string(29) "/cym/dewch-i-weithio-gyda-ni/" Skip to main content
int(818)
News

Cyhoeddwyd ar 23.06.2023

Dewch i weithio gyda ni.

Swyddog Cyfathrebu Digidol (cyfnod mamolaeth)

Dewch i weithio gyda ni! Rydyn ni ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Swyddog Cyfatherbu Digidol i gyfleu gweithgareddau ac uchelgeisiau rhaglen Media Cymru.

Bydd deiliad y rôl yn creu ac yn gweithredu cynnwys digidol arloesol a chreadigol er mwyn ennyn diddordeb amrywiaeth o randdeiliaid. Mae hyn yn cynnwys datblygu gwefan, e-gyfathrebiadau a chynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol, yn ddwyieithog, yn amserol ac o ansawdd uchel, gan ryngweithio â Chonsortiwm ehangach Media Cymru a bod yn hyrwyddwr brand ar gyfer y rhaglen.

Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol hyd 14 Mehefin 2024. Mae hon yn swydd clawr mamolaeth.

Dyddiad cau: Dydd Sul 9 Gorffennaf, 2023

Rhagor o wybodaeth a gwenwch gais

Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio’n hyblyg.