Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Y Canllaw Gorau ar gyfer meithrin Diwydiant Creadigol sy’n Fwy Niwro-Gynhwysol

“Gall y Diwydiannau Creadigol, sydd yn lle delfrydol i’r rheini ohonom sy’n meddwl ac yn gweld y byd mewn ffyrdd gwahanol, wneud cam â phobl niwroamrywiol, a hefyd â hwy eu hunain, drwy beidio ag ystyried ac addasu i wahaniaeth.”
Mae Exceptional Minds yn brosiect Ymchwil a Datblygu dan arweiniad Unquiet Media, gyda chyllid cydweithredol gan Unquiet Media a Media Cymru.
Crëwyd y canllaw hwn gan Unquiet Media i helpu busnesau a chyflogwyr yn y diwydiant cyfryngau i ddeall, recriwtio, cefnogi, cadw, a gwerthfawrogi talent niwrowahanol yn well, ac i feithrin mannau ac arferion mwy cynhwysol ar gyfer eich timau, cyflogeion, cydweithwyr, criwiau a gweithwyr llawrydd. Mae’r canllaw hwn, sy’n manteisio ar brofiad bywyd cannoedd o unigolion creadigol niwrowahanol, busnesau’r cyfryngau yr ydym wedi’u cwmpasu, ac arbenigedd ein tîm ynghylch y gwyddorau a’r diwydiant creadigol, yn cynnwys disgrifiadau o niwroamrywiaeth a chysyniadau cysylltiedig, yn ogystal â chanllawiau diriaethol ar gyfer creu amgylcheddau a phrosesau gwaith mwy amrywiol, cynhwysol a theg sydd nid yn unig o fudd i unigolion creadigol niwrowahanol, ond hefyd i’ch busnes.