string(34) "/cym/funding/climate-stories-fund/" Skip to main content
int(1412)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 21.08.2024

Y Gronfa Straeon Hinsawdd

Ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu sy’n arwain at ffilmiau hir neu brofiadau trochi sy’n adrodd stori argyfwng yr hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.

Ar agor: Dydd Llun 2 Rhagfyr

Ar gau: Dydd Gwener 17 Ionawr, canol y dydd

Trosolwg

Mae Cronfa Straeon am yr Hinsawdd Media Cymru × Ffilm Cymru Wales ar gyfer prosiectau Ymchwil a Datblygu ar gyfer ffilmiau hir neu brofiadau trochi sy’n adrodd stori argyfwng yr hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.

Bydd y gronfa yn cefnogi’r elfen Ymchwil a Datblygu. Unwaith y bydd yr ymchwil a datblygu wedi’i gwblhau, gall ymgeiswyr llwyddiannus wneud cais am gyllid pellach drwy Ffilm Cymru Wales i barhau i ddatblygu’r ffilm hir neu’r profiad trochi.

Mae’r Gronfa Straeon Hinsawdd yn cydredeg â chyfnod tyngedfennol ar gyfer yr argyfwng hinsawdd byd-eang. Mae cytundeb cyffredinol bod yn rhaid i’r sector ffilm gymryd cyfrifoldeb dros fynd i’r afael â’r argyfwng hwn drwy ddatgarboneiddio gwaith cynhyrchu, a chreu cynnwys effeithiol am yr hinsawdd sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol ac yn ysgogi pobl i weithredu. Mae’r gronfa hon yn dilyn lansiad ein Cronfa Ddatblygu Peintio’r Sgrin yn Wyrdd (Greening the Screen) yn gynharach eleni, a oedd yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio cynhyrchu mewn ymateb i Gynllun Trawsnewid Bargen Newydd y Sgrin i Gymru gan BAFTA Albert.

Proses

Mae’r cam Ymchwil a Datblygu yn cynnig hyd at £20,000 ar gyfer sbrint ymchwil a datblygu pedwar mis o hyd a fydd yn cael ei gynnal rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf 2025.

Ar ddiwedd y sbrint Ymchwil a Datblygu, bydd cyfle i brosiectau llwyddiannus wneud cais am £50,000 pellach i roi ei prosiect ar waith trwy Ffilm Cymru Wales.

Hygyrchedd  

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen) neu os hoffech drafod y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, adroddiad sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith arall) anfonwch e-bost i media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.

Meini prawf cymhwysedd

  • Mae gennych chi syniad am brosiect ymchwil a datblygu arloesol sy’n canolbwyntio ar gynnwys sy’n ymwneud â’r hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
  • Mae eich cwmni yng Nghymru.
  • Gallwch neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect ymchwil a datblygu gwib rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2025.
  • Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn a’i ariannu fesul unigolyn/cwmni/sefydliad fel arweinydd prosiect.

Dyddiadau Alweddol

  • 2 Rhagfyr 2024: Cyfnod ymgeisio yn agor a digwyddiad lansio yn Ffilm Cymru (W2, Wellington, Stryd Wellington, Caerdydd, CF11 9BE)
  • 17 Ionawr 2025: Bydd y cyfnod ymgeisio’n cau am hanner dydd (ni dderbynnir ceisiadau ar ôl yr amser hwn)
  • 14 Chwefror 2025: Hysbysu ymgeiswyr
  • 1 Ebrill 2025: Prosiectau ymchwil a datblygu gwib yn dechrau
  • 31 Gorffennaf 2025: Prosiectau ymchwil a datblygu yn gorffen
  • O fis Awst 2025 ymlaen: posibilrwydd y bydd prosiectau’n cael eu datblygu’n fasnachol gyda Ffilm Cymru

Pileri Media Cymru

Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau o’n pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:

  • Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol negyddol y sector
  • Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol
  • Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol

Diffiniad Media Cymru o Ymchwil a Datblygu

Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well. 

Gan ystyried cyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, profi neu arbrofi gyda thechnoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu rithgynhyrchu. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio sy’n flaengar, yn decach ac yn fwy cyfeillgar i’r blaned.. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.

Dyma’r math o brosiectau ymchwil a datblygu rydyn ni’n chwilio amdanynt:

  • Gwreiddiol: bydd yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg.
  • Creadigol: bydd yn defnyddio dulliau arbrofol ac yn cynhyrchu canfyddiadau newydd.
  • Ansicr: bydd yn dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol.
  • Systematig: bydd yn seiliedig ar ddull gweithredu wedi’i gynllunio a’i gyllidebu.
  • Trosglwyddadwy: bydd yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu er mwyn sicrhau manteision ehangach.

Lansio’r Gronfa Straeon Hinsawdd

Ar ddidd Llaun 2 Rhagfyr, ymunwch â Media Cymru a Ffilm Cymru Wales wrth iddyn nhw lansio eu Cronfa Straeon Hinsawdd newydd yn swyddogol. 
Rhagor o wybodaeth ac archebwch eich lle. 

Gwneud cais

Darllenwch a lawrlwythwch y ddogfen ganllaw cyn gwneud cais – mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth, manylion ymgeisio a meini prawf cymhwysedd.

Os ydych chi’n dymuno paratoi eich atebion all-lein cyn gwneud cais, mae’r cwestiynau ymgeisio allweddol i’w gweld yn y ddogfen ganllaw.

Nodiadau canllaw Y Gronfa Straeon Hinsawdd (Dogfen Word)

Nodiadau canllaw Y Gronfa Straeon Hinsawdd (PDF)

Rhaid llenwi a chyflwyno pob cais ar-lein drwy ein gwefan. Ni allwn dderbyn ceisiadau mewn fformatau eraill.