string(37) "/cym/projects/her-ffilm-ryngweithiol/" Skip to main content

Her Ffilm Ryngweithiol 

Gosod Cymru ar fap y byd fel canolbwynt ar gyfer creu ffilmiau rhyngweithiol.

Beth yw'r Her Ffilm Ryngweithiol?  

Mae’r Her Ffilm Ryngweithiol yn datblygu ffrydiau chwarae gemau a ffrydiau refeniw newydd drwy ymchwilio i ffiniau naratifau rhyngweithiol a meithrin partneriaethau strategol er mwyn cynnig cyfleoedd i’r gymuned greadigol ehangach.  

Sut weithiodd 

 Medi 2022: Cyhoeddodd Wales Interactive alwad i awduron â diddordeb mewn dod yn feistr ar adrodd straeon rhyngweithiol neu ddod o hyd i genres newydd. Nod y cyfle oedd datblygu ac uwchsgilio awduron newydd ac awduron sydd wedi ennill eu plwyf.   

Ebrill 2023: Cynhaliodd Wales Interactive weithdai adrodd straeon rhyngweithiol. Dysgodd yr ymgeiswyr llwyddiannus sut i wthio ffiniau adrodd straeon rhyngweithiol a sut i ddatblygu syniad a’i wneud yn berffaith.  

Yr Haf 2023: Cafodd Dark Rift Horror ei ddewis i wneud gwaith ymchwil a datblygu gyda Wales Interactive er mwyn creu ffilm ryngweithiol.   

Chwefror 2024: Lansiodd Dark Rift Horror ei brototeip o’r ffilm ryngweithiol ‘Dead Reset’.  

Dysgwch am yr Her Ffilm Ryngweithiol  

Her Ffilm Ryngweithiol

Mehefin 2023: Wales Interactive yn cynnal gweithdai adrodd straeon rhyngweithiol

Yn ddiweddar cynhaliodd Wales Interactive eu prosiect Media Cymru sef yr Her Ffilm Ryngweithiol, oedd yn weithdy ar gyfer awduron. Yn dilyn galwad agored ym mis Medi 2022, croesawodd gweithdai The Secrets to Writing Interactive Content ddau ar bymtheg o bobl greadigol, i roi tro ar adnodd naratif arloesol Wales Interactive (WIST) , a datblygu eu hysgrifennu i’r lefel nesaf.

Rhagor o wybodaeth