string(72) "/cym/blog-posts/immersive-queer-placemaking-whats-next-for-lgbtq-spaces/" Skip to main content
int(856)
Blog

Cyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2023

Creu Lleoedd Cwiar i Ymgolli ynddynt: Beth sy’n digwydd nesaf ar gyfer lleoedd LHDTC+?

Yn gynharach y mis hwn, cawsom sgwrs â’r Shane Nickels bendigedig i siarad am ei brosiect Cronfa Sbarduno – Creu Lleoedd Cwîr Ymdrwythol.

Iawn, felly, yn gyntaf, allech chi sôn rhywfaint amdanoch eich hun, pwy ydych chi, a beth rydych chi’n ei wneud yn y diwydiant ar hyn o bryd?

Helo, Shane Nickels ydw i ac rwy’n credu fy mod i bob amser wedi cael trafferth diffinio beth yw fy rôl. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn fy adnabod fel cynhyrchydd neu gynhyrchydd creadigol, ond rwy’n credu mai’r teitl swydd gorau i mi ddod ar ei draws yw Grafftiwr Creadigol, oherwydd rydw i bob amser wedi gweithio rhywle rhwng meysydd, o’r Digidol, i’r Theatr, i brofiad rydych chi’n Ymgolli ynddo – beth bynnag rydyn ni’n ei olygu wrth y gair hwnnw. Rydw i’n aml yn gweithio mewn syniadau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, boed hynny’n brofiad theatr newydd neu’n ddigwyddiad anarferol neu, efallai, arloesi mewn rhyw ffordd.

Rwyf wedi gwneud cynyrchiadau a theithiau a phob math o bethau, ond rwyf bob amser wedi teimlo’n fwy angerddol ynghylch, “o, mae gan y person yna syniad gwych, sut mae cael hynny i weithio?” Ac yna gyda’r Gronfa Sbarduno hon gan Gyfryngau Cymru, mae’n fater o droi’r sgiliau yn fynegiant sy’n dweud “o, fel mae’n digwydd, galla i gael syniadau hefyd”. Does dim rhaid i mi hwyluso syniadau pobl eraill yn unig, yn lle hynny, rwy’n gofyn “beth ydw i eisiau ei wneud a beth ydw i eisiau ei greu?”

Felly, mae eich prosiect Cronfa Fraenaru, Creu Lleoedd Cwiar i Ymgolli ynddynt, yn archwilio sut gallai profiadau sain i ymgolli ynddynt greu cyfleoedd newydd o ran Bywyd Nos Cwiar yng Nghaerdydd.

Allech chi ddweud ychydig wrthyf fi am sut cawsoch chi’r syniad ar gyfer y prosiect hwn?

Dechreuodd y syniad gyda fi a nghydweithwyr, Tom Mumford, Rick Yale and Mat David yn mynd i wahanol ddinasoedd a gwneud sylwadau ar y pethau rydyn ni’n eu gweld mewn mannau eraill ond sydd ddim i’w gweld yn digwydd yma.

Cawson ni ein hysbrydoli pan oedden ni’n dechrau siarad am dirwedd newidiol Caerdydd. Ac yn enwedig wrth edrych ar ofodau LHDTC, rydyn ni’n teimlo ein bod mewn cyfnod go iawn o newid, a dirywiad mewn rhai achosion. Ond mae yna hefyd lawer o enghreifftiau o bethau newydd yn ymddangos ac fe wnaeth hynny wneud i ni feddwl a thrafod beth sydd ei angen arnom. Cawson ni ein cyffroi am haen ddigidol cwiar i ddinas neu dref neu le – sut gallech chi gyrraedd lle a chael eich tywys o’i gwmpas. Does gan Gaerdydd ddim Ardal Hoyw fel Manceinion neu ddinasoedd eraill. Does dim lle penodol gallwch chi fynd iddo – mae’n ddinas llawer llai.

A dydyn ni ddim am feirniadu mewn unrhyw ffordd, ond rydyn ni hefyd am gael adloniant cwiar y tu hwnt i ‘drag’, y tu hwnt i gabare. Mae’r pethau hynny’n wych, ac maen nhw’n gwasanaethu cynulleidfa, ond mae rhaid bod mwy na hynny ar gael. A heblaw am wylio drama dosbarth canol am hoywon dosbarth canol. Dwy ddim yn gwybod am yr adloniant amgen sy’n digwydd.

Felly dyna’r sefyllfa mewn gwirionedd – pedwar dyn hoyw 30+ oed oedd eisiau gwneud rhywbeth ac fe gododd y cyfle yma ac roedd yn teimlo fel yr un iawn achos mae’n eistedd ychydig y tu allan i’n hanes ni fel pobl greadigol ac fe gawson ni’n hysbrydoli gan yr her.

Felly, beth yw profiadau Sain i Ymgolli ynddynt a sut rydych chi’n gweld y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio yn y gofod twristiaeth, lletygarwch a bywyd nos nawr ac yn y dyfodol?

Rwy’n gweld profiadau sain fel rhywbeth sy’n gallu ychwanegu at le heb golli ymdeimlad o gymuned. Rwy’n credu y gall Realiti Estynedig (AR) wneud yr un peth, ac yn aml nid yw AR yn galw am glustffonau, sy’n ddiddorol. Ond i mi, mae rhywbeth am allu cymysgu ychydig o ynysu trwy glustffonau, ond hefyd ymdeimlad o gymuned. Ac rwy’n hoffi sut gall sain fod yn rhywbeth unigol ac ar y cyd. Ond mae gen i ddiddordeb mawr ynddo hefyd o safbwynt storïol.

I’r dyfodol? Rwy’n credu bod hynny’n ymwneud â sut gellir mapio ystafell â sain a sut, wrth i chi symud o gwmpas yr ystafell honno neu’r gofod hwnnw, mae bron fel bod mewn gêm fideo sain heb yr angen am Realiti Rhithwir. Rwy’n hoffi’r agwedd fyw o allu cyfuno sain ac rwy’n credu bod yna bethau diddorol sy’n canolbwyntio ar glustffon ac sy’n ymwneud â’r cysylltiad personol hwnnw. Ond yna rwy’n credu bod rhywbeth diddorol ynghylch sut rydych chi’n defnyddio sain ofodol ar draws sawl seinydd, felly sut gallech chi fapio taith trwy ofod sy’n cael ei arwain gan Sain ac sy’n brofiad go iawn.

I mi, unrhyw bryd rwy’n siarad am brofiadau ymgolli, mae elfen fyw i hynny bob amser, boed hynny’n berfformiad byw neu’n ddim ond pedwar neu bump o bobl yn ei wneud ar yr un pryd, hyd at 100 o bobl yn ei wneud ar yr un pryd.

Fel y gwyddom, mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu bod llawer o bobl yn rhoi’r gorau i yfed ac mae’r genhedlaeth hon yn symud i fathau newydd o adloniant, yn aml i ffwrdd o sgriniau – profiad yw’r ‘buzzword’ ar hyn o bryd. Felly sut mae adeiladu seilwaith a chynulleidfa o gwmpas y pethau hyn? Ac rwy’n dyfalu’n benodol i ni, sut mae’r gymuned cwiar yn elwa o hynny? Sut rydyn ni’n creu lle mewn mannau lle nad ydyn ni’n bodoli fel arfer? Beth yw dyfodol lleoedd cwiar? Ydy hyn yn dal ynghylch beth maen nhw’n ei olygu ar hyn o bryd? Nawr bod mwy o dderbyniad a bod y lleoedd hyn yn fwy agored? Does gen i ddim atebion i’r rhain, dim ond cwestiynau sydd gen i.

Felly, rydych chi’n gynhyrchydd. Beth yw’r prosiect mwyaf cyffrous rydych chi’n bersonol wedi gweithio arno drwy gydol eich gyrfa?

Mae’n debyg mai un o’r swyddi y ces i’r mwyaf o hwyl a rhyddid ynddo oedd un o’r pethau cyntaf wnes i fel unigolyn oedd yn caniatáu ymgolli’n llwyr. Fe wnes i greu Sioe theatr ymdrochol lle’r oedd y gynulleidfa’n Rheithgor ar achosion ffug, cawsant wahoddiad i ddod i wasanaeth Rheithgor ac yna fe’u dyrannwyd i un o dri threial. Roedd tair taith drwy’r sioe, pob un yn gwylio treial gwahanol ac roedd lliw y laniard a roddwyd i chi yn dibynnu ar ba achos welsoch chi. Ac roedd hi’n sioe ryfedd iawn oherwydd yn y diwedd doedd e ddim yn rheithgor go iawn a doedd e ddim yn achos llys go iawn. Roedd yn gwlt lle roedd pawb yn y cwlt wedi cael eu cyhuddo ar gam o drosedd, ac felly nawr roedden nhw’n mynd i roi ail dreial i’w gilydd i ganfod y gwir. Fe’i perfformiwyd mewn hen ganolfan filwrol segur ac roedd yn sioe y bues i’n gyfarwyddwr arni.

Mewn cyd-destun proffesiynol ac mewn gofod sain, gweithiais gyda yello brick ar brosiect sain Ymgolli ar gyfer cyngor Powys o’r enw The Three Sisters of Plynlimon. Roedd hynny’n bleserus iawn oherwydd dyna’r tro cyntaf i mi edrych ar sain, o’i fapio i dirwedd ac i daith. Roedd yr holl straeon sain yn cael eu mapio ag un o’r afonydd roedden ni’n edrych arnyn nhw ym Mhowys, ac yna yn y pen draw daeth yn llawer mwy na dim ond profiad myfyriol awyr agored. Roedd yn ddiddorol iawn gweld adrodd straeon sain wrth ymlacio ac mewn ffordd rhyw fath o ymwybyddiaeth ofalgar. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n dal i wrando arno fel defnyddiwr, felly mae’n rhaid fy mod i wedi mwynhau honno.

Ac yn olaf, oes gennych chi unrhyw gyngor cyffredinol i chi’ch hun ddeng mlynedd yn ôl neu rai sydd newydd ddod i sector y cyfryngau ac sy’n ceisio gwneud eu ffordd yn y diwydiant?

Fy nghyngor go iawn yw – byddwch yn garedig. Does neb yn mynd i’r diwydiannau creadigol neu o leiaf rwy’n gobeithio bod pawb ohonon ni’n gwneud hynny oherwydd ein bod wedi dod o hyd i hapusrwydd neu lawenydd yn yr hyn y gall creadigrwydd ei wneud. Ac ydyn, rydyn ni’n edrych ar greu busnesau a’r holl bethau hynny hefyd, ond rwy’n credu os oes unrhyw beth wedi sicrhau mod i’n cael fy nghyflogi a sicrhau mod i’n cael gwaith yn y gorffennol, caredigrwydd a llawenydd fu hynny. A dwi’n meddwl yn y timau gorau ac yn y syniadau gorau, bod hynny wastad rhywle yn y cymysgedd.

Felly, ie, bod â phwrpas a pheidio â phoeni os yw’r pwrpas hwnnw’n newid dros amser. Dwi erioed wedi gwneud cynllun gyrfa. Unrhyw bryd bydd rhywun yn gofyn i mi, beth yw eich cynllun pum mlynedd? Does gen i run. Rwy’n llawer mwy o un sy’n manteisio ar sefyllfaoedd na strategydd. Ond dwi ddim yn meddwl byddwn i lle rydw i heddiw pe na bawn i wedi bod yn agored i ddysgu. Ddylai’r dysgu byth stopio.

Felly, ie, swn i’n tybio bod angen parhau i ddysgu a bod yn garedig.