Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 30.06.2025
Pwyllgor y Gymraeg PGGB i gynnal Digwyddiad Cynaliadwyedd ar syd a Cymru Greadigol, Media Cymru a Ffilm Cymru Wales

Mae Pwyllgor Cymru Urdd Cynhyrchu Prydain Fawr (PGGB) wedi ymuno â Chymru Greadigol, sef asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo twf diwydiannau creadigol Cymru, Media Cymru a Ffilm Cymru Wales i gynnal arddangosfa cynaliadwyedd ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stiwdios Great Point, Caerdydd. Roedd Ffilm Cymru Wales yn rhan hanfodol o ddatblygu Cynllun Trawsnewid Bargen Newydd Sgrîn Cymru, ochr yn ochr â BAFTA, BFI ac Arup. Fe’i gynhaliwyd fel prosiect peilot gyda map ffordd o argymhellion cynaliadwyedd tuag at gyflawni cynyrchiadau carbon sero net ar draws diwydiant ffilm a theledu y DU.
Bu i’r digwyddiad cynaliadwyedd cyntaf yng Nghymru ar 2 Gorffennaf ddeillio o ddigwyddiadau “Cynaliadwyedd Tu Ôl i’r Lens” llwyddiannus gan PGGB yn Llundain. Roedd Pwyllgor Cymru PGGB yn awyddus i arddangos cynaliadwyedd yn y maes a rhoi cyfle i unigolion a chwmnïau gwrdd, rhwydweithio a thrafod dod yn fwy llwyddiannus, a dysgu am gyflenwyr technoleg gwyrdd arobryn yn y rhanbarth. Hyd yma, mae 24 o arddangoswyr wedi cadarnhau y byddant yn bresennol, gan gynnwys Facilities by ADF a Sunbelt Rentals, yn ogystal â Location One, Real SFX, Geo Pura, Location Solutions, Get Set Hire ac Infinite Renewables. Mae’n ddiwrnod agored am ddim i bob gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant teledu a ffilm.
Wrth drafod y digwyddiad sydd ar ddod, dywedodd Edward Rastelli-Lewis, cynhyrchydd llinell a chadeirydd Pwyllgor N&R Cymru PGGB:
“Fel pwyllgor, rydyn ni’n hynod ffodus o allu cynnal digwyddiad o’r fath a gweithio gyda chymaint o gwmnïau lleol, sydd oll yn awyddus i arddangos eu harferion cynaliadwyedd a rhoi cyfle i rwydweithio yng Nghymru”.
Dywedodd Michael Beavan, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro PGGB:
“Bellach yn ein trydedd flwyddyn o’r digwyddiad ‘Cynaliadwyedd Tu ôl i’r Lens’, mae ei weld yn tyfu ac yn ehangu i Gymru yn foment balch i PGGB a’n diwydiant. Dan arweiniad brwd Ed Rastelli-Lewis, mae’r Pwyllgor Cymru wedi creu fersiwn pwrpasol eu hunain o’r digwyddiad, gan adlewyrchu anghenion a chyfleoedd am ragor o gynhyrchu ffilm a theledu cynaliadwy yng Nghymru a’r rhanbarthau cyfagos. Mae safon y partneriaid sy’n cyd-gynnal a chefnogi’r digwyddiad yn brawf o hynny.”
Dywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol:
“Rwy’n annog cynrychiolwyr o ddiwydiant y sgrîn i ddod i’r digwyddiad hwn, sydd mor bwysig i’n diwydiant. Mae Cynllun Trawsnewid Bargen Newydd Sgrîn Cymru yn rhoi ein cenedl ar y map o ran gosod safonau uchel am arferion cynaliadwy all gael eu gweithredu ledled y diwydiant sgrîn ehangach yn y DU, ond mae’n bwysig parhau i gydweithio, creu cysylltiadau a rhannu gwybodaeth.”
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru:
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad Cynaliadwyedd Cynhyrchu PGGB yng Nghymru, yn nodi sut mae Cymru yn camu i’r adwy ac yn sicrhau bod ein diwydiant ffilm a theledu yn dod y diwydiant mwyaf cynaliadwy posibl. Drwy gyfuniad o Gynllun Trawsnewid Bargen Sgrîn Newydd ar gyfer Cymru ac ymyriadau a ariennir gan Media Cymru, mae cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr llawrydd yng Nghymru yn croesawu technolegau newydd ac arferion arloesol newydd i wneud cynnydd ar dargedau sero net.”
Ychwanegodd Louise Dixey, Rheolwr Cynaliadwyedd Ffilm Cymru Wales:
“Mae Ffilm Cymru Wales yn croesawu’r arddangosfa hon fydd yn cynnwys cyflenwyr mewn partneriaeth sy’n bodloni blaenoriaethau cynaliadwyedd Bargen Newydd Sgrîn Cymru: symud at ynni adnewyddadwy, ailystyried trafnidiaeth, cylcholrwydd, casglu gwybodaeth a chydweithio a newid ymddygiad. Cadwch lygad ar ein prosiectau Datblygu Gwyrddio’r Sgrîn.”
Cliciwch am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad