Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 30.10.2024
Arloesi ar gyfer Pobl Greadigol
Cwrs pum diwrnod ar gyfer myfyrwyr coleg a phrifysgol neu raddedigion, gweithwyr llawrydd ar ddechrau eu gyrfa, neu berchnogion busnesau bach sydd â diddordeb yn y diwydiannau creadigol.
Ceisiadau ar agor: Dydd Mawrth 5 Tachwedd
Dyddiad cau: Dydd Gwener 29 Tachwedd
Dyddiadau Allweddol
- Ceisiadau ar agor: Dydd Mawrth 5 Tachwedd
- Ceisiadau yn cau: Dydd Gwener 29 Tachwedd
- Dyddiadau cwrs: 13 – 16 a 24 Ionawr 2025
Trosolwg
Mae Arloesedd i Bobl Greadigol yn gwrs pum diwrnod sydd wedi’i anelu at fyfyrwyr coleg a phrifysgol neu raddedigion, gweithwyr llawrydd ar ddechrau eu gyrfa, neu berchnogion busnesau bach sydd â diddordeb yn y diwydiannau creadigol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dysgu am y canlynol:
- Sut i gydweithio ag eraill
- Prosesau ymchwil, datblygu ac arloesi
- Datblygu busnes ac entrepreneuriaeth
- Sut i greu a phrofi prototeipiau newydd
- Pam mae dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ffordd hygyrch o arloesi
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys tridiau gyda PDR, dau ddiwrnod gyda Sefydliad Alacrity a mynediad at borth dysgu digidol ar-lein.
Mae PDR yn gyfleuster ymgynghori dylunio ac ymchwil gymhwysol o’r radd flaenaf. Mae Sefydliad Alacrity yn sefydliad addysgol sy’n mentora’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal rhwng 13 a 16 Ionawr 2025, gyda’r diwrnod olaf yn cael ei gynnal ar 24 Ionawr.
Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfranogwyr yn deall sut i droi syniadau’n gynigion arloesol sy’n ymgorffori anghenion defnyddwyr.
Bydd bwrsari o £500 yn cael ei ddarparu i bob cyfranogwr.
Hygyrchedd
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os hoffech drefnu cyfarfod un-i-un i drafod eich cais, e-bostiwch media.cymru@cardiff.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.
Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), anfonwch e-bost i media.cymru@cardiff.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.
Gwneud cais
Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn darllen y ddogfen ganllawiau cyn llenwi eich cais.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 29 Tachwedd, noon.
Ymwadiad:
Rhaid cyflwyno pob cais trwy’r ffurflen ar-lein ar ein gwefan.
Sylwch, bydd bwrsari o £500 yn cael ei ddarparu i bob cyfranogwr.