Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Mae ScreenTales yn un o’r prosiectau sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid sbarduno ar gyfer 2025. Mae eu prosiect ymchwil a datblygu’n canolbwyntio ar Fapiau Sain Ambisonig Hygyrch (AAMs) gan ddefnyddio sain realiti rhithwir. Wrth weithio gyda phobl greadigol ddall gan ddefnyddio meicroffon 3D ‘ambisonig’ ScreenTales, fe wnaethon nhw ddarganfod bod y profiad clywedol o’r un ansawdd uchel â’r profiad gweledol gan ddefnyddio gogls realiti rhithwir 8K. Bydd ScreenTales yn datblygu arfer gorau ar gyfer recordio sain realiti rhithwir i’w gwneud yn hygyrch. Bydd yr arfer gorau hwn hefyd yn ffordd ddibynadwy o ddefnyddio sain realiti rhithwir ym mhob math o gyfrwng.
Dyma a ddywedodd Sylvia Strand o ScreenTales:
“Rydyn ni wedi darganfod bod sain 3D ‘gwirioneddol’, sy’n bosibl gyda ‘Dolby Atmos’, yn trawsnewid y profiad gwrando i bobl â nam ar eu synhwyrau. I grynhoi, mae sain 360 o’r radd flaenaf yn wych ar gyfer gwella adloniant, ond mae ganddi’r potensial hefyd i fod yn adnodd hygyrchedd pwerus.