int(425)

Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Neuadd y Ddinas, Parc Cathays Caerdydd, CF10 3ND

Exceptional Minds  

Archwilio a datblygu ffyrdd gwell o ddarparu ar gyfer niwroamrywiaeth yn sector y cyfryngau.

Beth yw Exceptional Minds?

Mae Exceptional Minds, a arweinir gan Unquiet Media, yn brosiect unigryw sydd â’r nod o ymchwilio i’r rhwystrau penodol y mae unigolion niwroamrywiol yn eu hwynebu yn ein sector, a datblygu arferion gwell i ddiwallu eu hanghenion gwahanol. 

Bydd Unquiet Media yn mynd i’r afael â stigma a chamdybiaethau presennol ynghylch gwahaniaethau cudd, yn cynghori ac yn cynorthwyo i greu amgylcheddau gwaith mwy hygyrch, ac yn ymhelaethu ar leisiau niwroamrywiol yn ein diwydiant.