string(36) "/cym/blog-posts/cofio-laolu-alatise/" Skip to main content
int(1048)
Blog

Cyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2024

Cofio Laolu Alatise

Photo of Laolu Alatise smiling.

Laolu with his hands clasped and a book in front of him looking thoughtful.Ym mis Medi 2023, fe glywsom fod ein cydweithiwr a’n ffrind, Laolu Alatise, wedi marw.

Does dim digon o eiriau i gydnabod pa mor arwyddocaol oedd effaith Laolu ar ein tîm, ein gwaith a’r sector creadigol ehangach yn y rhan hon o’r byd. Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i wneud lle ar-lein i gofio beth roedd yn ei olygu i ni i gyd.

Fe wnaeth y rhan fwyaf o’r tîm gwrdd â Laolu gyntaf yn rhithwir ym mis Ionawr 2021 pan ddechreuodd fel Swyddog Cynhwysiant Clwstwr, ond ni allai sgrin fach Zoom gyfyngu ar ei rym bywiog, beiddgar a gwirioneddol wreiddiol.

Deallai Laolu y gallem wneud y gwahaniaeth mwyaf trwy ariannu pobl anhygoel i wneud gwaith anhygoel, arloesol. Bu’n gweithio’n agos gyda’r tîm i ymestyn ein cyrhaeddiad i wahanol gymunedau ledled y rhanbarth a chefnogi pobl drwy eu teithiau ymchwil a datblygu, bob amser gyda chydymdeimlad. Yna daeth Laolu yn Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Cynorthwyol gyda Media Cymru, gan ganolbwyntio ar weithio gyda’r sector i’w cael i gymryd rhan yn y Biblinell Arloesi, sy’n cynnig arian a chyfleoedd hyfforddi wedi’u targedu er mwyn cynyddu eu gallu i wneud ymchwil, datblygu ac arloesi (RD&I) ystyrlon.

Roedd cynhesrwydd naturiol a gallu Laolu i feithrin perthnasoedd gwaith cryf yn ffynnu trwy ei rôl newydd fel Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Cynorthwyol. Roedd ei angerdd dros hyrwyddo mynediad i’r diwydiant yn fwyaf amlwg yn ei waith yn datblygu’r rhaglen Arloesi ar gyfer Pobl Greadigol. Roedd yn credu’n gryf y dylai Media Cymru gynnig lle i unigolion oedd yn newydd i’r sector ddysgu a rhannu syniadau mawr ac roedd yn gwerthfawrogi’n fawr gallu cymysgu gyda’r grŵp a chlywed eu straeon.

Laolu speaking on a panel at the University of South Wales.

Yn ystod ei gyfnod gyda Clwstwr a Media Cymru, daeth Laolu yn fwy angerddol am ymchwil, datblygu ac arloesi, ac effaith bosibl hynny. Dyma fe mewn fideo ar gyfer Media Cymru, yn esbonio beth mae’r cyfan yn ei olygu:

Roedd Laolu yn actifydd ac yn eiriolwr a newidiodd galonnau a meddyliau trwy ei empathi dwfn, ei garedigrwydd a’i allu i greu lle ar gyfer pobl, eu safbwyntiau a’u hanghenion.

 

Laolu and colleagues having drinks in a beer garden together after the ClwstwrVerse event.

Roedd yn aelod mor werthfawr o dîm Canolfan yr Economi Greadigol — yn cymryd amser i wrando ac i ystyried ei ymatebion llawn cydymdeimlad, gan hyrwyddo gwaith pobl eraill ac yn llawn bywyd ac egni mewn unrhyw gynulliad. Dyma beth oedd gan rai o’i gydweithwyr i’w ddweud am Laolu:

“Roedd Laolu yn fod dynol eithriadol a hardd. Roedd ei synnwyr digrifwch chwareus, a oedd yn aml yn gellweirus, yn golygu ei fod yn gallu herio a thrawsnewid yn radical sut câi pethau eu gwneud, ond ar yr un pryd yn gadael pobl yn teimlo eu bod yn wir wedi cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Helpodd bawb ohonon ni i ddeall bod ecwiti yn ymdrech a rennir ac i ddod o hyd i’n ffordd yn rasol ac yn llawn empathi. Roedd yn caniatáu i ni ofyn cwestiynau dwl, ac yn cael hyd i elfen greiddiol pob rhyngweithio. Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi ei adnabod ac rwy’n gweld ei eisiau bob dydd.”

– Sally Griffith

“Roedd yn gwbl unigryw. Ches i erioed y fraint o ddod ar draws rhywun mor unigryw a bythol ddiddorol â Laolu Alatise. Fe wnes i ddysgu rhywbeth newydd a diddorol bob tro y buom yn siarad. Roeddwn i’n gwerthfawrogi ei gwmni’n aruthrol. Roedd ei garedigrwydd a’r gofal a’r diddordeb oedd ganddo dros bobl yn werthoedd oedd yn disgleirio trwy bopeth a wnâi. Ac wrth ei gofio fel cydweithiwr a ffrind, byddaf bob amser yn gweld eisiau ei gwmni, ei ddidwylledd, ei synnwyr digrifwch drygionus a’r chwerthiniad gorau erioed.”

– Lee Walters

Byddwn yn parhau i anrhydeddu Laolu yn ein gwaith, nid yn unig yn nulliau gweithredu beunyddiol y tîm – mae diferion bach yn gwneud crychdonau, on’dydyn nhw – ond yn holl ymyriadau rhaglen Media Cymru, er mwyn sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau. Ni fydd ei gyfraniad at wneud ein byd yn lle mwy cyfartal a pharod i dderbyn byth yn cael ei wyrdroi.

Diolch, cariad.