string(43) "/cym/blog-posts/beth-yw-ymchwil-a-datblygu/" 10902804 Skip to main content
int(1090) 10902804
Blog

Cyhoeddwyd ar 9 Chwefror 2024

Beth yw Ymchwil a Datblygu?

Fel arfer, rydyn ni’n clywed yr ymadrodd ‘ymchwil a datblygu’ ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, ond dyma un o’r pethau rydyn ni’n ceisio ei newid yn Media Cymru. Rydyn ni’n gobeithio gallu troi egwyddorion ac adnoddau ymchwil a datblygu yn arfer safonol yn ein sector creadigol rhanbarthol.

Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynnyrch, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well

Yng nghyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, arbrofi neu ddefnyddio technoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial a chynhyrchu rhithwir. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd tecach a mwy cyfeillgar i’r blaned o weithio. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd a gwasanaethu cynulleidfaoedd. Mae posibiliadau di-ri.

Mae ymchwil a datblygu da:

  • yn newydd: wedi’i anelu at ganfyddiadau newydd
  • yn greadigol: yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid amlwg
  • yn ansicr: gyda lefel o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol
  • yn systematig: hynny yw, yn seiliedig ar ddull wedi’i gynllunio a’i gyllidebu
  • yn drosglwyddadwy: hynny yw, yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu gan arwain at drosglwyddo gwybodaeth newydd

Pam fod Ymchwil a Datblygu yn bwysig?

Gydag ymchwil a datblygu creadigol ysbrydoledig, rydyn ni’n credu y gallwn leihau’r risg sy’n gysylltiedig ag arloesedd ar gyfer gweithwyr llawrydd a chwmnïau o bob maint, fel y gallwn i gyd fod yn fwy hyderus am y dyfodol wrth i ni wthio ffiniau’r hyn sy’n bosib.

Gallwch gael gwyboedaeth am ein prosiectau i weld enghreifftiau o’r gwaith yma, a gweld pa gyfleoedd cyllido sydd ganddon ni i’w gynnig ar hyn o bryd.