Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn
Bydd Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn agor ar 18 Medi 2023 ac yn cau ar 1 Tachwedd 2023.
Bydd prosiectau unigol yn gallu gwneud cais am hyd at £250,000. Mae lot o £600,000 ar gael ar gyfer y gwaith hwn.
Rydym yn chwilio am syniadau sydd â photensial i sicrhau newid cadarnhaol gwirioneddol ar draws y sector. Nid ydym yn chwilio am syniad un-tro (one off), ond yn hytrach, atebion hirdymor i heriau’r diwydiant o gyflawni sero net.
Bydd prosiectau’n cychwyn o 1 Ebrill 2024 a bydd ganddynt rhwng 12-18 mis i gwblhau eu hymchwil a datblygu.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Mercher 1 Tachwedd 2023
Ar sail ymchwil Screen New Deal albert BAFTA a BFI, mae’n rhaid i brosiectau ymchwil a datblygu leihau’r effaith negyddol y mae’r sector sgrin yn ei chael ar yr amgylchedd drwy’r prif feysydd effaith canlynol:
- ynni a thanwydd
- cludiant
- economi gylchol a gwastraff
- cipio a lledaenu data, arbenigedd, dealltwriaeth dechnegol, cynllunio cynyrchiadau, ac adrodd ar draws y gadwyn gyflenwi
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
- Busnesau cofrestredig yn y DU, cwmnïau buddiannau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw
- Rhaid i ymgeiswyr fod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd neu’n cydweithio ag o leiaf un sefydliad ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Anogir cydweithio ar draws y sectorau canlynol:
- y cyfryngau – cynhyrchu ffilm a theledu – a’r sectorau creadigol ehangach
- y byd academaidd
- technoleg
- ynni a thanwydd
- cludiant
- gwasanaethau economi gylchol a rheoli gwastraff
- gweithgynhyrchu a deunyddiau
Am beth alla i wneud cais?
Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau cyllido gwerth rhwng £75,000 a £250,000. Mae cyfanswm o £600,000 o gyllid ar gael.
Rhaid i brosiectau wneud y canlynol:
- Canolbwyntio ar y sector cyfryngau
- Dangos manteision amgylcheddol sylweddol i ddiwydiant y cyfryngau, yn enwedig lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Cynnal o leiaf 75% o waith y prosiect ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Gwelwch y meini prawf cymhwysedd llawn ar gyfer ymgeiswyr a phrosiectau.
Sut ydw i’n gwneud cais?
- Darllenwch y canllawiau ar gyfer gwneud cais am gystadleuaeth ar y Gwasanaeth Cyllid Arloesedd.
- Llenwch y ffurflen gais ar-lein, sydd wedi’i rhannu’n bedair adran:
- Manylion y prosiect.
- Cwestiynau am y cais.
- Cyllid.
- Hygyrchedd a chynhwysiant.