Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Neuadd y Ddinas, Parc Cathays
Caerdydd, CF10 3ND
Beth yw Exceptional Minds?
Mae Exceptional Minds, a arweinir gan Unquiet Media, yn brosiect unigryw sydd â’r nod o ymchwilio i’r rhwystrau penodol y mae unigolion niwroamrywiol yn eu hwynebu yn ein sector, a datblygu arferion gwell i ddiwallu eu hanghenion gwahanol.
Bydd Unquiet Media yn mynd i’r afael â stigma a chamdybiaethau presennol ynghylch gwahaniaethau cudd, yn cynghori ac yn cynorthwyo i greu amgylcheddau gwaith mwy hygyrch, ac yn ymhelaethu ar leisiau niwroamrywiol yn ein diwydiant.