string(95) "/cym/blog-posts/canfod-llwybr-mewn-mor-o-bobl-greadigol-o-ddigwyddiad-ysbrydoledig-media-cymru/" Skip to main content
int(849)
Blog

Cyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2023

Canfod llwybr mewn môr o bobl greadigol: O ddigwyddiad ysbrydoledig Media Cymru

Mae Ali Davenport, sydd newydd raddio gyda gradd mewn Saesneg o Brifysgol Chapman yng Nghaliffornia yn arbenigo mewn newyddiaduraeth ac is-bwnc dwbl mewn Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol (CCI) ac Astudiaethau Amgylcheddol, wedi llunio myfyrdod ar ddigwyddiad Media Cymru yr aeth iddo yn Swyddfa Conswl Prydain yn LA yn y gwanwyn. Dyma ddywed Ali:

“Cynhaliodd Media Cymru, sy’n cyflwyno prosiectau creadigol gyda themâu cyffredinol cynaliadwyedd amgylcheddol, cyrhaeddiad byd-eang, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a thwf economaidd, ddigwyddiad rhwydweithio i bobl greadigol o bob math ym Mhreswylfa’r Prif Gonswl Cyffredinol yn LA a chefais gyfle i fynd diolch i’r Ganolfan Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn Chapman.

Mae gan CCI wreiddiau yn y celfyddydau a’r dyniaethau, yn edrych ar ddiwydiannau yn cynnwys ffasiwn, ffilm a theledu, cerddoriaeth, amgueddfeydd, celfyddydau perfformio, cyhoeddi a thwristiaeth. Gyda thwf yr economi ddigidol, mae CCI hefyd yn cwmpasu diwylliant dylanwadwyr ac adrodd straeon digidol. Mae gan Ganolfan CCI Chapman a Chanolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd lawer yn gyffredin.

Gyda chynifer o feddyliau creadigol yn dod ynghyd dan un to i ddysgu gan Media Cymru am eu gwaith ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, roeddwn i’n teimlo’n ofnus braidd. Roeddwn i’n nerfus i siarad, ond erbyn diwedd, roeddwn i’n sgwrsio gydag unrhyw un roeddwn i’n gallu. Gwthiais fy hun oherwydd roeddwn i’n gwybod bod hon yn foment arbennig lle gallwn i ddysgu gan feddyliau creadigol rhagorol. Roedd y cyfle i ofyn cwestiynau i bobl am eu swyddi creadigol yn fy llenwi â chyffro ac egni. Dyma’n union lle’r oedd angen i mi fod.

Canfod llwybr mewn môr o bobl greadigol: O ddigwyddiad ysbrydoledig Media Cymru

Wrth fynd trwy’r coleg, roeddwn i’n ei chael yn anodd meddwl am swyddi neu lwybrau penodol yr oedd angen i mi eu cymryd i fynd i mewn i ddiwydiant arbennig. Wrth i mi ddechrau fy mlwyddyn sophomore, sylweddolais fy mod i’n awyddus i fynd ar hyd llwybr creadigol, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth. Fel myfyriwr hŷn, er fy mod yn caru bod yn newyddiadurwr ac ysgrifennu, rwyf i wedi sylweddoli fy mod yn agored i wahanol ddiwydiannau a swyddi creadigol eraill. Agorodd digwyddiad Media Cymru yn Hollywood fy llygaid i weld bod pobl wir yn gwneud y mathau hyn o swyddi creadigol cyffrous. Ac y gallwn i hefyd.

Doeddwn i ddim yn gwybod lle byddwn i’n ffitio nac yn dod o hyd i fy lle yn gynnar yn y coleg, ond fel rwyf i wedi dysgu trwy gyrsiau CCI a chyfleoedd rhwydweithio creadigol gwych fel hyn – swyddi creadigol sy’n gwneud i’r byd droi. Dydyn ni ddim yn gyfyngedig i un maes yn unig. Mae bod yn ifanc yn golygu rhoi cynnig ar bethau gwahanol ac amsugno gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant rydych chi’n cwrdd â nhw. Yn y digwyddiad hwn yn Hollywood, siaradais â newyddiadurwyr, arweinwyr Netflix, ffotograffwyr ac arbenigwyr cysylltiadau cyhoeddus. Ac yr un cyngor oedd gan bawb: rho gynnig ar bopeth ac unrhyw beth. Doedd gan ddim un o’r bobl y cwrddais i â nhw lwybr syth at lwyddiant. Rhoddon nhw gynnig ar wahanol swyddi creadigol tan iddyn nhw ddod o hyd i’w ffordd. Tan iddyn nhw ddod o hyd i’w hangerdd.

Mae Media Cymru yn rhaglen arloesol sy’n gwneud Cymru yn hyb cyfryngau gwyrdd, teg a chynaliadwy. Drwy astudio astudiaethau amgylcheddol fel is-bwnc, rwyf i wedi dysgu pa mor bwysig yw hi i’r economi greadigol osod nodau cynaliadwy at y dyfodol. Er enghraifft, caiff 92 miliwn o dunelli o wastraff tecstilau eu cynhyrchu bob blwyddyn gan y diwydiant ffasiwn. Rhaid i ni ystyried sut i fynd ati’n systematig i newid yr economïau sy’n sail i’n bywydau er mwyn brwydro yn erbyn effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd.

Drwy siarad ag arbenigwyr y diwydiant yn nigwyddiad Media Cymru, agorwyd fy meddwl i bosibiliadau creadigol gan fy nghyffroi am fy mhotensial yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio gweithio ym maes y cyfryngau a golygyddol ar ôl graddio, ac yn edrych ymlaen efallai at symud i Efrog Newydd i fod yn agored i gyfleoedd mewn newyddiaduraeth ffasiwn. Mae Media Cymru yn gosod safon ragorol i bobl greadigol ym mhobman gyda gweledigaeth leol ond uchelgais byd-eang.”

Canfod llwybr mewn môr o bobl greadigol: O ddigwyddiad ysbrydoledig Media Cymru

Yn ystod eu hymweliad â Chanolfan Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Prifysgol Chapman, cafodd yr Athro Justin Lewis a’r Athro Sara Pepper eu cyfweld gan Pam Coelho ar gyfer eu podlediad Catalyst yn y bennod Cardiff and Chapman Connect dros CCI. Gallwch wrando yma.

Cewch glywed gan ddirprwyaeth Cymru yn lansiad Media Cymru yn LA yn y fideo hwn

Chwarae