string(81) "/cym/bbc-cymru-wales-and-media-cymru-announce-its-second-content-innovation-fund/" Skip to main content
int(1469)
News

Cyhoeddwyd ar 02.10.2024

BBC Cymru Wales a Media Cymru yn cyhoeddi Cronfa Arloesi Cynnwys yn ymwneud â’r hinsawdd

cynulleidfa yn gwylio pedwar o bobl ar banel

Mae rownd ariannu 2024 ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ymchwilio, datblygu a chomisiynu cynnwys sy’n cael ei sbarduno gan arloesedd er mwyn ymgysylltu cynulleidfaoedd ag argyfwng yr hinsawdd ledled Cymru a thu hwnt.    

Mae’r Gronfa Arloesi Cynnwys ddiweddaraf yn canolbwyntio ar gynnwys arloesol yn ymwneud â’r hinsawdd ar gyfer cynulleidfa brif ffrwd. Mae’n dilyn y Gronfa Arloesi Cynnwys gyntaf o 2022, a roddodd grantiau i Boom Cymru a Little Bird Films i brofi ac ymgorffori technolegau newydd yn rhan o’u cynnwys. 

Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu Cynnwys: “Mae’n wych cael gweithio gyda Media Cymru eto a bydd y gronfa hon yn sicr o danio dychymyg ein cymuned greadigol. Y tro hwn rydyn ni’n canolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd, ac mae’n briodol ein bod yn lansio’r gronfa hon yma yng Nghaerdydd yn rhan o Gynhadledd Hinsawdd Pobl Greadigol y BBC 2024, sy’n cael ei gynnal ledled y DU.” 

Dywed yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru:  “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartner gyda BBC Cymru Wales ar y cyfle gwych hwn i fwrw ymlaen â’n dyheadau ar y cyd i ymchwilio a datblygu dulliau arloesol o ymgysylltu cynulleidfaoedd â chynnwys sy’n adrodd stori argyfwng yr hinsawdd.  

“Gyda chymorth y rownd ariannu gyffrous newydd hon, bydd carfan newydd ar y llwybr tuag at gomisiwn posibl, gan gynhyrchu sgiliau a dulliau newydd creadigol wrth iddyn nhw greu ffyrdd newydd o ysbrydoli ac ymgysylltu. 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau…” 

Bydd hyd at bum cwmni o Gymru yn cael eu dewis i ddatblygu syniadau uchelgeisiol ar gyfer cynnwys yn ymwneud â’r hinsawdd, gyda phob un yn derbyn hyd at £20,000. Gall prosiectau wedi’u hariannu arwain at y BBC yn comisiynu syniad am raglen.   

Mae gan Media Cymru ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n mynd i’r afael â phedwar o’u gwerthoedd strategol: Twf, Gwyrdd, Teg, Byd-eang. Darllenwch ragor am Werthoedd Media Cymru.   

Mae ceisiadau ar gyfer Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC eleni yn agor ddydd Mercher 2 Hydref ac yn cau am hanner dydd ddydd Llun 8 Tachwedd. Rhagor o wybodaeth am Gronfa Arloesi Cynnwys