string(31) "/cym/projects/mannau-arloesedd/" Skip to main content

Mannau Arloesedd 

Ecosystem o fannau ffisegol a digidol, cymorth busnes a mynediad at dechnoleg sy’n dod i’r amlwg, a gynlluniwyd i ddatblygu’r clwstwr cyfryngau mwyaf arloesol yn y DU.

Beth yw Mannau Arloesedd?

Mae’r Mannau Arloesedd yn dod â rhwydwaith o fannau ffisegol a digidol ynghyd er mwyn cysylltu ein cymuned amrywiol o weithwyr llawrydd a busnesau. Mae’n cynnig y cyfle i fanteisio ar gyfleoedd technoleg newydd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn rhannu’r wybodaeth a’r syniadau diweddaraf gyda’r byd diwydiant.   

Bydd y prosiect hwn yn meithrin diwylliant cydweithredol o ymchwil, datblygu ac arloesedd yn sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  

Dysgwch am y Mannau Arloesedd

Mannau Arloesedd 

Digwyddiadau Creative Collective

dyn sy'n siarad ymlaen cynulleidfa

Awst 2024: Datblygu Meddylfryd Arloesi

Datblygu Meddylfryd Arloesi gyda Robin Moore. Darganfyddwch pa fath o arloeswr ydych chi gyda theclyn rhyngweithiol newydd, a ddatblygwyd gan dîm ymchwil Media Cymru.

Rhagor o wybodaeth
Detholiad o ddelweddau a gynhyrchwyd gan Midjourney AI.

Rhagfyr 2023: AI a Dyfodol y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru

Bu Robin Moore, Ymgynghorydd Arloesedd gyda Media Cymru a Shwsh, yn sgwrsio â ni am arloesedd yn niwydiant cyfryngau Cymru, lle AI yn hynny, a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n datblygu arloesedd.

Rhagor o wybodaeth
Mannau Arloesedd 

Mehefin 2023: Gwyliwch y gofod hwn - Cyfarfodydd Misol Arloeswyr Creadigol

P’un a ydych chi’n newyddiadurwr, yn wneuthurwr ffilmiau, neu’n llawrydd, mae rhwydweithio yn arf hanfodol ar gyfer adeiladu’ch gyrfa. Felly, sut allwch chi adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol yn niwydiant y cyfryngau? Mae cyfarfodydd misol Arloeswyr Creadigol, a ddarperir gan y tîm Innovation Spaces yn TownSq a Shwsh, yn lle gwych i ddechrau!

Rhagor o wybodaeth