string(26) "/cym/projects/cymru-werdd/" Skip to main content

Cronfa Gwyrddu'r Sgrîn

Darparu atebion i heriau cynaliadwyedd yn y diwydiant sgrin. 

Media Cymru gyda Ffilm Cymru

Beth yw Cronfa Gwyrddu'r Sgrîn?

Mae’r prosiect hwn yn ehangu ar ymdrechion cynaliadwyedd presennol Ffilm Cymru yn rhan o’u rhaglen drosfwaol Cymru Werdd. Trwy gyllid arloesedd, mae Gwyrddio’r Sgrîn yn cynnig atebion i heriau gwyrdd yn y diwydiant sgrîn ac yn cefnogi’r gwaith o gynyddu cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau cynaliadwy.

Bydd Cymru Werdd yn creu ymrwymiad i newid cadarnhaol trwy godi ymwybyddiaeth amgylcheddol a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio sgrin cynaliadwy.

Cronfa Gwyrddio’r Sgrîn (2023-24)

Roedd cronfa Gwyrddio’r Sgrîn yn canolbwyntio ar ehangu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau, a hynny er mwyn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol y diwydiant sgrîn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ar sail ymchwil y BFI a BAFTA albert drwy ei Screen New Dea , nod y prosiectau a ariennir oedd lleihau effaith negyddol y sector ar yr amgylchedd trwy feysydd effaith allweddol megis ynni a thanwydd, trafnidiaeth, economi gylchol a gwastraff, casglu a lledaenu data.

Cronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrîn (2024-25)

Wedi’i llywio gan Gynllun Trawsnewid BAFTA albert i Gymru, sef Screen New Deal, nod y Gronfa Ddatblygu hon yw troi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu cyfryngau cynaliadwy.

Mae’r gronfa wedi buddsoddi dros £300,000 i ddatblygu saith prosiect arloesol gyda’r nod o wneud y sector teledu a ffilm yng Nghymru yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Mae prosiectau’n cwmpasu elfennau amrywiol o gynhyrchu, gan gynnwys pŵer, trafnidiaeth, bwyd, dŵr, a deunyddiau adeiladu.

Cronfa Straeon am yr Hinsawdd (2024-25)

Mae Cronfa Straeon am yr Hinsawdd ar gyfer prosiectau Ymchwil a Datblygu ar gyfer ffilmiau hir neu brofiadau trochi sy’n adrodd stori argyfwng yr hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.

Sut mae’n gweithio 

  • Cam 1: Ymchwil a Datblygu – hyd at £20,000 ar gyfer cyfnod ymchwil a datblygu pedwar mis, sy’n cynnwys Labordy Cipolwg er mwyn cynnig cipolygon arbenigol ar argyfwng yr hinsawdd ac adrodd straeon ar yr hinsawdd i brosiectau.
  • Cam 2: Gall prosiectau llwyddiannus wneud cais am £50,000 pellach i ddod â’u prosiect yn fyw trwy Ffilm Cymru Wales.

Dysgwch am Wyrddio'r Sgrîn

Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn

Tachwedd 2024: Cwmniau Ffilm a Theledu o Cymru yn cael cyllid i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer gwneud y sector sgrin yn fwy gwyrdd

Mae Ffilm Cymru Wales a Media Cymru wedi buddsoddi £307,675 i ddatblygu saith prosiect arloesol i geisio gwneud sector sgrin Cymru yn fwy gwyrdd.

Rhagor o wybodaeth
Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn

Mai 2024: Gwyrddio’r sgrin: lansio cronfa datblygu

Mae Media Cymru a Ffilm Cymru Wales yn lansio Cronfa Datblygu newydd gyda’r nod o droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu cyfryngau cynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth
Film shoot on a Welsh mountainside for Beddgelert, dir. Medeni Griffiths, Ffilm Cymru Wales.

Ionawr 2024: Peilota llwybr at ddyfodol cynaliadwy gyda Bargen Newydd y Sgrin Cymru

Amlinellodd BAFTA albert yr argymhellion allweddol yn adroddiad Bargen Newydd y Sgrin (SND): Cynllun Trawsnewid Cymru, sy’n gosod llwybr at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y diwydiannau ffilm a theledu safon uwch ochr yn ochr â’i ail Uwchgynhadledd Gynhyrchu flynyddol, a oedd wedi ei chynnal yng Nghaerdydd.

Rhagor o wybodaeth
Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn

Medi 2023: Lansio Cystadleuaeth Cyllid Gwyrddu’r Sgrin

Mae Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn ariannu’r gwaith o ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau, gan wella cynaliadwyedd amgylcheddol y diwydiant sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth