string(32) "/cym/beth-yw-ymchwil-a-datblygu/" Skip to main content

Beth yw Ymchwil a Datblygu?

Fel arfer, rydyn ni’n clywed yr ymadrodd ‘ymchwil a datblygu’ ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, ond dyma un o’r pethau rydyn ni’n ceisio ei newid yn Media Cymru. Rydyn ni’n gobeithio gallu troi egwyddorion ac adnoddau ymchwil a datblygu yn arfer safonol yn ein sector creadigol rhanbarthol.

Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynnyrch, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well.

Yng nghyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, arbrofi neu ddefnyddio technoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial a chynhyrchu rhithwir. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd tecach a mwy cyfeillgar i’r blaned o weithio. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd a gwasanaethu cynulleidfaoedd. Mae posibiliadau di-ri.

Mae ymchwil a datblygu da:

  • yn newydd: wedi’i anelu at ganfyddiadau newydd
  • yn greadigol: yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid amlwg
  • yn ansicr: gyda lefel o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol
  • yn systematig: hynny yw, yn seiliedig ar ddull wedi’i gynllunio a’i gyllidebu
  • yn drosglwyddadwy: hynny yw, yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu gan arwain at drosglwyddo gwybodaeth newydd
Beth yw ymchwil a datblygu (R&D)?

Pam fod Ymchwil a Datblygu yn bwysig?

Gydag ymchwil a datblygu creadigol ysbrydoledig, rydyn ni’n credu y gallwn leihau’r risg sy’n gysylltiedig ag arloesedd ar gyfer gweithwyr llawrydd a chwmnïau o bob maint, fel y gallwn i gyd fod yn fwy hyderus am y dyfodol wrth i ni wthio ffiniau’r hyn sy’n bosib.

You can browse our projects to see examples of this work, and see what funding opportunities we currently have on offer.

Gallwch gael gwyboedaeth am ein prosiectau i weld enghreifftiau o’r gwaith yma, a gweld pa gyfleoedd cyllido sydd ganddon ni i’w gynnig ar hyn o bryd.

Prosiectau

Mae ein gwaith yn cwmpasu pedair prif thema: cynaliadwyedd amgylcheddol, cyrhaeddiad byd-eang, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a thwf economaidd.

Prosiectau
Beth yw ymchwil a datblygu (R&D)?

Cyfleoedd cyllido

Mae ein Ffwrd Arloesedd yn cyfres o rowndiau cyllido wedi'u targedu a chyfleoedd hyfforddi sy'n canolbwyntio ar sector y cyfryngau. Gwneud cais am y Gronfa Sbarduno nawr.

Rhagor o wybodaeth