string(96) "/cym/media-cymrus-final-development-fund-prompts-1-million-investment-in-future-facing-projects/" Skip to main content
int(4920)
News

Cyhoeddwyd ar 09.07.2025

Galwad olaf Cronfa Datblygu Media Cymru yn ysgogi buddsoddiad o £1 miliwn mewn prosiectau at y dyfodol  ar gyfer sector y cynfryngau

People at event

Mae Media Cymru wedi croesawu 20 o brosiectau newydd yn rownd derfynol Cronfa Datblygu’r ffrwd arloesedd. Mae budd o £50K yr un ar y gorwel i fusnesau bach a chanolig a gweithwyr llawrydd Cymru i ymchwilio a datblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau arloesol ar gyfer y sector cyfryngau.  

Mae prosiectau’r garfan newydd yn cwmpasu ystod o feysydd amrywiol megis realiti estynedig (AR), deallusrwydd artiffisial (AI), atebion gwyrdd ac arferion hygyrch yn y diwydiant sgrin, cynhyrchu cyfryngau yn y Gymraeg, perfformio trochol a phrofiadau sain.   

Dywedodd Cyfarwyddwr Media Cymru, Justin Lewis:  

 “Roedd y rownd hon o gyllid datblygu yn un o’r rowndiau anoddaf a mwyaf cystadleuol i ni ei gweld yn Media Cymru. Mae’r ystod o brosiectau llwyddiannus yn cynrychioli rhychwant eang o atebion, cynhyrchion a phrofiadau arloesol sy’n mynd i’r afael ag anghenion y sector a’i gynulleidfaoedd yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r garfan newydd gyffrous hon o arloeswyr a gweld i ble mae’r broses Ymchwil a Datblygu yn mynd â nhw…”  

Mae’r cyllid newydd yn dilyn galwad cyllid yn 2024, lle dyfarnwyd £1 miliwn i 24 o brosiectau yn cwmpasu meysydd fel e-chwaraeon, deallusrwydd artiffisial moesegol a phrofiadau rhithwir. Mae prosiectau Cronfa Datblygu 2025 yn cyd-fynd â chenhadaeth ehangach Media Cymru i gefnogi diwydiant cyfryngau tecach, gwyrddach a chynaliadwy yn economaidd yng Nghymru.  

Carfan Cronfa Datblygu 2025 fydd y grŵp olaf i gael cynnig y cyfle, fel rhan o Ffrwd Arloesedd Media Cymru. Cyfres o alwadau cyllid wedi’u targedu yw’r ffrwd i fusnesau Cymru archwilio a datblygu eu syniadau cynnar drwy’r camau i’w troi’n brosiectau sydd wedi’u dilysu’n llawn, er budd sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd fel rhan o genhadaeth Media Cymru i chwyldroi a diogelu sector y cyfryngau at y dyfodol.  

Dyfarnwyd cyllid o’r Gronfa Ddatblygu i Infinite Renewables am eu prosiectPweru Dyfodol Ffilm ar gyfer dyfodol carbon isel‘. Mae Infinite Renewables yn ddatblygwr ynni adnewyddadwy arbenigol yng Nghymru sy’n dylunio ac yn gosod systemau ynni adnewyddadwy ledled y DU ac yn rhyngwladol. Maen nhw’n awyddus i ystyried dewisiadau amgen i generaduron diesel ar safleoedd ac yn bwriadu datblygu generadur ynni symudol adnewyddadwy ar gyfer sector y cyfryngau.   

Dywedodd Nigel Hollett, Ymgynghorydd Materion Allanol yn Infinite Renewables: 

“Rydym yn gyffrous iawn am ein prosiect i ddatblygu generadur trydan symudol ar gyfer y sector cyfryngau sy’n gweithredu gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Bydd modd ei gludo i unrhyw le lle mae angen pŵer a lle nad oes grid trydan lleol. Gobeithiwn y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatgarboneiddio’r sector drwy leihau’r defnydd o eneraduron diesel.”  

Mae’r cwmni newydd Breaking Change o Gymru wedi cael cyllid o’r Gronfa Ddatblygu i hyrwyddo eu gwaith uchelgeisiol mewn technoleg a phrofiadau sy’n cael eu sbarduno gan efelychu ar gyfer chwaraewyr gemau. Bydd eu prosiect yn ymchwilio i dechnegau efelychu amgylcheddol a dysgu dwfn arloesol i greu profiadau cyfoethog a throchol sy’n ailddyfeisio’r ffordd y mae chwaraewyr yn rhyngweithio ag amgylcheddau ymatebol ac yn eu trawsnewid.    

Dyma ddywedodd Jonathan Quinn, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Breaking Change:   

Rydyn ni’n edrych ymlaen at y prosiect hwn. Mae Cronfa Ddatblygu Media Cymru yn rhoi’r cyfle inni drin a thrafod syniadau rydyn ni wedi bod yn angerddol amdanyn nhw ers amser maith, gan ein galluogi i ymgymryd â heriau technegol mawr a thyfu ein galluoedd fel tîm. Yn y pen draw, rydyn ni am helpu i osod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu deallusrwydd artiffisial ar gyfer gemau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwaith o fudd nid yn unig i gemau, ond hefyd i ddiwydiannau creadigol cysylltiedig.” 

Cafodd y prosiect ‘Making Waste Pay in the Television Production Sector’ gan South Shore Productions hefyd gyllid gan y Gronfa Ddatblygu. Mae South Shore yn gwmni cynhyrchu teledu annibynnol sydd ddim yn defnyddio sgriptiau. Mewn partneriaeth â Potenix, byddan nhw’n datblygu ac yn profi bio-eneradur cludadwy y gall dimau cynhyrchu ei ddefnyddio wrth ffilmio ar leoliad i leihau gwastraff bwyd a lleihau dibyniaeth ar ffynonellau ynni budr.  

Dywedodd Anthony Hughes, Prif Swyddog Ariannol, yn South Shore:  

“Mae South Shore yn falch dros ben o bartneru â’r cwmni biodechnoleg newydd Potenix a’r tîm yn Media Cymru, PDR ac Alacrity i ddatblygu a threialu bio-eneradur cludadwy i’w ddefnyddio mewn lleoliadau ffilmio i leihau’r defnydd o ynni a gwastraff. Bydd y treial yn gweld data cynhwysfawr yn cael ei gasglu wrth i’r bio-eneradur gael ei ddefnyddio mewn nifer o leoliadau ffilmio yn ystod 2025, gyda’r nod o brofi’r achos masnachol dros ddefnyddio bio-eneraduron ar draws y sector cynhyrchu teledu.” 

Bydd prosiectau a gyllidir ar waith rhwng Gorffennaf 2025 a Mai 2026, gyda chefnogaeth ac arweiniad gan bartneriaid Media Cymru PDR ac Alacrity.  

Prosiectau a gyllidir gan Gronfa Datblygu 2025:

  • Atgof Cyf: Set offer gyda chymorth deallusrwydd artiffisial sy’n galluogi unrhyw un sy’n gweithio ar gynhyrchiad teledu ar sail sgript i gyrchu a chynhyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt 
  • Breaking Change: Ailddiffinio Trochi mewn Gemau Fideo gydag Amgylcheddau Dadffurfiadwy Amser Real a Sbardunir gan ddeallusrwydd artiffisial 
  • BumpyBox Ltd: ‘Tiny Buds Interactive’ – ffordd newydd i blant cyn-ysgol gael profiad o deledu animeiddiedig 
  • Cowshed: ‘Game-Changer’ – rheolydd gemau modiwlaidd hygyrch i alluogi pobl ifanc anabl yng Nghymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyrchu byd gemau
  • Dark Arts Digital: ‘Hidden Hits’ – Datgloi cyfleoedd cudd o ddata ffrydio artist 
  • Dizzy Bango Ltd: Eiliad: Platfform ar gyfer Naratifau Llesiant Sain Addasol wedi’u Personol
  • Front grid / FG Innovations: Gwthio ‘Paradrop’ i esblygiad naratifau gemau llinol 
  • Infinite Renewables: Pweru Dyfodol Ffilm ar gyfer dyfodol carbon isel 
  • Pyka: ‘The Expression Orchestra’ – cyfres o offerynnau amlsynhwyraidd wedi’u cynllunio i gynyddu mynediad at fynegiant cerddorol 
  • Red Seam: Archwilio posibiliadau ar gyfer perfformiadau byw i bawb, a chyfleoedd marchnad newydd mewn gofod digidol a rhithrealiti sy’n esblygu 
  • Cyfryngau Digidol S4C: Dod â digwyddiadau cerddoriaeth rhyngweithiol byw i’r ystafell fyw 
  • South Shore Productions: Gwneud i Wastraff Dalu yn y Sector Cynhyrchu Teledu 
  • Tinopolis Rhyngweithiol: Datblygu teledu sy’n cael ei yrru gan gynnwys trwy brosesau effeithiau gweledol (VFX) darbodus 
  • Triongl: ‘SgrînPass’ – Pasbort Mynediad Digidol i symleiddio adrodd data EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant) a chefnogi gwell cynhwysiant yn y diwydiant sgrin 
  • Turbulence: Gefeillio Digidol ar gyfer Cynhyrchu Rhithwir a Thrwyddedu Lleoliadau
  • Unquiet Media: PreProdX: Archwilio prosesau cyn-gynhyrchu mwy effeithlon a hygyrch 
  • Wild Connect: Datblygu Pecyn Cymorth Arolygu Effaith ar Natur ar gyfer y Diwydiant Adloniant 
  • Wild Dream Films: Ap rhyngweithiol realiti estynedig (AR) i blant 5-8 oed, wedi’i ysbrydoli gan anturiaethau Martha a Freddy
  • Work Wild: Mae ‘GetSet Cymru’ yn bodloni argymhelliad craidd Bargen Newydd y Sgrin Cymru: “creu’r lle a’r seilwaith ar gyfer ailddefnyddio”
  • Y Pod Cyf: Fersiwn 2 y Llais – Cydamseru gwefusau a dybio wedi’i sbarduno gan ddeallusrwydd artiffisial yn yr iaith Gymrae
  • Yellobrick: Gentle Gathering: fformat cyfryngau newydd arbrofol sy’n cyfuno bwyta cymunedol, hwyluso deallusrwydd artiffisial, a mapio taflunio.