string(94) "/cym/blog-posts/promoting-sustainable-behaviour-in-the-media-industry-this-wales-climate-week/" Skip to main content
int(342)
Blog

Cyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2022

Hyrwyddo ymddygiad cynaliadwy yn niwydiant y cyfryngau yn rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru.

I nodi Wythnos Hinsawdd Cymru (21-25 Tachwedd), cawsom sgwrs gyda Greg Mothersdale, un o’r cynhyrchwyr yma yn Media Cymru fu’n sôn am ein prosiectau yn y dyfodol, cynaliadwyedd amgylcheddol yn sector y cyfryngau a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Dywedwch wrthym amdanoch chi’ch hun a pham mae bod yn wyrdd mor bwysig i chi.

Os yw bod yn wyrdd yn golygu amgylchedd iach i bob un ohonom ac i’r blaned, yna mae’n hollbwysig. Rwy’n gobeithio am fyd lle mae bodau dynol ac anifeiliaid yn goroesi ac yn ffynnu. Cawsom fabi yn ddiweddar ac rydym am iddi gael dyfodol disglair.

Yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, cawn ein harwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’n hysbrydoli gan gamau gweithredu sy’n cael effaith megis bod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau plastig neu’r cyhoeddiad diweddar am ddatblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r wladwriaeth.

Yn fy rôl fel cynhyrchydd yn Media Cymru, rwy’n cefnogi gweithwyr proffesiynol y cyfryngau a chwmnïau sy’n datblygu datrysiadau arloesol sy’n anelu at warchod ein hamgylchedd a lleihau ein heffaith.

Mae momentwm cynyddol ledled y diwydiant diolch i sefydliadau fel BAFTA Alberta chydweithio rhwng darlledwyr, ffrydwyr a chynhyrchwyr.

Gall y diwydiant cyfryngau hefyd ddylanwadu ar ymddygiad cynaliadwy trwy’r straeon y mae’n eu hadrodd – mae digwyddiadau sy’n digwydd yn lleol ac yn rhyngwladol yn golygu bod yn rhaid i’r amgylchedd fod y canolbwynt.

Beth yw’r datblygiad mwyaf cyffrous yn ein sector hyd yn hyn o ran cynaliadwyedd amgylcheddol?

Rwy’n edrych ymlaen at ganfyddiadau Bargen Newydd y Sgrîn: Cynllun Trawsnewid Cymru sy’n gynllun peilot cynhyrchu cynaliadwy rydym yn gweithio arno ar hyn o bryd gyda BAFTA albert, y BFI, ARUP, Cymru Greadigol, a Ffilm Cymru Wales sy’n helpu’r sector cynhyrchu cyfryngau lleol i drawsnewid trwy leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr a’i wastraff.

A beth fu’r prosiect mwyaf cyffrous rydych chi’n bersonol wedi gweithio arno?

Defnyddiodd prosiect Cronfa Her Clwstwr Cymru Werdd Severn Screen ddull manwl seiliedig ar ddata i wneud cynhyrchu ffilmiau gwyrdd yn wyrddach yn ystod cynhyrchiad pen uchel.

Roedd ganddynt stiward amgylcheddol llawn amser ymroddedig, Tilly Ashton, a oedd yn gwbl ymroddedig i ddatblygu gwasanaeth mwy cynaliadwy. Mae ganddynt gymaint i’w rannu a’i ddwyn ymlaen.

A oes gennych unrhyw gyngor i bobl gartref sy’n meddwl tybed beth y gallan nhw ei wneud yn ein sector i fod yn wyrddach?

I’r rhai sy’n gweithio ym maes cynhyrchu ffilm a theledu, cwblhewch yr arolwg hwn i’n helpu i ddatblygu gwell llwybr at gynhyrchu cynaliadwy yng Nghymru, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer hyfforddiant.

Mae gan Ffilm Cymru a Gŵyl Animeiddio Caerdydd rai adnoddau a chyfeirio hynod ddefnyddiol ar eu gwefannau.

Os ydych yn datblygu ac yn adrodd straeon, cynhwyswch yr amgylchedd ar bob cyfle.

Ac yn olaf, a allwch chi roi ychydig o flas i ni ar brosiectau Media Cymru yn y dyfodol gyda ffocws gwyrdd a pha rai rydych chi’n edrych ymlaen fwyaf at weithio arnyn nhw?

Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid, Ffilm Cymru Wales, ar ehangu gwaith Green Cymru i roi atebion i heriau gwyrdd o fewn y diwydiant sgrîn.

Mae ein Piblinell Arloesedd hefyd yn rhoi cyfle gwych i’r rhai sydd am ymchwilio a datblygu atebion arloesol ar gyfer diwydiant cyfryngau gwyrddach a thecach – ni allaf aros i weld beth sy’n digwydd nesaf.

Os ydych yn datblygu ac yn adrodd straeon, cynhwyswch yr amgylchedd ar bob cyfle.