string(44) "/cym/events/iwd-2024-pwy-syn-ofni-arloesedd/" 11142860 Skip to main content
int(1114) 11142860
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 29.02.2024

IWD 2024: Pwy sy’n ofni arloesedd?

Dyddiad: 08.03.2024

Amser: 3pm - 5pm

Lleoliad: BBC Cymru Wales, Innovation Lounge 3 Central Square

Paned i Ysbrydoli mis Mawrth: Pwy sy’n ofni arloesedd?

Ar gyfer Paned i Ysbrydoli mis Mawrth, rydym yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol.

Dydd Gwener 8 Mawrth yw Diwrnod Rhyngwladol y Merched, ac eleni’r thema yw ‘Arloesi a Thechnoleg’. Pa gyfle gwell sydd i arddangos rhai o’r arloesi anhygoel sy’n digwydd yng nghwmnïau creadigol dan arweiniad menywod Caerdydd? Felly, y mis hwn rydym yn partneru gyda Creative Collective a Media Cymru i wneud yn union hynny.

Ymunwch â ni yn Sgwâr Canolog BBC Cymru i glywed gan banel o ferched disglair sy’n gweithio yn y sector creadigol a fydd yn rhannu eu barn ar yr hyn y mae arloesi’n ei olygu iddyn nhw, a sut aethon nhw ati i ymgorffori ymchwil a datblygu yn eu hymarfer. Byddwn yn archwilio astudiaethau achos, yn rhannu arfer gorau ac yn trafod sut i oresgyn rhwystrau i roi syniadau a phrosesau newydd ar waith yn eich busnes. Bydd cyfle hefyd i ddysgu am Gronfa Sbarduno Ffrwd Arloesedd Media Cymru sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau.