Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 05.07.2023
Dosbarth Meistr Sony Camera
Dyddiad: 11.07.2023
Amser: 12.30pm, 3pm and 5pm
Lleoliad: BBC Sgwâr Canolog
Cyflawni’n gyflym heb effeithio ar ansawdd, ar gyfer Rhaglenni Dogfen a Newyddion. Cyflwyniad arbenigol i FX3, FX6 a Z280 a’r offer newydd a fydd yn gwneud eich gwaith yn haws.
Ymunwch â thîm Mannau Arloesedd Media Cymru am daith dywys o’r dechnoleg camera ddiweddaraf gan Sony, gan eich helpu i ddewis yr offer cywir ar gyfer y swydd.
Byddant yn esbonio’r offer diweddaraf i griwiau rhaglenni dogfen / newyddion / newyddiaduraeth, gan gynnwys pa gamerâu sydd fwyaf addas ar gyfer gwahanol raglenni a sut y gall maint y synhwyrydd, dewis lens a datblygiadau newydd, megis llifoedd gwaith sy’n canolbwyntio ar y cwmwl a ffocws awtomatig, eich helpu i wneud y gorau o’r ffordd rydych chi’n gweithio.
Bydd camerâu FX3, FX6 a PXW-Z280 yn cael eu harddangos.
Mae tair sesiwn 90 munud ar wahân wedi’u trefnu a bydd pob un yn ymdrîn â’r un cynnwys, felly cofrestrwch ar gyfer un yn unig.