string(45) "/cym/funding/arloesi-ar-gyfer-pobl-greadigol/" Skip to main content
int(4057)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 30.10.2024

Arloesi ar gyfer Pobl Greadigol 

Cwrs pum diwrnod ar gyfer myfyrwyr coleg a phrifysgol neu raddedigion, gweithwyr llawrydd ar ddechrau eu gyrfa, neu berchnogion busnesau bach sydd â diddordeb yn y diwydiannau creadigol. 

Ceisiadau ar agor: Dydd Mawrth 5 Tachwedd

Dyddiad cau: Dydd Gwener 29 Tachwedd

Dyddiadau Allweddol

  • Ceisiadau ar agor: Dydd Mawrth 5 Tachwedd
  • Ceisiadau yn cau: Dydd Gwener 29 Tachwedd
  • Dyddiadau cwrs: 13 – 16 a 24 Ionawr 2025

Trosolwg  

Mae Arloesedd i Bobl Greadigol yn gwrs pum diwrnod sydd wedi’i anelu at fyfyrwyr coleg a phrifysgol neu raddedigion, gweithwyr llawrydd ar ddechrau eu gyrfa, neu berchnogion busnesau bach sydd â diddordeb yn y diwydiannau creadigol.   

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dysgu am y canlynol:  

  • Sut i gydweithio ag eraill  
  • Prosesau ymchwil, datblygu ac arloesi  
  • Datblygu busnes ac entrepreneuriaeth  
  • Sut i greu a phrofi prototeipiau newydd  
  • Pam mae dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ffordd hygyrch o arloesi  

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys tridiau gyda PDR, dau ddiwrnod gyda Sefydliad Alacrity a mynediad at borth dysgu digidol ar-lein.   

Mae PDR yn gyfleuster ymgynghori dylunio ac ymchwil gymhwysol o’r radd flaenaf. Mae Sefydliad Alacrity yn sefydliad addysgol sy’n mentora’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.   

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal rhwng 13 a 16 Ionawr 2025, gyda’r diwrnod olaf yn cael ei gynnal ar 24 Ionawr.

Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfranogwyr yn deall sut i droi syniadau’n gynigion arloesol sy’n ymgorffori anghenion defnyddwyr.  

Bydd bwrsari o £500 yn cael ei ddarparu i bob cyfranogwr.  

Hygyrchedd   

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os hoffech drefnu cyfarfod un-i-un i drafod eich cais, e-bostiwch media.cymru@cardiff.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.   

Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), anfonwch e-bost i media.cymru@cardiff.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.   

Gwneud cais  

Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn darllen y ddogfen ganllawiau cyn llenwi eich cais.    

Dyddiad cau: Dydd Gwener 29 Tachwedd, noon.

Ymwadiad: 

Rhaid cyflwyno pob cais trwy’r ffurflen ar-lein ar ein gwefan.   

Sylwch, bydd bwrsari o £500 yn cael ei ddarparu i bob cyfranogwr.