string(31) "/cym/dewch-i-weithio-gyda-ni-2/" Skip to main content
int(971)
News

Cyhoeddwyd ar 13.11.2023

Dewch i weithio gyda ni.

Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol (cyfnod mamolaeth)

Dewch i weithio gyda ni! Rydym yn chwilio am Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol i ymuno â thîm Media Cymru.

Bydd deiliad y rôl yn cydlynu cyfathrebiadau ac ymgysylltu ar draws Consortiwm Media Cymru a’r clwstwr creadigol ehangach, gan roi ymgyrchoedd sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol y rhaglen ar waith. Bydd yn gyfrifol am arwain a chyfarwyddo gwaith y tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu gan lunio, rheoli a goruchwylio’r gwaith o roi strategaethau ymgysylltu a chyfathrebu ar waith ym mhob maes gwaith perthnasol.

Mae’r swydd hon yn un amser llawn am dymor penodol tan 31 Ionawr 2025. Swydd cyfnod mamolaeth yw hon.

Dyddiad cau 30 Tachwedd.

Rhagor o wybodaeth a gwneud cais

Os daw digon o geisiadau i law, mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau gweithle cynhwysol. Rydym yn credu y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a’r byd.  Er mwyn cynorthwyo ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.