string(85) "/cym/work-begins-on-bbc-cymru-wales-and-media-cymru-content-innovation-fund-projects/" Skip to main content
int(678)
News

Cyhoeddwyd ar 08.03.2023

Gwaith yn dechrau ar brosiectau Cronfa Arloesi Cynnwys BBC Cymru Wales a Media Cymru

Mae Little Bird Films a Boom Cymru wedi cael y grantiau cyntaf i brofi a gweithredu technolegau arloesol yn eu gwaith cynhyrchu cynnwys. 

Ym mis Hydref 2022, mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales, cyhoeddwyd cyfle newydd i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer cynnwys yn seiliedig ar arloesedd i’w gomisiynu. 

Mae Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC, y cyntaf o’i math yn y DU, yn cyfuno cyfnod ymchwil a datblygu a arweinir gan Media Cymru gyda chyfnod comisiynu dan arweiniad BBC Cymru Wales. Uchelgais y gronfa yw ymgorffori ymchwil, datblygu ac arloesedd wrth wraidd gwaith cynhyrchu yn y cyfryngau yng Nghymru.     

Mae Little Bird Films a Boom Cymru wedi cael y grantiau cyntaf i brofi a gweithredu technolegau arloesol yn eu gwaith cynhyrchu cynnwys. 

Bydd prosiect Little Bird yn archwilio ffyrdd newydd o wneud cynnwys ffeithiol arbenigol a bydd Boom Cymru yn profi rig ffilmio symudol cwbl integredig ar gyfer cynhyrchu ffeithiol. 

Dywedodd Adam Partridge, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu: “Mae Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC yn bartneriaeth unigryw i Media Cymru, sy’n integreiddio ymchwil, datblygu ac arloesedd i’r broses ddatblygu gyda chynhyrchwyr lleol.  

“Roedd yr amrywiaeth o syniadau a gyflwynwyd i’r gronfa hon a’r awydd i arloesi wedi creu argraff arnom ni. Mae hyn yn dystiolaeth bellach o gryfder ac uchelgais y sector cynhyrchu annibynnol yma yng Nghymru – rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniad y cyfle unigryw hwn.” 

Dywed Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales: “Mewn byd o gymaint o ddewis, dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach i fod yn flaengar ac arloesol. Mae’r gronfa yma yn rhyddhau ysbryd creadigol er mwyn creu cynnwys i ddifnio genre, uchelgeisiol fydd yn cael effaith nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd. Rydym yn falch o fod yn cydweithio â Media Cymru ac eisoes yn gweld gwaith cyffrous ar y gweill.” 

Bydd Little Bird yn defnyddio cam ymchwil a datblygu Media Cymru i archwilio ffyrdd newydd arloesol o wneud cynnwys ffeithiol arbenigol trawiadol gan ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf. 

Dywedodd Louise Bray, cyd-sylfaenydd Little Bird Films: “Mae Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC yn rhoi cyfle unigryw i ni ddatblygu syniadau sy’n seiliedig ar dechnoleg arloesol nad yw erioed wedi bod ar y sgrin o’r blaen. Mae’r cyfnod ymchwil a datblygu yn ein galluogi i wneud defnydd trylwyr o’r dechnoleg o safbwynt teledu, i’n galluogi i archwilio a datblygu cynnwys posibl ar raddfa fyd-eang. Rydyn ni’n hynod gyffrous ac yn ddiolchgar i gael y cyfle gwych yma. 

Bydd prosiect Cronfa Arloesi Cynnwys Boom Cymru, Access All Areas, yn rhoi cynnig ar rig ffilmio symudol wedi’i integreiddio’n llawn ar gyfer cynhyrchu ffeithiol a fydd yn caniatáu iddynt ffilmio digwyddiad cyfan gan ddefnyddio technolegau o bell. Drwy’r prosiect, byddant yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu ar system dechnolegol o’r radd flaenaf a fydd yn rhoi’r gwylwyr wrth wraidd popeth. 

Dywedodd Nia Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru: “Yn Boom, rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd ac arloesol o rannu straeon a dod o hyd i ffyrdd ffres a chyffrous o gyrraedd y bobl a’r lleoedd mwyaf rhyfeddol.  

“Mae’r Gronfa Arloesi Cynnwys yn cynnig cyfle i ni archwilio ble allai’r chwyldro nesaf fod o ran creu rhaglenni, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Media Cymru a’r BBC ar y prosiect hwn.”  

Mae cam ymchwil a datblygu’r ddau brosiect eisoes ar y gweill a byddant yn cymryd rhwng tri a chwe mis. Bydd y broses gomisiynu yn dechrau yn ystod haf 2023.  

Ewch i’r newyddion diweddaraf am Gronfa Arloesi Cynnwys y BBC

"Mewn byd o gymaint o ddewis, dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach i fod yn flaengar ac arloesol." - Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales