string(83) "/cym/research/y-canllaw-gorau-i-wneud-y-diwydiant-creadigol-yn-fwy-niwro-gynhwysol/" Skip to main content
Research

Published: 18 Mehefin 2025

Authors: Unquiet Media

Y Canllaw Gorau i Wneud y Diwydiant Creadigol yn Fwy Niwro-Gynhwysol

Graffeg cartŵn yn darlunio menyw â chamera fideo a pherson arall gyda bwrdd clapiwr

“Mae’r Diwydiannau Creadigol, a all fod yn lle perffaith i’r rhai ohonom sy’n meddwl am y byd ac yn ei weld mewn gwahanol ffyrdd, yn gwneud tro gwael mawr â phobl niwrowahanol a nhw eu hunain, trwy beidio â darparu ar gyfer amrywiaeth.”

Prosiect Ymchwil a Datblygu dan arweiniad Unquiet Media yw Exceptional Minds, wedi’i ariannu ar y cyd gan Unquiet Media a Media Cymru.

Crëwyd y canllaw hwn gan Unquiet Media i helpu busnesau a chyflogwyr yn y diwydiant cyfryngau i ddeall, recriwtio, cefnogi, cadw, a gwerthfawrogi talent niwrowahanol yn well, ac i feithrin mannau ac arferion mwy cynhwysol ar gyfer eich timau, cyflogeion, cydweithwyr, criwiau a gweithwyr llawrydd. Mae’r canllaw hwn, sy’n manteisio ar brofiad bywyd cannoedd o unigolion creadigol niwrowahanol, busnesau’r cyfryngau yr ydym wedi’u cwmpasu, ac arbenigedd ein tîm ynghylch y gwyddorau a’r diwydiant creadigol, yn cynnwys disgrifiadau o niwroamrywiaeth a chysyniadau cysylltiedig, yn ogystal â chanllawiau diriaethol ar gyfer creu amgylcheddau a phrosesau gwaith mwy amrywiol, cynhwysol a theg sydd nid yn unig o fudd i unigolion creadigol niwrowahanol, ond hefyd i’ch busnes.

Darllenwch yr adroddiad