string(48) "/cym/lansio-cystadleuaeth-cyllid-gwyrddur-sgrin/" Skip to main content
int(912)
News

Cyhoeddwyd ar 14.09.2023

Lansio Cystadleuaeth Cyllid Gwyrddu’r Sgrin

Banner with two green semi-circles meeting and the text 'Greening the Screen', as well as other green and grey shapes touching, representing collaboration around sustainability

Mae Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn ariannu’r gwaith o ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau, gan wella cynaliadwyedd amgylcheddol y diwydiant sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae rhaglen Cymru Werdd gan Ffilm Cymru Wales yn cefnogi gweithwyr proffesiynol a chwmnïau’r sector sgrin yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Fel rhan o hyn, mae Media Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Ffilm Cymru Wales i gyflwyno ein cronfa datblygu Gwyrddu’r Sgrin, sy’n cael ei rheoli gan Innovate UK, sef rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Ar sail ymchwil Screen New Deal albert BAFTA a BFI, mae’n rhaid i brosiectau ymchwil a datblygu leihau’r effaith negyddol y mae’r sector sgrin yn ei chael ar yr amgylchedd drwy’r prif feysydd effaith canlynol:

  • ynni a thanwydd
  • cludiant
  • economi gylchol a gwastraff
  • cipio a lledaenu data, arbenigedd, dealltwriaeth dechnegol, cynllunio cynyrchiadau, ac adrodd ar draws y gadwyn gyflenwi

Dywedodd Louise Dixey, Rheolwr Cynaliadwyedd Ffilm Cymru Wales: “Mae’n gyfnod cyffrous i fynd i’r afael â chynaliadwyedd ar y cyd yn y diwydiant sgrin, ac mae’r Gronfa sylweddol hon yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad Screen New Deal BFI ac albert BAFTA. Mae gan y diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu gyfle unigryw i fod yn gatalydd ar gyfer newid.”

Dywedodd Greg Mothersdale, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Media Cymru, sy’n arwain ar gynaliadwyedd amgylcheddol: “Mae’n amlwg bod angen i’r sector sgrin leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff materol fel blaenoriaeth. Rydyn ni’n chwilio am ddatrysiadau tymor hir i heriau’r diwydiant o gyrraedd sero net. Mae ein Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn cefnogi’r gwaith o ymchwilio a datblygu datrysiadau arloesol sy’n mynd i’r afael â’r heriau hyn, ac rydyn ni’n annog ceisiadau gan unrhyw ddiwydiant a allai gydweithio â’r sector sgrin er mwyn gwneud hynny.”

Bydd Cronfa Gwyrddu’r Sgrin ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 18 Medi a 1 Tachwedd 2023, gyda phrosiectau yn dechrau o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Darganfod mwy…