string(76) "/cym/blog-posts/newyddion-i-bawb-adrodd-straeon-gwahanol-ar-gyfer-byd-gwell/" Skip to main content
int(938)
Blog

Cyhoeddwyd ar 11 Hydref 2023

Newyddion i Bawb: Adrodd Straeon Gwahanol ar gyfer Byd Gwell

Llun proffil o Shirish Kulkarni.Gan Shirish Kulkarni | Cymrawd Ymchwil Arloesedd Newyddion, Media Cymru

Mae Shirish Kulkarni wedi cael gyrfa 25 mlynedd ym maes newyddiaduraeth, ac wedi gweithio ym mhob un o brif ystafelloedd newyddion darlledu’r DU, yn ogystal ag yn y Bureau of Investigative Journalism. Mae wedi treulio’r pedair blynedd diwethaf yn archwilio ffurfiau newydd o adrodd straeon newyddiadurol, newyddiaduraeth fodiwlaidd ac ymgysylltu â’r gymuned.

Newyddion i Bawb: Adrodd Straeon Gwahanol ar gyfer Byd Gwell

Os ydym ni’n ceisio gweld sut i ddiwallu anghenion gwybodaeth pobl a chymunedau sydd yn hanesyddol wedi cael eu hanwybyddu neu eu diystyru gan sefydliadau newyddion, mae’n debyg fod gofyn i newyddiadurwyr, “Pam ddaethoch chi’n newyddiadurwr?” yn swnio fel y cwestiwn anghywir i’r bobl anghywir.

Ond hoffwn i chi feddwl am eiliad beth fyddai eich ateb. I mi, byddai’n rhywbeth fel “Oherwydd fy mod am ddweud straeon pobl a helpu i wneud y byd yn lle gwell.” Yn anobeithiol o naïf a delfrydyddol o bosib, ond wrth ofyn i newyddiadurwyr eraill mae nifer calonogol ohonom ni’n rhoi ateb digon tebyg.

Drwy gyd-ddigwyddiad, dyna’n union beth mae pobl a chymunedau ar y cyrion eisiau i ni ei wneud. Ond rwy’n gofyn cwestiwn dilynol hefyd: “Faint o hynny ydych chi’n llwyddo i’w wneud yn eich swydd o ddydd i ddydd?” Dyna pryd mae pethau’n mynd ychydig yn anoddach.

Mewn gwirionedd, mae model busnes llawer o newyddiaduraeth brif ffrwd – print, ar-lein ac yn gynyddol ar y teledu – a dweud y gwir wedi’i greu i ymosod a niweidio’r rhai sy’n fwyaf agored i niwed. Yn y cyd-destun hwnnw, ddylai neb synnu bod yr hyn a elwir yn “osgoi newyddion” wrth wraidd yr aml-argyfwng dirfodol sy’n wynebu’r diwydiant newyddiaduraeth.

Rwyf wedi ysgrifennu o’r blaen pam mai “osgoi newyddion” yw’r ffrâm anghywir ar gyfer y broblem hon, ac  mai canolbwyntio ar sut y gallwn ddarparu gwerth gwirioneddol i ddinasyddion yw’r unig ateb. Bellach, a minnau’n gweithio fel Cymrawd Ymchwil Arloesedd Newyddion i Media Cymru, ac ar y cyd â Newyddion y BBC, rwy’n ceisio darganfod sut i wneud hynny.

Dros y ddwy flynedd a hanner nesaf, byddaf yn mynd i’r afael â’r her yr wyf wedi’i gosod yn fasocistaidd i mi fy hun:

“Sut y gallem ni adrodd straeon gwahanol, mewn ffyrdd gwahanol, i ddiwallu anghenion gwybodaeth pobl a chymunedau nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn gweld neu’n cael gwerth o newyddiaduraeth, i wella gallu dinasyddion i’w deall a’u cyfeirio eu hunain yn y byd a gweithredu ar eu rhan eu hunain a’u cymunedau, gan fod cymdeithasau iach yn dibynnu ar gyhoedd gwybodus”.

I ateb rhai o’r cwestiynau allweddol hyn, bydd y prosiect “Newyddion i Bawb” yn dechrau gydag ymchwil gyfranogol a chyd-gynllunio, gan weithio ar egwyddorion Cyfiawnder Cynllunio. Mae hyn yn ymwneud â gosod y rheini y mae penderfyniad cynllunio yn effeithio’n negyddol arnynt fwyaf yn ganolog yn y broses. Yn hytrach na cheisio dod o hyd i “sampl cynrychioliadol” dychmygol, byddwn yn gweithio gyda’r rhai sydd fwyaf ar y cyrion er mwyn dod o hyd i atebion sy’n gweithio i bawb.

I gynnig enghraifft o sut mae hyn yn gweithio, dechreuon ni drwy nodi popeth a fyddai’n digwydd fel arfer mewn ymchwil defnyddwyr…pwy fydden ni’n eu gwahodd, pwy fyddai’n arwain y sesiynau, ble fydden nhw’n cael eu cynnal a phwy fyddai’n cael eu talu. Pan edrychon ni ar y rhestr fe sylweddolon ni mai’r ffordd orau i redeg ein hymchwil oedd gwneud y GWRTHWYNEB yn union, a dyna beth rydyn ni wedi’i lunio ar gyfer y prosiect hwn.

Bydd y broses yn y pen draw yn arwain at brototeipiau a gaiff eu datblygu a’u profi, yn fyw, gyda Newyddion y BBC. Ond rwyf i wastad wedi credu bod prosesau yn allbynnau hefyd, felly byddwn ni’n rhannu’r hyn sy’n gweithio, yr hyn nad yw’n gweithio, y cwestiynau mawr a’r atebion radical, mewn cyfres o erthyglau yn journalism.co.uk. Byddaf i hefyd yn ysgrifennu nodiadau wythnosol ar fy mlog fy hun yn myfyrio’n onest ar y gorau a’r gwaethaf yn y prosiect.

Byddai’n wych clywed gennych chi os oes gennych chi gwestiynau, awgrymiadau neu os hoffech gymryd rhan yn y gwaith. Mae croeso i chi gysylltu â kulkarnis4@caerdydd.ac.uk ac edrychaf ymlaen at rannu mwy yma dros y misoedd nesaf.