol arloesol. Mae ein Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Final Pixel Academy yn fwy na hyfforddiant yn unig; mae’n gatalydd ar gyfer twf y diwydiant, rhagoriaeth greadigol, a dyfodol llewyrchus ar gyfer cynhyrchu rhithwir yng Nghymru.”
Dywedodd David Levy, Rheolwr Gyfarwyddwr fivefold studios:
“Yn fivefold studios, rydym wedi sefydlu cyfleuster cynhyrchu rhithwir pwrpasol yng nghanol stiwdio ffilm lewyrchus yn ne Cymru. Mae’n cynnwys cornel sgrîn werdd fwyaf Ewrop, systemau recordio symudiadau a pherfformiad uwch, ac uned LED o’r radd flaenaf. Mae’r gofod wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar gyfer arloesi a chynhyrchu ar raddfa fawr. Mae cynnal Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Final Pixel Academy ™ yma yn caniatáu inni groesawu talent sy’n dod i’r amlwg i amgylchedd a gynlluniwyd ar gyfer dysgu ymarferol, archwilio creadigol, a phartneriaethau cydweithio ym maes cynhyrchu yn y byd go iawn.”
Ychwanegodd Sally Lisk-Lewis, Rheolwr Hyfforddi Sgiliau a Phartneriaethau Prifysgol De Cymru:
“Mae’r Gymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Final Pixel ™ i gyd yn ymwneud â pharatoi’r gweithlu yng Nghymru ar gyfer y dyfodol a phontio’r bwlch rhwng gwneud ffilmiau traddodiadol a byd cynhyrchu rhithwir sy’n dod i’r amlwg. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar wneuthurwyr ffilmiau Cymru i fod yn unigryw a rhagori yn y sector, gan ddenu cynyrchiadau o’r radd flaenaf wrth wneud hynny.”
Ychwanegodd Paul Hawke-Williams, Pennaeth Hyfforddiant ac Ymgysylltu Gorilla Academy:
“Mae Gorilla a Gorilla Academy yn gyffrous i fod yn rhan o’r Gymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir, gan helpu i dyfu enw da Cymru ym maes cynhyrchu rhithwir, gan roi cipolwg llawn i gyfranogwyr ar sut mae pethau’n gweithio – o lawr y stiwdio i’r cynnyrch terfynol. Fel cwmni ôl-gynhyrchu blaenllaw, rydym yn gwybod sut y gall llifau gwaith clyfar arbed amser ac arian, ac rydym yn awyddus i rannu’r wybodaeth honno. Mae’r prosiect hwn i gyd yn ymwneud â meithrin sgiliau, hybu hyder, chwalu mythau a dangos bod Cymru yn parhau’n rhan bwysig ym maes Teledu a Ffilm.
Bydd ceisiadau i’r rhaglen yn agor, gwnewch gais nawr.