string(29) "/cym/funding/cronfa-sbarduno/" Skip to main content
int(1388)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 23.07.2024

Cronfa Sbarduno

Hyd at £10,000 i weithwyr llawrydd a BBaChau yng Nghymru i ddatblygu syniadau ar gyfer cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau.

Ceisiadau ar agor: Dydd Llun 7 Hydref 2024

Ceisiadau yn gau: Dydd Iau 31 Hydref 2024

Trosolwg 

Mae Cronfa Sbarduno Media Cymru yn galluogi unigolion a chwmnïau yng Nghymru i wneud cais am hyd at £10,000 i ymchwilio a datblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau sy’n cael eu gyrru gan arloesedd yn y sector cyfryngau. 

Rydyn ni’n chwilio am syniadau sydd â photensial tymor hir i chi neu eich busnes. Erbyn diwedd y prosiect, bydd gennych sylfeini ar gyfer cynllun busnes, rhagolwg ariannol a dec cyflwyno a fydd yn eich galluogi i gyflwyno cais am gyllid i fuddsoddwyr. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am hyd at £50,000 o Gyllid Datblygu Media Cymru i fynd â’ch syniad i’r lefel nesaf.  

Y Cwmpas

Gall eich prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o’r canlynol:

  • Fformatau cyfryngau newydd a datblygu cynnwys arloesol 
  • Cynhyrchu cyfryngau uwch, gan gynnwys cydgyfeirio cynhyrchu rhithwir a chynhyrchu traddodiadol 
  • Modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau newydd a chynhwysol 
  • Sero net a datgarboneiddio’r sector sgrin (mae croeso arbennig i brosiectau sy’n ymateb i ganfyddiadau Cynllun Trawsnewid Screen New Deal ar gyfer Cymru 
  • Adrodd straeon drwy dechnolegau ymgolli Realiti Estynedig (XR), gan gynnwys Realiti Rhithwir (VR), Realiti Estynedig (AR) a Realiti Cymysg (MR) 
  • Creu cynnwys gemau fideo a’u cynhyrchu, gan gynnwys cydgyfeirio â chyfryngau eraill 
  • Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau eraill fel offer ar gyfer cynhyrchu’r cyfryngau 
  • Creu lleoedd, gan gynnwys twristiaeth ddiwylliannol a’r cyfryngau 
  • Cynhyrchu dwyieithog ac amlieithog 
  • Newyddion a gwybodaeth gyhoeddus 
  • Cynhyrchu cerddoriaeth, llais a sain, gan gynnwys perfformio a dosbarthu. 

Nid yw’r Gronfa Sbarduno yn addas ar gyfer y canlynol:  

  • Datblygu cynnwys generig (er enghraifft, datblygu ffilmiau byr, ffilmiau mawr neu gynlluniau peilot teledu sy’n cydymffurfio â genres safonol ac arferion adrodd straeon)   
  • Datblygu busnes cyffredinol, neu  
  • Comisiynau celf untro. 

Dyddiadau Allweddol 

  • 7 Hydref 2024 – Ceisiadau ar agor
  • 31 Hydref 2024 – Ceisiadau’n cau am hanner dydd: sylwch ni dderbynnir ceisiadau ar ôl yr amser hwn
  • 6 Rhagfyr 2024 – Ymgeiswyr yn cael gwybod
  • 21-23 Ionawr 2025 – Gweithdy Lab Syniadau (Excelsior Road, Caerdydd CF14 3AT)
  • 3 Chwefror 2025 – Prosiectau’n dechrau. 

Hygyrchedd   

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen) neu os hoffech drafod y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, adroddiad sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith arall) anfonwch e-bost i media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434. 

Cymhwysedd 

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o sefydliadau amrywiol sy’n wahanol o ran eu maint, gan gynnwys microfusnesau, unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd.   

Meini prawf cymhwysedd: 

  • Mae eich cwmni neu’ch practis wedi’i leoli yng Nghymru   
  • Mae gennych syniad ymchwil a datblygu wedi’i fynegi’n glir   
  • Rydych chi’n gweithio yn niwydiant cyfryngau Cymru, neu mae eich syniad o fudd uniongyrchol i ddiwydiant cyfryngau Cymru   
  • Gallwch neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect ymchwil a datblygu rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2025
  • Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn a’i ariannu fesul cwmni/sefydliad fel arweinydd prosiect. 

Beth yw Ymchwil a Datblygu? 

Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well.  

Gan ystyried cyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, profi neu arbrofi gyda thechnoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu rithgynhyrchu. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio sy’n flaengar, yn decach ac yn fwy cyfeillgar i’r blaned.. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.  

Dyma’r math o brosiectau ymchwil a datblygu rydyn ni’n chwilio amdanynt: 

  • Gwreiddiol: bydd yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg 
  • Creadigol: bydd yn defnyddio dulliau arbrofol ac yn cynhyrchu canfyddiadau newydd 
  • Ansicr: bydd yn dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol 
  • Systematig: bydd yn seiliedig ar ddull gweithredu wedi’i gynllunio a’i gyllidebu 
  • Trosglwyddadwy: bydd yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu er mwyn sicrhau manteision ehangach.  

Pileri Media Cymru  

Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau o’n pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:  

  • Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol y sector 
  • Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol 
  • Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol   
  • Twf – sbarduno twf a chynhyrchiant drwy Ymchwil a Datblygu. 

Lab Syniadau  

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus o’r Gronfa Sbarduno fynychu gweithdy Lab Syniadau tridiau a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng dydd Mawrth 21 a dydd Iau 23 Ionawr 2025. Arweinir y gweithdy gan PDR, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ymchwil a Dylunio a The Alacrity Foundation UK 

Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol:  

  • Deall Ymchwil a Datblygu a sut i’w gymhwyso i syniad   
  • Gwerth profi ailadroddol, cydweithio a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr   
  • Datblygu busnes ac entrepreneuriaeth   
  • Annog rhywun i feddwl am sut i lansio cynnyrch a chynhyrchu cyllid cyhoeddus/preifat.   

Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfranogwyr yn deall sut i droi syniadau’n gynigion arloesol sy’n ymgorffori anghenion defnyddwyr.  

Darperir bwrsariaeth o £500 i bawb sy’n bresennol yng ngweithdy’r Lab Syniadau, yn ogystal â’r cyllid a ddyfarnwyd ar gyfer eich prosiect sbarduno. 

Unrhyw gwestiynau?

Ymunwch â’n gweminar friffio (Dydd Mercher 9 Hydref, 11am) i gael gwybod rhagor am y Gronfa Sbarduno, siarad â’n cynhyrchwyr yn Media Cymru a gofyn cwestiynau.